Alun Gibbard
| Alun Gibbard | |
|---|---|
| Ganwyd | 30 Mai 1960 Llanelli |
| Bu farw | Tachwedd 2025 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio |
| Tad | Noel Gibbard |
Awdur a darlledwr oedd Alun Gibbard (30 Mai 1960 – Tachwedd 2025).[1]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Alun yn fab i'r diweddar hanesydd y Parchedig Noel Gibbard a Helen (nee Thomas), wyres J. Tywi Jones, golygydd Y Darian. Mynychodd Ysgol Gymraeg Brynsierfel ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Llanelli cyn mynd ymlaen i ennill gradd yn y Dyniaethau yng Ngholeg Polytechnig Cymru, Pontypridd (Prifysgol De Cymru heddiw).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu’n gweithio ym myd darlledu am 26 mlynedd fel cynhyrchydd a chyflwynydd, ar y teledu a’r radio, i’r BBC, ITV ac S4C. Bu'n darllen bwletinau Radio Cymru. Yn ddiweddarach roedd yn rhan o dîm cynhyrchu a chyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol. [2]
Bu'n gweithio i gwmni Tinopolis fel cyflwynydd a chynhyrchydd ar raglen Heno a Wedi 7.
Yn hwyrach yn ei yrfa daeth yn awdur toreithiog gan gyhoeddi dros 30 o lyfrau, yn Gymraeg ac yn Saesneg - y mwyafrif yn rhai dogfennol. Roedd wrth ei fodd yn cydysgrifennu bywgraffiadau. Ysgrifennodd hefyd nofel Gymraeg, Talcen Caled, a sawl cyfrol yn y gyfres Stori Sydyn.
Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson at gylchgrawn Golwg, gan ysgrifennu dros fil o straeon ar eu cyfer, a phapur newydd y Western Mail.
Ei ddiddordeb mawr oedd gwaith y bardd Dylan Thomas ac yn ei flynyddoedd diwethaf bu'n gweithio i The Birthplace gan addysgu ymwelwyr am y bardd ac roedd e yn y broses o ysgrifennu cyfrol ar fywyd cynnar Dylan Thomas yn Abertawe.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu farw yn 65 mlwydd oed wedi cyfnod o salwch. Roedd yn gadael ei fam Helen a dwy chwaer Menna a Nia a'u teuluoedd.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cofiannau
[golygu | golygu cod]- Mab y Mans - golygydd hunangofiant Arfon Haines Davies (2009, Y Lolfa)
- Bywyd yn y Coal House: Y Teulu Griffiths - profiadau y teulu yng ngyfres deledu The Coal House. (2009, Y Lolfa)
- Fyny Gyda'r Swans - hunangofiant Owain Tudur Jones (2009, Y Lolfa)
- Non - yn Erbyn y Ffactore - hunangofiant Non Evans (2010, Y Lolfa)
- Cymru Howard Marks - hunangofiant Howard Marks (2010, Y Lolfa)
- Ali Yassine: Llais yr Adar Gleision - hunangofiant Ali Yassine (2010, Y Lolfa)
- Tony ac Aloma - Cofion Gorau - hunangofiant Tony ac Aloma (2011, Y Lolfa)
- Dal Fy Nhir - hunangofiant Dafydd Jones (2011, Y Lolfa)
- Tu ôl i'r Tiara: Bywyd fel Miss Cymru, hunangofiant Courtney Hamilton (2012, Y Lolfa)
- George North - hunangofiant (2013, Y Lolfa)
- Brychan Llŷr - Hunan-Anghofiant - hunangofiant Brychan Llŷr (2013, Y Lolfa)
- Delme - Hunangofiant Delme Thomas (2013, Y Lolfa)
- Foxy'r Llew - hunangofiant Jonathan 'Fox' Davies (2014, Y Lolfa)
- Gareth Jones: Y Dyn oedd yn Gwybod Gormod - hanes y newyddiadurwr Gareth Jones (2014, Y Lolfa)
- Allan o'r Cysgodion - hunangofiant Julian Lewis Jones (2014, Y Lolfa)
- O'r Llinell Biced i San Steffan - hunangofiant Siân James (2015, Y Lolfa)
- Carwyn: Yn Erbyn y Gwynt - cofiant i Carwyn James (2016, Y Lolfa)
- Brett Johns: Ymladdwr - hunangofiant Brett Johns (2018, Y Lolfa)
- O'r Da i'r Direidus - hunangofiant Aled Hall (2022, Y Lolfa)
Nofelau
[golygu | golygu cod]- Talcen Caled (2014, Y Lolfa)
Eraill
[golygu | golygu cod]- Straeon Tafarn - teithlyfr gyda Dewi Pws (2012, Y Lolfa)
- Gwynoro a Gwynfor - cyd-awdur gyda Gwynoro Jones (2019, Y Lolfa)
- Who Beat the All Blacks? (2022, Y Lolfa)
- Forgotten Decade, The - Political Upheaval and Industrial Strife (Medi 2022, Parthian Books)
- Only Three Votes - cyd-awdur gyda Gwynoro Jones (Medi 2024, Parthian Books)
- Whose Wales? - cyd-awdur gyda Gwynoro Jones (Tachwedd 2024, Parthian Books)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Yr awdur toreithiog a'r darlledwr Alun Gibbard wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2025-11-19. Cyrchwyd 2025-11-19.
- ↑ 2.0 2.1 "Yr awdur a'r darlledwr Alun Gibbard wedi marw yn 65 oed". newyddion.s4c.cymru. 2025-11-19. Cyrchwyd 2025-11-19.