Amadís de Gaula

Oddi ar Wicipedia

Rhamant ryddiaith o Benrhyn Iberia o'r 14g yw Amadís de Gaula. Ysgrifennwyd ar y ffurf sy'n goroesi gan Garci Rodríguez de Montalvo yn ail hanner y 15g, a fe'i argraffwyd yn nechrau'r 16g. Mae'n seiliedig ar fersiynau Portiwgaleg gwreiddiol sydd ar goll, o bosib gan Joham de Lobeira neu Vasco de Lobeira, a'r straeon hynny yn seiliedig ar ffynhonnell Ffrengig. Ysgrifennwyd nifer o ddilyniannau i'r rhamant yn ymwneud â mab a nai Amadis, Esplandian a Florisando.

Mae Perion, Brenin Gaula (o bosib Llydaw neu Gymru), yn cwympo mewn cariad ag Elisena ferch Garinter, Brenin Prydain Fechan. Rhoddir eu plentyn, Amadis, mewn cawell yn yr afon, a chaiff ei ganfod a'i fagu gan Gandales o'r Alban. Fe'i elwir yn "Blentyn y Môr" cyn i'w wir enw gael ei ddatgelu. Daw'n gampwr sifalrig sy'n enwog am ei orchestion, ac mae'n achub ei gariad Oriana ferch Lisuarte, Brenin Prydain Fawr, o'i dyweddiad i Ymerawdwr Rhufain, gan gychwyn rhyfel. Gorchfygwyd llynges Rhufain a lleddir yr ymerawdwr. Mae Amadis ac Oriana yn cymodi, gan roi diweddglo dedwyddus i'r rhamant.[1]

Cyfieithwyd i'r Ffrangeg gan Herberay des Essarts ym 1540 ac i'r Saesneg gan Anthony Munday tua 1590. Ceir fersiwn byr yn Saesneg gan Robert Southey o 1803.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 22.