Ali Larijani
| Ali Larijani | |
|---|---|
Ali Larijani yn 2021. | |
| Ganwyd | 3 Mehefin 1958 Naǧaf |
| Bu farw | 17 Mawrth 2026 o cyrch awyr Tehran |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o'r Cynulliad Ymgynghorol Islamaidd |
| Cyflogwr | |
| Prif ddylanwad | Immanuel Kant, Saul Kripke, David Lewis |
| llofnod | |
Gwleidydd, swyddog milwrol, ac athronydd o Iran oedd Ali Ardashir Larijani (3 Mehefin 1958 – 17 Mawrth 2026).[1] Efe oedd un o brif arweinwyr Iran yn ystod misoedd cynnar 2026, ac yn bennaeth de facto ar y wlad am 17 diwrnod olaf ei oes, yn sgil marwolaeth Ali Khamenei ar 28 Chwefror 2026 hyd at farwolaeth ei hun yn ystod Rhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran.
Ganed ef yn Najaf, Teyrnas Irac, i deulu o dras Iranaidd. Uchel aiatola ac ysgolhaig yn nhraddodiad Shïa'r Deuddeg Imam oedd ei dad, Hashim Larijani (1899–1993), brodor o dalaith Mazandaran, neu Tabaristan, a ffoes o Iran i osgoi erledigaeth gan drefn y Shah. Astudiodd ac addysgodd Hashim yng ngoleg diwinyddol Najaf, a oedd yn ganolfan i ysgolheictod a gweithgarwch Shïa, nes iddo ddychwelyd gyda'i deulu i Iran ym 1963, gan ymsefydlu yn Qom. Byddai pedwar mab arall Hashim hefyd yn gwasanaethu mewn swyddi amlwg yn Iran.[2]
Astudiodd Ali fathemateg a chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Dechnoleg Sharif yn Tehran, cyn ennill gradd meistr a doethuriaeth mewn athroniaeth y Gorllewin o Brifysgol Tehran. Immanuel Kant oedd pwnc ei draethawd doethurol ym 1995, a byddai'n ysgrifennu tri llyfr yn ymdrin â gwaith yr athronydd hwnnw.[2] Priododd â Farideh Motahhari, merch Morteza Motahhari, un o brif gynghorwyr Ruhollah Khomeini yn y 1970au. Yn ystod Rhyfel Irac ac Iran yn y 1980au, cafodd ei ddyrchafu'n frigadydd ac yn gadlywydd yng Nghorfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd (IRGC).
Gwasanaethodd yn weinidog dros ddiwylliant a chyfarwyddyd Islamaidd o 1992 i 1994, a fe'i penodwyd gan Ali Khamenei yn bennaeth ar Gorfforaeth Darlledu Gweriniaeth Islamaidd Iran, "Seda o Sima", o 1994 i 2004. Ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth yn 2005, gan ennill rhyw 5% o'r bleidlais. Gwasanaethodd Larijani yn Ysgrifennydd y Goruchaf Gyngor Diogelwch Cenedlaethol (SNSC) o Awst 2005 i Hydref 2007, yn ystod arlywyddiaeth Mahmoud Ahmadinejad. Yn y swydd honno, bu'n negodi â gwledydd eraill mewn trafodaethau am raglen niwclear Iran. Gwasanaethodd yn Llefarydd Senedd Iran o 2008 i 2020.
Yn Awst 2025, penodwyd Larijani unwaith eto i swydd Ysgrifennydd y Goruchaf Gyngor Diogelwch Cenedlaethol, yn llywodraeth yr Arlywydd Masoud Pezeshkian. Erbyn diwedd y flwyddyn, bu Larijani yn un o brif arweinwyr y wlad, yn enwedig o ran polisi diogelwch. Ar 28 Chwefror, lladdwyd Ali Khamenei mewn cyrch awyr gan Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau. Nid oedd Larijani yn glerigwr, ac o'r herwydd ni allai fod yn bennaeth de jure ar lywodraeth theocrataidd Iran. Penodwyd felly mab y diweddar Khamenei, Mojtaba Khamenei, i olynu ei dad yn arweinydd goruchaf y wlad tra'r oedd Larijani yn arweinydd de facto. Ar 17 Mawrth 2026, cafodd Lariani ei ladd, yn 67 oed, mewn cyrch awyr gan Luoedd Amddiffyn Israel ar gyrion Tehran.[3][4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Ali Larijani. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Mawrth 2026.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Ali Larijani obituary: Iranian security chief", The Times (17 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mawrth 2026.
- ↑ (Saesneg) David Gritten a Ghoncheh Habibiazad, "Iranian security chief Ali Larijani killed in air strike", BBC (17 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 27 Mawrth 2026.
- ↑ "Pennaeth diogelwch Iran wedi'i ladd mewn ymosodiad yn ôl Israel", S4C (17 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mawrth 2026.