Amadeus (drama)
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Peter Shaffer |
| Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Pwnc | Dramâu Cymraeg |
| Argaeledd | mewn print |
| ISBN | 9781843233527 |
| Lleoliad y perff. 1af | y Theatr Genedlaethol Frenhinol |
| Dyddiad y perff. 1af | 2 Tachwedd 1979 |
| Lleoliad y gwaith | Archddugiaeth Awstria |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0bdh4 |
Cyfieithiad neu drosiad Cymraeg o ddrama sy'n portreadu'r berthynas dymhestlog rhwng y cyfansoddwyr Antonio Salieri a Mozart gan Peter Shaffer a Ken Owen yw Amadeus. Llwyfannwyd y ddrama Gymraeg gan Gwmni Theatr Gwynedd yn 2000 wedi'i gyfarwyddo gan Graham Laker.[1]
Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2004. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[2]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]"Pan fu farw Mozart yn 1791, roedd si ar led iddo gael ei wenwyno gan gerddor arall, Antonio Salieri. Dyma fan cychwyn drama Iwyddiannus Peter Shaffer. Noswyl ei farwolaeth, mae Salieri'n hel atgofion am ei berthynas dymhestlog â Mozart, a'r amgylchiadau a arweiniodd at dranc un o'r cyfansoddwyr mwyaf a welodd y byd erioed."[1]
Digwydd y ddrama yn Fienna ym mis Tachwedd 1823 ac yn ystod degawd 1781 - 1791.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama wreiddiol gan y National Theatre yn Llundain ym 1979, o dan gyfarwyddyd Syr Peter Hall gyda Paul Scofield fel Salieri, Simon Callow fel Mozart a Felicity Kendal fel Constanze.
Agorodd y ddrama ar Broadway ar yr 11 Rhagfyr 1980 gyda Ian McKellen fel Salieri, Tim Curry fel Mozart a Jane Seymour fel Constanze.
Cafodd y ddrama ei hail-lwyfannu ym 1998 yn The Old Vic, Llundain wedi'i gyfarwyddo eto gan Peter Hall. Y Cymro Michael Sheen oedd Mozart, David Suchet fel Salieri, a Cindy Katz fel Constanze.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Antonio Salieri
- Wolfgang Amadeus Mozart
- Constanze Weber - gwraig Mozart
- Joseff II - Ymerawdwr Awstria
- Cownt Johann Kilian Von Strack - Gwas y Siambr Ymerodrol
- Cownt Franz Orsini-Rosenburg - Cyfarwyddwr yr Opera Ymerodrol
- Barwn Gottfried Van Swieten - Pennath y Llyfrgell Ymerodrol
- 2 x Venicelli - 'Gwyntoedd Bach' - cymeriadau sy'n rhannu gwybodaeth, sibrydion a hel clecs
- Distain
- Gwas Salieri - rhan fud
- Cogydd Salieri - rhan fud
- Teresa Salieri - Gwraig Salieri - rhan fud
- Katherina Cavalieri - Disgybl Salieri - rhan fud
- Kapellmeistr Bonno - rhan fud
- Dinasyddion Fienna
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama Gymraeg am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ar y 7 Tachwedd 2000 yn Theatr Gwynedd, Bangor. Cyfarwyddwr : Graham Laker; cynllunydd : Martin Morley; sain : Siôn Havard Gregory; goleuo : Tony Bailey Hughes; cast:
- Antonio Salieri - Wynford Ellis Owen
- Wolfgang Amadeus Mozart - Arwel Gruffydd
- Constanze Weber - Manon Elis
- Joseff II - Gwyn Parry
- Cownt Johann Kilian Von Strack - Grey Evans
- Cownt Franz Orsini-Rosenburg - Mici Plwm
- Barwn Gottfried Van Swieten - Trefor Selway
- 2 x Venicelli - Owen Arwyn a Cian Marc
- Teresa Salieri - Llinos Roberts
- Katherina Cavalieri - Ceri Hughes
- Kapellmeistr Bonno - Neil Williams
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Owen, Ken (2004). Amadeus. Gomer. ISBN 9781843233527.
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013