Neidio i'r cynnwys

Alphonse Daudet

Oddi ar Wicipedia
Alphonse Daudet
FfugenwPiccolo Edit this on Wikidata
GanwydLouis Marie Alphonse Daudet Edit this on Wikidata
13 Mai 1840 Edit this on Wikidata
Nîmes Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1897 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Man preswylClamart Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, bardd, nofelydd, hunangofiannydd, sgriptiwr, rhyddieithwr, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTartarin of Tarascon, Letters From My Windmill, Le petit chose, Monsieur Seguin's Last Kid Goat, L'Arlésienne Edit this on Wikidata
Arddulltale, drama Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadÉmile Zola, Edmond de Goncourt Edit this on Wikidata
TadVincent Daudet Edit this on Wikidata
MamMarie Adélaïde Reynaud Edit this on Wikidata
PriodJulia Daudet Edit this on Wikidata
PlantLéon Daudet, Lucien Daudet, Edmée Daudet Edit this on Wikidata
PerthnasauFernand Daudet Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Prix de Jouy Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd o Ffrainc oedd Alphonse Daudet (13 Mai 184016 Rhagfyr 1897).[1][2]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Daudet yn Nîmes, Ffrainc.[3] Roedd ei deulu, ar y ddwy ochr, yn perthyn i'r bourgeoisie. Roedd ei dad, Vincent Daudet, yn wneuthurwr sidan-dyn a dioddefodd anffawd a methiant trwy gydol ei oes. Cafodd Daudet ei addysgu mewn ysgol yn Lyon. Gwael fu ei gynnydd yn yr ysgol gan ei fod yn chwarae triwant yn aml. Ym 1856 aeth i Alès, Gard, yn ne Ffrainc i fod yn is athro ysgol. Ni fu llewyrch ar ei yrfa a rhoddodd y gorau i'w swydd ym 1857.

Wedi ymadael a dysgu aeth i fyw gyda'i frawd hyn Ernest Daudet, a oedd yn ceisio, ennill bywoliaeth fel newyddiadurwr ym Mharis.[4] Dechreuodd Alphonse ysgrifennu, a chasglwyd ei gerddi mewn cyfrol fach, Les Amoureuses (1858), a gafodd derbyniad teg. Cafodd waith ar y papur newydd Le Figaro, cyhoeddodd ychydig o ddramâu, a dechreuodd gael ei gydnabod mewn cymunedau llenyddol fel llenor addawol. Penododd Charles, Duc de Morny, un o weinidogion blaenllaw Napoleon III, ef yn un o'i ysgrifenyddion -swydd a ddaliodd hyd at farwolaeth Morny ym 1865.

Gyrfa lenyddol

[golygu | golygu cod]

Ym 1866, cafodd ei lyfr Lettres de mon moulin (Llythyrau o Fy Melin Wynt) derbyniad da. Fodd bynnag, ni chreodd y cyntaf o'i lyfrau hirach, Le Petit Chose (Y Peth Bach) (1868), fawr o argraff. Cafodd é Fromont jeune et Risler aîne (Fromont yr ieuengaf a Risler yr hynaf) (1874) llwyddiant ysgubol gan sicrhau ei le fel un o lenorion mwyaf blaenllaw Ffrainc yn y 19C

Parhaodd ei lwyddiant gyda Jack, (1876) nofel am blentyn anghyfreithlon, oedd yn ferthyr i hunanoldeb ei fam. O hynny ymlaen aeth ei yrfa lenyddol o nerth i nerth, gyda'i nofelau: Le Nabab (Y Nabob) (1877), Les Rois en exil (Brenhinoedd mewn Alltudiaeth) (1879), Numa Roumestan (1881), Sappho (1884), a L'Immortel (Yr Anfarwol) ymysg eraill . Fe fu'n ysgrifennu ar gyfer y llwyfan ac yn hel atgofion yn ei Trente ans de Paris (Tri deg mlynedd o Baris) (1887) a Souvenirs d'un homme de lettres (Atgofion Dyn Llenyddol) (1888). Mae L'Immortel yn ymosodiad chwerw ar yr Académie française, corff mawreddog na pherthynodd Daudet iddo erioed. Ysgrifennodd Daudet hefyd i blant, gan gynnwys La Belle Nivernaise, stori hen gwch a'i chriw.[5]

Ym 1921 cyhoeddwyd saith o'i storïau fyrion fel rhan o Gyfres y Werin, wedi eu cyfieithu gan Moelona.[6] Daw un o'r storïau o'i lyfr Contes du Lundi (Straeon Dydd Llun) a'r chwech arall o'i Lythyrau o Fy Melin Wynt[7]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ym 1867 priododd Daudet â Julia Allard, awdur Impressions de nature et d'art (1879), L'Enfance d'une Parisienne (1883), a rhai astudiaethau llenyddol a ysgrifennwyd o dan y ffugenw "Karl Steen".[8]

Nid oedd Daudet yn ŵr ffyddlon, bu ganddo nifer o ordderchon trwy gydol ei fywyd priodasol. Bu'n dioddef yn arw o syffilis. Byddai'n cael sawl triniaeth a llawdriniaeth boenus ar gyfer ei glefyd a barlysodd yn y pen draw. Cadwodd gofnodion dyddiadur yn ymwneud â'r boen a brofodd o'i afiechyd, ei effeithiau ar ei berthynas â ffrindiau, teulu, a phobl eraill, a'r amrywiol gyffuriau a gymerodd a'r triniaethau corfforol a gafodd yn ei frwydr yn erbyn y clefyd. Cyhoeddwyd ei nodiadau ar ôl ei farw.[9]

Bu farw ym Mharis ar 16 Rhagfyr 1897,[10] a chladdwyd ef ym Mynwent Père Lachaise y ddinas honno.

Mae hanes blynyddoedd cynnar Daudet yn cael ei adrodd yn Mon frère et moi (Fy mrawd a fi) gan ei frawd Ernest Daudet.[11]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Nofelau

[golygu | golygu cod]
  • Le petit chose (1868)
  • Tartarin de Tarascon (1872)
  • Fromont jeune et Risler aîné (1874)
  • Jack (1876)
  • Le Nabab (1877)
  • Les Rois en exil (1879)
  • Numa Roumestan (1881)
  • Sapho (1884)
  • L'Immortel (1888)
  • L'Arlésienne (1872)

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
  • Les Amoureuses (1858)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ."Sketch of Alphonse Daudet," Review of Reviews, Vol. 17, No. 2, 1898, p. 161.
  2. "Alphonse Daudet | French Novelist & Poet | Britannica". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-10.
  3. "Alphonse Daudet and Fontvieille - Alpilles en Provence" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-10.
  4. "Ernest Daudet". www.goodreads.com. Cyrchwyd 2026-01-11.
  5. "Alphonse Daudet". authorscalendar.info. Cyrchwyd 2026-01-11.
  6. "Cyfres y Werin". Y Llenor Cyf. 1, Rhif 3: 2. Hydref 1922. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1319198/1319199/164#?.
  7. Daudet, Alphonse; Jones (Moelona), Elizabeth Mary (1921). "Rhagair". Y Wers Olaf . Caerdydd: Y Cwmni Cyhoeddi Addysgol.
  8. "Julia Allard | French writer | Britannica". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-11.
  9. Barnes, Julian (2002-05-11). "The art of suffering". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-01-11.
  10. "Death Of Alphonse Daudet". South Wales Echo. 17 Rhagfyr 1897.
  11. Daudet, Ernest (10 Ion 2010). Mon frère et moi; souvenirs d'enfance et de jeunesse (yn Ffrangeg).