Alfred Mathews

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Alfred Mathews
Albert Agustus Mathews.jpg
Ganwyd7 Chwefror 1864 Edit this on Wikidata
Rhymni Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1946 Edit this on Wikidata
Malpas, Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
TadJenkin Mathews Edit this on Wikidata
MamElizabeth Hughes Edit this on Wikidata
PriodEthel Frances Evans Edit this on Wikidata
PlantBarbara Brooke, Barwnes Brooke o Ystradfellte, Averil Charlotte Mathews, Evelyn Mary Mathews, Isobel Frances Mathews, Arthur Kenneth Mathews Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata

Roedd Y Mwyaf Parchedig Alfred Augustus Mathews BA BD (7 Chwefror 1864 - 12 Awst 1946) [1] yn offeiriad Anglicanaidd Gymreig a oedd yn nodedig fel chwaraewr rygbi'r undeb yn ei ieuenctid. Roedd yn cynrychioli Clwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan ar lefel clwb a chwaraeodd un gêm ryngwladol dros Gymru.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Mathews yn y Rhymni, Sir Fynwy yn blentyn i Jenkin Mathews, cyfrifydd i gwmni haearn, ac Elizabeth Matilda (née Hughes) ei wraig. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Llanymddyfri cyn mynd ymlaen i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth Anglicanaidd. Graddiodd o goleg Llanbedr gyda BA ym 1887 A BD ym 1888.

Ym 1898 priododd Ethel Frances Evans, merch y Dr Edward Beynon Evans, Abertawe.[2] Bu iddynt fab a phum merch. Eu merch ieuengaf, Barbara Muriel, oedd Barbara Brooke, Barwnes Brooke o Ystradfellte.[3] Daeth Arthur Kenneth, eu mab, hefyd yn offeiriad yn Eglwys Loegr.

Gyrfa Eglwysig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Mathews ei ordeinio yn giwrad gan Y Gwir Parchedig William Basil Jones, Esgob Tyddewi, mewn oedfa ordeinio cyffredinol a gynhaliwyd yn Eglwys y Plwyf, Abergwili, ar ddydd Sul, 6 Mawrth 1887. Wedi ei ordeinio fe'i penodwyd yn giwrad ar Eglwys y Drindod Sanctaidd, Abertawe.[4] Ordeiniwyd Mathews i'r offeiriadaeth gyflawn ym 1888. Pan roddodd y Parch. J. G. Gauntlett, Ficer Eglwys y Drindod Sanctaidd, y gorau i'w ficeriaeth ym 1893, mynegodd y gynulleidfa i'r Esgob eu hawydd cryf y dylid penodi ei gurad gweithgar a phoblogaidd i'w olynu. Cytunodd yr Esgob a chafodd Mathews ei ddyrchafu yn Ficer y plwyf.[5] Ar ôl pedair blynedd fel ficer Y Drindod Sanctaidd symudodd Mathews i wasanaethu fel ficer Eglwys St Pedr, Blaenafon, lle arhosodd hyd 1904. Ym 1904 cafodd ei benodi yn Ficer Eglwys St Paul, Casnewydd lle arhosodd hyd 1933 ond wedi ei ddyrchafu o'r ficeriaeth i fod yn Ganon Mynwy a Deon Gwledig Casnewydd ym 1930.[6] Ym 1933 derbyniodd bywoliaeth Caerwent lle arhosodd hyd ei farwolaeth.[7]

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Mathews chwarae rygbi yn ifanc, gan ymgymryd â'r gamp fel bachgen ysgol yng Ngholeg Llanymddyfri.[8] Parhaodd i chwarae'r pan aeth i goleg Dewi Sant, gan chwarae yn gyntaf i dîm y coleg ac yna i dîm tref Llanbedr.

Dim ond un gêm a chwaraeodd Mathews i Gymru, pan wynebodd Cymru'r Alban yn yr ail gêm a'r olaf o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886. Cafodd y gêm ei chwarae ar Barc yr Arfau, Caerdydd, a bu Mathews yn chwarae yn safle'r hanerwr, gan gymryd lle'r capten Charlie Newman, a chael ei bartneru â William Stadden o Gaerdydd. Roedd y gêm yn ornest bwysig yn hanes rygbi, gan mai hon oedd y gêm ryngwladol gyntaf i weld y defnydd o'r system pedwar trichwarterwr, a gyflwynwyd gan Frank Hancock . Ni aeth y gêm yn dda i Gymru a rhoddwyd y gorau i’r system ar ganol y gêm, a achosodd ddryswch pellach, gan arwain at fuddugoliaeth syml i’r Alban. Ail-ddewiswyd Newman i'w swydd ar gyfer y tymor olynol, ac ni chynrychiolodd Mathews Gymru mewn rygbi eto.

Er gwaethaf diwedd ar ei yrfa ryngwladol, ymunodd Mathews yn ddiweddarach â Chlwb Rygbi haen uchaf Abertawe, ac roedd yn rhan o'r tîm a wynebodd Seland Newydd ar eu taith ym 1888. [9]

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymru [10]

 yr Alban 1886

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Mathews farw ym Malpas, Casnewydd yn 82 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Mair, Llanwern.[11]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Grafton Street, Llundain: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Alfred Mathews player profile Scrum.com
  2. "LOCAL WEDDING - The Cambrian". T. Jenkins. 1898-10-07. Cyrchwyd 2021-05-15.
  3. "BROOKE, Dâm BARBARA MURIEL, Barwnes Brooke o Ystradfellte (1908-2000), gwleidydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-05-15.
  4. Yr Haul, Cyf. III rhif. 28 - Ebrill 1887 tud 126 "Urddiad" adalwyd 15 Mai 2021
  5. "SWANSEA CHURCHES AND SUNDAY SCHOOLS - The Cambrian". T. Jenkins. 1896-10-09. Cyrchwyd 2021-05-15.
  6. Crockford's Clerical Directory 1932 tud 873
  7. Obituary. (1946, August 15). Daily Telegraph, 3 adalwyd trwy fynediad llyfrgelloedd cyhoeddus 15 Mai 2021
  8. "FOOTBALL-Llandilo v Llandovery School - The Cambrian". T. Jenkins. 1882-11-17. Cyrchwyd 2021-05-15.
  9. Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrecsam: Bridge Books. t. 107. ISBN 1-872424-10-4.
  10. Smith (1980), tud 469.
  11. Archifau Cymru; Bedyddiadau, Priodasau a Chladdedigaethau Sir Fynwy. Claddedigaethau Llanwern 1946