Alfred Lewis Jones

Oddi ar Wicipedia
Alfred Lewis Jones
Ganwyd1845 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 1909 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperchennog llongau Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Liverpool Chamber of Commerce Edit this on Wikidata
TadDaniel Jones Edit this on Wikidata

Perchennog a gwneuthurwr llongau Cymreig o Sir Gaerfyrddin oedd Syr Alfred Lewis Jones (184513 Rhagfyr 1909).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Yn ddeuddeg oed cafodd Jones brentisiaeth yng ngwmni'r African Steamship Company yn Lerpwl a bu ar sawl mordaith i arfordir gorllewin Affrica. Erbyn iddo gyrraedd ei ben-blwydd yn 26 oed, roedd yn reolwr y busnes. Benthycodd ddigon o arian i brynnu dau neu dri cwch hwylio bychan, a dechrau cwmni ei hun. Llwyddodd y fenter a datblygodd ei stoc o longau ond sylweddolodd yn fuan wedyn nad oedd dyfodol i longau hwylio a gwerthodd y cyfan i Messrs. Elder, Dempster & Co..

Tua'r adeg yma, ym 1891, cynigiodd prynwyr ei gwmni swydd y rheolwr iddo, a derbyniodd ar yr amod eu bont yn gwerthu nifer o gyfranddaliadau yn y cwmni iddo. Drwy hyn, dechreuodd y broses o brynu llawer iawn o gyfranddaliadau yng Nghwmni Messrs. Elder, Dempster & Co.. Dechreuodd ymwneud a gweinyddiaeth Gorllewin Affrica a Lloegr Imperialaidd a buddsoddodd mewn nifer o gwmniau eraill a oedd yn sefydlu busnesau yno.

Yn y 1900au prynodd Navigation Collieries Ltd er mwyn cynhyrchu tanwydd ar gyfer ei longau a phrynodd dau lofa ym Maesteg i'r un perwyl. Dechreuodd agor lonydd cyfathrebu gydag ynysoedd y India'r Gorllewin a datblygodd masnach ffrwythau a thwristiaeth Jamaica ac Ynysodd y Caneri.

Ariannodd Liverpool School of Tropical Medicine a bu'n gadeirydd "the Bank of British West Africa".

Bu farw ar 13 Rhagfyr 1909, yn ddibriod gan adael llawer o'i arian i elusennau ac achosion da.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]