Algâu
![]() | |
Enghraifft o: | organebau yn ôl enw cyffredin ![]() |
---|---|
Math | Cytota, hunanborthwr ![]() |
![]() |
Mae algâu yn derm anffurfiol am unrhyw organebau mewn grŵp o organebau ffotosynthetig nad ydynt yn blanhigion, ac mae'n cynnwys rhywogaethau o sawl cytras gwahanol. Mae organebau o'r fath yn amrywio o ficroalgâu ungellog, fel cyanobacteria, Chlorella, a diatomau, i macroalgâu amlgellog fel gwymon neu algâu brown a all dyfu hyd at 50 metr (160 tr) o hyd.
Mae'r rhan fwyaf o algâu yn organebau dyfrol ac nid oes ganddynt lawer o'r mathau gwahanol o gelloedd a meinweoedd, fel stomata, sylem, a ffloem a geir mewn planhigion tir. Gelwir yr algâu morol mwyaf a mwyaf cymhleth yn wymon. Mewn cyferbyniad, y ffurfiau dŵr croyw mwyaf cymhleth yw'r Charophyta, adran o'r algâu gwyrdd sy'n cynnwys, er enghraifft, Spirogyra a rhawn yr ebol (stonewort). Algâu sy'n cael eu cario'n oddefol gan ddŵr yw plancton, yn benodol ffytoplancton.
Mae algâu yn ffurfio grŵp polyffyletig[1] oherwydd nad oedd ganddynt hynafiad cyffredin, ac er bod gan algâu ewcaryotig â phlastidau sy'n cynnwys cloroffyl un-tarddiad (o symbiogenesis â cyanobacteria),[2] cawsant eu caffael mewn gwahanol ffyrdd. Mae algâu gwyrdd yn enghraifft amlwg o algâu sydd â chloroplastau cynradd sy'n deillio o cyanobacteria endosymbiotig. Mae diatomau ac algâu brown yn enghreifftiau o algâu â chloroplastau eilaidd sy'n deillio o algâu coch endosymbiotig, a gawsant drwy ffagosytosis.[3] Mae algâu yn arddangos ystod eang o strategaethau atgenhedlu, o rannu celloedd anrhywiol syml i ffurfiau cymhleth o atgenhedlu rhywiol trwy sborau.[4]
Nid oes gan algâu yr amryw strwythurau sy'n nodweddu planhigion (a esblygodd o algâu gwyrdd dŵr croyw), fel y ffylidau (strwythurau tebyg i ddail) a'r rhisoidau mewn bryoffytau (planhigion anfasgwlaidd), a'r gwreiddiau, y dail a'r organau sylemig / ffloemig eraill a geir mewn tracheoffytau (planhigion fasgwlaidd). Mae'r rhan fwyaf o algâu yn awtotroffig, er bod rhai yn gymysg-troffig, gan gael egni o ffotosynthesis a charbon organig naill ai trwy osmotroffi, mysotroffi neu ffagotroffi. Mae rhai rhywogaethau ungellog o algâu gwyrdd, llawer o algâu euraidd, ewglenidau, dinofflagelliadau, ac algâu eraill wedi dod yn heterotroffau (a elwir hefyd yn algâu di-liw neu apochlorotig), weithiau'n barasitig, gan ddibynnu'n llwyr ar ffynonellau ynni allanol ac sydd â chyfarpar ffotosynthetig cyfyngedig neu ddim o gwbl.[5][6] Mae rhai organebau heterotroffig eraill, fel yr apicomplexans, hefyd yn deillio o gelloedd yr oedd gan eu hynafiaid blastidau cloroffilig, ond nid ydynt yn cael eu hystyried yn draddodiadol yn algâu. Mae gan algâu beirianwaith ffotosynthetig sy'n deillio yn y pen draw o syanobacteria sy'n cynhyrchu ocsigen fel sgil-gynnyrch hollti moleciwlau dŵr, yn wahanol i organebau eraill sy'n cynnal ffotosynthesis anocsigenig fel bacteria sylffwr porffor a gwyrdd. Mae algâu ffilamentog ffosileiddiedig o fasn Vindhya wedi'u dyddio i 1.6 i 1.7 biliwn o flynyddoedd yn ôl.[7]
Oherwydd yr ystod eang o fathau o algâu, mae yna ystod eang gyfatebol o gymwysiadau diwydiannol a thraddodiadol o fewn y gymdeithas ddynol. Un enghraifft yw bara lawr. Mae arferion ffermio gwymon traddodiadol wedi bodoli ers miloedd o flynyddoedd ac mae ganddyn nhw draddodiadau cryf mewn diwylliannau bwyd Dwyrain Asia. Mae cymwysiadau algâu mwy modern yn ymestyn y traddodiadau bwyd ar gyfer cymwysiadau eraill, gan gynnwys porthiant gwartheg, defnyddio algâu ar gyfer bioadfer (bioremediation) neu reoli llygredd, trawsnewid golau haul yn danwydd algâu neu gemegau eraill a ddefnyddir mewn prosesau diwydiannol, ac mewn cymwysiadau meddygol a gwyddonol. Canfu adolygiad yn 2020 y gallai'r defnyddiau hyn o algâu chwarae rhan bwysig mewn dal a storio carbon i liniaru newid hinsawdd wrth ddarparu cynhyrchion proffidiol ar gyfer economïau byd-eang.[8]
Etymoleg ac astudiaeth
[golygu | golygu cod]Yr alga (enw unigol) yw'r gair Lladin am 'wymon' ac mae'n cadw'r ystyr hwnnw mewn sawl iaith[9] Mae'r etymoleg yn aneglur. Er bod rhai’n dyfalu ei fod yn gysylltiedig â’r gair Lladin algēre, 'bod yn oer',[10] nid oes unrhyw reswm hysbys i gysylltu gwymon â thymheredd. Ffynhonnell fwy tebygol yw alliga, 'rhwymo, plethu'.[11]

Ffycoleg yw'r enw mwyaf cyffredin ar astudio algâu (o'r Groeg ffycos, phŷkos); mae'r term algoleg yn hen ffasiwn bellach.[12]

Un diffiniad o algâu yw bod ganddyn nhw "gloroffyl fel eu prif bigment ffotosynthetig ac nad oes ganddyn nhw orchudd o gelloedd o amgylch eu celloedd atgenhedlu".[13] Ar y llaw arall, mae'r Prototheca di-liw o dan Chloroffyta i gyd yn amddifad o unrhyw gloroffyl. Cyfeirir at cyanobacteria yn aml fel "algâu gwyrddlas" ac fe'u cynhwysir fel algâu gan y Cod Enwi Rhyngwladol ar gyfer algâu, ffyngau a phlanhigion, er bod rhai awdurdodau'n eithrio pob procaryot, gan gynnwys cyanobacteria, o'r diffiniad o algâu.[14]
Ecoleg
[golygu | golygu cod]
Mae algâu i'w cael mewn cyrff o ddŵr, yn gyffredin mewn amgylcheddau ar y tir, ac fe'u ceir mewn amgylcheddau megis eira a rhew. Mae gwymon yn tyfu'n bennaf mewn dyfroedd morol bas, o dan 100 metr (330 tr) o ddyfnder; fodd bynnag, mae rhai fel Navicula pennata wedi'u cofnodi i ddyfnder o 360 metr (1,180 tr). Cafwyd math o algâu, Ancylonema nordenskioeldii, ar yr Ynys Las mewn ardal a elwir yn 'Barth Tywyll'.[15] Cafwyd yr un algâu yn Alpau’r Eidal, ar ôl i rew pinc ymddangos ar rannau o rewlif Presena.[16]
Mae'r gwahanol fathau o algâu yn rolau gwahanol iawn mewn ecoleg ddyfrol. Y ffurfiau microsgopig sy'n byw yng ngholofn y dŵr (ffytoplankton) yw'r sylfaen fwyd ar gyfer y rhan fwyaf o gadwyni bwyd morol. Mewn dwyseddau uchel iawn (blodau- algâu), gall yr algâu hyn newid lliw'r dŵr..[16]
Gellir defnyddio algâu fel organebau dangosol i fonitro llygredd mewn amryw o systemau dyfrol.[17] Mewn llawer o achosion, mae metaboledd algâu yn sensitif i wahanol lygryddion. Oherwydd hyn, gall y math o rywogaethau o fewn poblogaethau o algâu eu newid gan lygryddion cemegol.[17] I ganfod y newidiadau hyn, gellir samplu algâu o'r amgylchedd a'u cynnal mewn labordai yn gymharol hawdd.[17]
Ar sail eu cynefin, gellir categoreiddio algâu fel: dyfrol (planctonig, benthic, morol, dŵr croyw, lentic, lotigc), daearol, awyrol,[18] lithoffytig, haloffytig (neu ewrihalin), psamon, thermoffilig, cryoffilig, epibiont (epiffytig, episoig), endosymbiont (endoffytig, endosoig), parasitig, calchffilig neu lichenig (ffycobiont).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Guiry, Michael; Guiry, Wendy. "AlgaeBase". – a database of all algal names including images, nomenclature, taxonomy, distribution, bibliography, uses, extracts
- "Algae – Cell Centered Database". CCDb.UCSD.edu. San Diego: University of California.
- Anderson, Don; Keafer, Bruce; Kleindinst, Judy; Shaughnessy, Katie; Joyce, Katherine; Fino, Danielle; Shepherd, Adam (2007). "Harmful Algae". US National Office for Harmful Algal Blooms. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Rhagfyr 2008. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2008.
- "About Algae". NMH.ac.uk. Natural History Museum, United Kingdom.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nabors, Murray W. (2004). Introduction to Botany. San Francisco: Pearson Education, Inc. ISBN 978-0-8053-4416-5.
- ↑ Keeling, Patrick J. (2004). "Diversity and evolutionary history of plastids and their hosts". American Journal of Botany 91 (10): 1481–1493. Bibcode 2004AmJB...91.1481K. doi:10.3732/ajb.91.10.1481. PMID 21652304.
- ↑ Palmer, J. D.; Soltis, D. E.; Chase, M. W. (2004). "The plant tree of life: an overview and some points of view". American Journal of Botany 91 (10): 1437–1445. doi:10.3732/ajb.91.10.1437. PMID 21652302.
- ↑ Smithsonian National Museum of Natural History; Department of Botany. "Algae Research". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 25 Awst 2010.
- ↑ Tartar, A.; Boucias, D. G.; Becnel, J. J.; Adams, B. J. (2003). "Comparison of plastid 16S rRNA (rrn 16) genes from Helicosporidium spp.: Evidence supporting the reclassification of Helicosporidia as green algae (Chlorophyta)". International Journal of Systematic and Evolutionary Microbiology 53 (Pt 6): 1719–1723. doi:10.1099/ijs.0.02559-0. PMID 14657099.
- ↑ Figueroa-Martinez, F.; Nedelcu, A. M.; Smith, D. R.; Reyes-Prieto, A. (2015). "When the lights go out: the evolutionary fate of free-living colorless green algae". New Phytologist 206 (3): 972–982. Bibcode 2015NewPh.206..972F. doi:10.1111/nph.13279. PMC 5024002. PMID 26042246. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5024002.
- ↑ Bengtson, S.; Belivanova, V.; Rasmussen, B.; Whitehouse, M. (2009). "The controversial 'Cambrian' fossils of the Vindhyan are real but more than a billion years older". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 106 (19): 7729–7734. Bibcode 2009PNAS..106.7729B. doi:10.1073/pnas.0812460106. PMC 2683128. PMID 19416859. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2683128.
- ↑ Paul, Vishal; Chandra Shekharaiah, P. S.; Kushwaha, Shivbachan; Sapre, Ajit; Dasgupta, Santanu; Sanyal, Debanjan (2020). "Role of Algae in CO2 Sequestration Addressing Climate Change: A Review". In Deb, Dipankar; Dixit, Ambesh; Chandra, Laltu (gol.). Renewable Energy and Climate Change. Smart Innovation, Systems and Technologies (yn Saesneg). 161. Singapore: Springer. tt. 257–265. doi:10.1007/978-981-32-9578-0_23. ISBN 978-981-329-578-0.
- ↑ "alga, algae". Webster's Third New International Dictionary of the English Language Unabridged with Seven Language Dictionary. 1. Encyclopædia Britannica, Inc. 1986.
- ↑ Partridge, Eric (1983). "algae". Origins. Greenwich House. ISBN 9780517414255.
- ↑ Lewis, Charlton T.; Short, Charles (1879). "Alga". A Latin Dictionary. Oxford: Clarendon Press. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2017.
- ↑ Lee, Robert Edward, ed. (2008), "Basic characteristics of the algae", Phycology (Cambridge: Cambridge University Press): 3–30, doi:10.1017/CBO9780511812897.002, ISBN 978-1-107-79688-1, https://www.cambridge.org/core/books/phycology/basic-characteristics-of-the-algae/64674E3DEFD655BDAB55324B95265EEC, adalwyd 2023-09-13
- ↑ Lee, R. E. (2008). Phycology. Cambridge University Press. ISBN 9780521367448.
- ↑ Nabors, Murray W. (2004). Introduction to Botany. San Francisco: Pearson Education, Inc. ISBN 978-0-8053-4416-5.
- ↑ "Greenland Has a Mysterious 'Dark Zone' — And It's Getting Even Darker". Space.com. 10 April 2018.
- ↑ 16.0 16.1 "Alpine glacier turning pink due to algae that accelerates climate change, scientists say". Sky News. 6 Gorffennaf2020. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ 17.0 17.1 17.2 Omar, Wan Maznah Wan (Dec 2010). "Perspectives on the Use of Algae as Biological Indicators for Monitoring and Protecting Aquatic Environments, with Special Reference to Malaysian Freshwater Ecosystems". Trop Life Sci Res 21 (2): 51–67. PMC 3819078. PMID 24575199. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3819078.
- ↑ Johansen, J. R. (2012). "The Diatoms: Applications for the Environmental and Earth Sciences". In Smol, J. P.; Stoermer, E. F. (gol.). Diatoms of aerial habitats (arg. 2nd). Cambridge University Press. tt. 465–472. ISBN 9781139492621.