Neidio i'r cynnwys

Alun ap Brinley

Oddi ar Wicipedia
Alun ap Brinley
GanwydAlun ap Brinley
16 Ionawr 1961
Aberhonddu
DinasyddiaethCymro
Alma materPrifysgol Aberystwyth
Galwedigaethactor
TadBrinley Jenkins
PriodAmy Wadge

Actor Cymraeg o Gymru ydi Alun ap Brinley (ganed 16 Ionawr 1961) yn Aberhonddu, yn fab i'r actor Brinley Jenkins.[1] Portreadodd amrywiaeth helaeth o gymeriadau ar lwyfan ac ar y sgrin yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys y cyfresi The Indian Doctor, Coronation Street, Iechyd Da, Con Passionate a Pobol y Cwm am 10 mlynedd fel y cymeriad "Jim Probert".[1]

Ganwyd yn Aberhonddu a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn nghyfnod Emily Davies gan raddio ym 1982. Ymunodd â Chwmni Theatr Cymru fel un o'r actorion craidd o dan arweiniad Emily Davies.[2] Bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1988.[3]

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf gyda Bethan Cairns ac yna'r gantores Amy Wadge yn 2001. Mae ganddo 3 o blant.[1] Mae'r teulu yn byw ym Mhontypridd.

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

(detholiad)

Theatr

[golygu | golygu cod]

Teledu, Ffilm a Radio

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Alun ap Brinley | Actor". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-03.
  2. "Alun ap Brinley". Coronation Street Wiki (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-03.
  3. "Alun ap Brinley". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-10-03.