Alfred Dillon

Oddi ar Wicipedia
Alfred Dillon
Ganwyd1847 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1915 Edit this on Wikidata
Seland Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ffermwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Dŷ Cynrychiolwyr Seland Newydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNew Zealand Liberal Party Edit this on Wikidata

Roedd Alfred Dillon (184113 Tachwedd 1915) yn  Aelod Seneddol Rhyddfrydol yn Senedd Seland Newydd. Yn ôl yr hanesydd David Hamer roedd Dillon yn enghraifft berffaith o wleidydd Rhyddfrydol "Seddonian" (roedd Seddon yn Brif Weinidog gwerinaidd ar SN), oherwydd ei gefndir gostyngedig, gwladaidd  a'i apel fel "dyn y bobl".[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Dillon yn dod o gefndir tlawd yng Nghymru cyn symud i Seland Newydd yn 1857.[2] Does dim sicrwydd o ddyddiad ei eni, ond mae cofnod o'i fedydd yn Eglwys Trefdraeth ar 12 Rhagfyr 1841. Mae'r cofnod bedydd yn nodi ei fod yn fab i John a Jane Dillon[3]. Wedi mudo i Seland Newydd bu'n gweithio am flynyddoedd fel labrwr fferm,  gyrrwr gwartheg a chludwr cyn caffael tir; roedd yn brin ymysg Rhyddfrydwyr fel runholder (perchennog rhodfa defaid) gyda thua 3,500 acer (14 km2) o dir. Roedd yn areithydd gwael a bu William Russell, arweinydd annibynnol ceidwadol snoblyd yr wrthblaid yn y senedd yn ei ddilorni am fod yn anllythrenog. Ond roedd yr etholwyr cyffredin yn ei barchu fel dyn cyffredin a oedd wedi llwyddo  drwy ei ymdrechion ei hun. Roedd ganddo ddelwedd o fod yn arloeswr garrw; yn fyr o gorff ond gyda brest fel casgen, yn gwisgo barf trwchus ac, fel arfer, wedi ei wisgo mewn dillad gwladaidd o frethyn cartref.[1]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Senedd Seland Newydd
Blwyddyn Tymor Etholaeth Plaid
1905–1908 16eg Hawkes Bay Rhyddfrydol
1908–1911 17eg Hawkes Bay Rhyddfrydol

Llwyddodd Dillon i gael ei ethol fel cynrychiolydd etholaeth Hawkes Bae ym 1905, gan guro Arweinydd yr Wrthblaid, William Russell, daliodd gafael ar ei sedd yn etholiad 1908 ond fe'i collodd ym 1911.[4] Roedd yn 64 mlwydd oed ar adeg ei ethol am y tro cyntaf ac yn cael ei adnabod yn annwyl fel "Dad" gan yr aelodau Rhyddfrydol eraill.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Hamer 1988, t. 196.
  2. Hamer 1988, t. 362.
  3. Gwasanaeth Archifau Môn / Yr Eglwys yng Nghymru; Cofrestr Bedyddiadau yn Eglwys St Beuno Trefdraeth; Cofnod 385; tudalen 11; dyddiad 12/12/1841
  4. Wilson, James Oakley (1985) [First ed. published 1913]. New Zealand Parliamentary Record, 1840–1984 (arg. 4th). Wellington: V.R. Ward, Govt. Printer. t. 193. OCLC 154283103.
  5. Hamer 1988, t. 197.