Talaith Bolzano
![]() | |
![]() | |
Math |
taleithiau'r Eidal ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
County of Tyrol, de ![]() |
| |
Prifddinas |
Bolzano ![]() |
Poblogaeth |
531,178 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Arno Kompatscher ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Eidaleg, Almaeneg, Ladineg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Trentino-Alto Adige ![]() |
Sir |
Trentino-Alto Adige ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
7,400.43 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Tirol, Salzburg, Province of Belluno, Trentino, Rhanbarth Sondrio, Canton y Grisons ![]() |
Cyfesurynnau |
46.5°N 11.33°E ![]() |
Cod post |
39100, 39010–39059 ![]() |
IT-BZ ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Government of South Tyrol ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Landtag of South Tyrol ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Arno Kompatscher ![]() |
![]() | |
Talaith yng ngogledd yr Eidal yw Talaith Ymreolaethol Bolzano-Alto Adige (Eidaleg: Provincia autonoma di Bolzano-Alto Adige, Almaeneg: Autonome Provinz Bozen-Südtirol, Ladineg: Provinzia Autonòma de Balsan-Südtirol. Ffurfiwyd y dalaith o ran ddeheuol ardal hanesyddol y Tirol, a chyfeirir at yr ardal fel Alto Adige mewn Eidaleg a Südtirol mewn Almaeneg.
Mae'r dalaith yn ffurfio rhan ogleddol rhanbarth Trentino-Alto Adige. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 476,000. Y brifddinas yw Bolzano. Mae'r ardal yn dairieithog: Almaeneg, Eidaleg a Ladineg, gyda siaradwyr Almaeneg fel mamiaith yn y mwyafrif.
Hyd at 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria, ond wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rhan o'r Eidal. Yng nghyfrifiad 1910, roedd llai na 3% o'r boblogaeth yn siarad Eidaleg fel mamiaith, ond dan lywodraeth Mussolini gwnaed ymdrech fawr i Eidaleiddio'r ardal.
Y sefyllfa ieithyddol yn ôl cyfrifiad 2001 oedd:
Mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith mewn 103 allan o 116 cymuned y dalaith. Mewn 8 cymuned, siaradwyr Ladineg sydd yn y mwyafrif.