Alcohol (meddyginiaeth)

Oddi ar Wicipedia
Alcohol
Enghraifft o'r canlynolcyffur hanfodol Edit this on Wikidata
Mathantiseptic, disinfectant, antidote Edit this on Wikidata
Deunyddethanol Edit this on Wikidata

Defnyddir alcoholau mewn gwahanol ffyrdd yn y maes meddygol, fel antiseptig, diheintydd, a gwrthgyffur. Gosodir ar y croen er mwyn ei ddiheintio cyn ei frechu a nodwydd neu cyn llawdriniaeth. Defnyddir i ddiheintio croen y claf ynghyd â dwylo'r darparwyr gofal iechyd. Mae modd glanhau ardaloedd eraill gydag alcohol.[1] Fe'i defnyddir mewn cegolchion.[2] Wrth ei gymryd drwy'r geg neu ei chwistrellu i mewn i wythïen gall drin gwenwyndra methanol neu ethylen glycol pan na fydd fomepizole ar gael. Ac eithrio'r enghreifftiau uchod, ni cheir defnydd meddygol canmoladwy arall i alcohol, o ystyried mai 10:1 yn unig yw mynegai therapiwtig ethanol.

Gall alcohol arwain at ymdeimlad o gosi ar y croen. Dylid cymryd gofal gyda electrocautery gan fod ethanol yn llosgadwy.[3] Defnyddir gwahanol fathau o alcohol gan gynnwys ethanol, ethanol annaturiol, 1-propanol, ac alcohol isopropyl.[4] Gweithia'n effeithiol yn erbyn ystod o ficro-organeddau, serch hynny nid yw'n llonyddu sborau. Rhaid defnyddio crynoadau o 60 i 90% er mwyn cael y canlyniadau gorau.

Defnyddiwyd alcohol fel antiseptig mor gynnar â'r flwyddyn 1363 a cheir tystiolaeth i gefnogi y gwnaed defnydd agored ohono o ddiwedd y 1800au ymlaen.[5] Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[6] Yn y byd datblygol ei gost gyfanwerthol yw oddeutu 1.80 i 9.50 o ddoleri i bob litr o ethanol annaturiol 70%. I'r GIG yn y Deyrnas Unedig mae'n costio oddeutu 3.90 o bunnoedd Prydeinig i bob litr o alcohol annaturiol 99%. Mae fformwleiddiadau masnachol yn cynnwys alcohol a chynhwysion eraill megis chlorhexidine ar gyfer defnydd golchi dwylo hefyd ar gael.[4][7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. WHO Model Formulary 2008 (PDF). World Health Organization. 2009. t. 321. ISBN 9789241547659. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 January 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Hardy Limeback (11 April 2012). Comprehensive Preventive Dentistry. John Wiley & Sons. tt. 138–. ISBN 978-1-118-28020-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 September 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. British national formulary : BNF 69 (arg. 69). British Medical Association. 2015. tt. 42, 838. ISBN 9780857111562.
  4. 4.0 4.1 McDonnell, G; Russell, AD (January 1999). "Antiseptics and disinfectants: activity, action, and resistance.". Clinical Microbiology Reviews 12 (1): 147–79. PMID 9880479. https://archive.org/details/sim_clinical-microbiology-reviews_1999-01_12_1/page/147.
  5. Block, Seymour Stanton (2001). Disinfection, Sterilization, and Preservation (yn Saesneg). Lippincott Williams & Wilkins. t. 14. ISBN 9780683307405. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 January 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Bolon, MK (September 2016). "Hand Hygiene: An Update.". Infectious disease clinics of North America 30 (3): 591–607. PMID 27515139.