Alma Lutz

Oddi ar Wicipedia
Alma Lutz
GanwydAlma Lutz Edit this on Wikidata
1890 Edit this on Wikidata
Jamestown Edit this on Wikidata
Bu farw1973 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Boston
  • Coleg Vassar Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd, swffragét, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Alma Lutz (18901973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros hawliau cyfartal i fenywod, a swffragét. Ysgifennodd fywgraffiadau o ymgyrchwyr benywaidd eraill, sy'n gofnod hanesyddol a llenyddol pwysig.[1][2]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Jamestown, North Dakota yn 1890 i Mathilde (Bauer) a George Lutz. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Boston, Choleg Vassar.

Yn sefyll, ch. i'r dde: Yr Athro Albert M. Sacks, Pauli Murray, Dr. Mary Bunting.
eistedd, ch. i'r dde: Alma Lutz, suffragette a merch wâdd o Harvard Law School, Betty Friedan

Yn Vassar roedd hi'n weithgar yn y mudiad ffeministaidd ac ar ôl graddio yn 1912 dychwelodd i Ogledd Dakota lle parhaodd i ymgyrchu dros bleidlais menywod (etholfraint).[1][2][3]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Symudodd Lutz i Boston yn 1918, lle mynychodd Ysgol Fusnes Prifysgol Boston. Ymunodd â Phlaid Genedlaethol y Menywod fel un o'u hysgrifenwyr ac ar yr un pryd arbenigodd mewn bywgraffiadau menywod â'u rôl flaenllaw yn hanes America. Daeth actifiaeth a hanes ymgyrchwyr dros hawliau merched yn waith gydol oes iddi.[1][3]

Daeth Lutz yn athro yng Ngholeg Radcliffe lle cynhaliodd seminar graddedig ar 'Fenywod o Fewn Hanes America'.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Yn Vassar, cyfarfu Lutz â Marguerite Smith (bu farw Gorffennaf 6, 1959), ei chyd-letywr. Daeth y ddwy yn aelodau o Blaid y Menywod Cenedlaethol gan rannu tŷ yn Boston a chartref haf, Highmeadow, yn Berlin, Efrog Newydd, o 1918 hyd at farwolaeth Smith yn 1959.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Guide to the Alma Lutz Papers, 1912–1971". Vassar College – Archive & Special Collections Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-31. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2017.
  2. 2.0 2.1 Spongberg, M.; Curthoys, A.; Caine, B. (2016). Companion to Women's Historical Writing. Springer. t. 322. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2017.
  3. 3.0 3.1 Lutz, Alma. Susan B. Anthony Rebel, Crusader, Humanitarian. t. 446. Cyrchwyd 10 Awst 2017. Mae'r erthygl yn ymgorffori testun o'r ffynhonnell hwn, sydd yn y parth cyhoeddus.