Aldrington

Oddi ar Wicipedia
Aldrington
Eglwys Sant Philip, New Church Road, Aldrington, Hove
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Brighton a Hove
Daearyddiaeth
LleoliadHove Edit this on Wikidata
SirDwyrain Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.8308°N 0.1936°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ273050 Edit this on Wikidata
Map

Ac ardal faestrefol Hove yn sir seremonïol Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Aldrington.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dinas Brighton a Hove.

Am ganrifoedd roedd yr ardal yn doldir ar hyd yr arfordir yn ymestyn i’r gorllewin o hen bentref Hove i hen aber Afon Adur. Dechreuwyd datblygu'r ardal o ddiwedd y 19g fel estyniad gorllewinol i Hove. Cyfunwyd Aldrington â thref Hove ym 1894. Roedd ei strydoedd wedi'u gosod ar gynllun grid hirsgwar, peth anarferol yn Lloegr bryd hynny.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 10 Mehefin 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Ddwyrain Sussex. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato