Alanis Morissette
Alanis Morissette | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Alanis Nadine Morissette ![]() 1 Mehefin 1974 ![]() Ottawa ![]() |
Man preswyl | Ottawa ![]() |
Label recordio | Maverick, MCA Records, Warner Bros. Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Canada, Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, actor, cyfansoddwr, cerddor, cynhyrchydd recordiau, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, cyfansoddwr caneuon, gitarydd, actor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, artist recordio ![]() |
Arddull | roc amgen, cerddoriaeth roc, roc arbrofol, roc poblogaidd, cerddoriaeth boblogaidd, post-grunge, pop dawns, electronica, roc blaengar ![]() |
Math o lais | mezzo-soprano ![]() |
Prif ddylanwad | Sinéad O'Connor, Marianne Williamson ![]() |
Tad | Alan Richard Morissette ![]() |
Mam | Georgia Feuerstein ![]() |
Priod | Souleye ![]() |
Partner | Ryan Reynolds ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Gammy am Berfformiad o'r Gân Roc Orau gan Leisydd Benywaidd, Gwobr Gammy am y Gân Roc Orau, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Grammy Award for Best Rock Album, Gwobr MTV am Gerddoriaeth Fideo ar gyfer y Fideo Benyw Gorau, Juno Award for Rock Album of the Year, Gwobr Juno am Albwm y Flwyddyn, BRIT Award for International Breakthrough Act, MTV Video Music Award for Best Editing, Gwobr Juno am Gyfansoddwr Caneuon y Flwyddyn, Gwobr Juno am Sengl y Flwyddyn, MTV Video Music Award for Best New Artist, MTV Europe Music Award for Best Female, American Music Award for Favorite Pop/Rock Female Artist, Gwobr Juno am Gyfansoddwr Caneuon y Flwyddyn, American Music Award for Favorite Pop/Rock Album, Juno International Achievement Award, Gwobr Juno am Gyfansoddwr Caneuon y Flwyddyn, Gwobr Juno am Sengl y Flwyddyn, Grammy Award for Best Music Film, Gwobr Gammy am Berfformiad o'r Gân Roc Orau gan Leisydd Benywaidd, Gwobr Gammy am y Gân Roc Orau, Gwobr Juno am Albwm y Flwyddyn, Gwobr Juno am Fideo y Flwyddyn, Jack Richardson Producer of the Year Award, Gwobr Juno am Albwm Pop y Flwyddyn, Gwobr 'Hall of Fame' Cerddoriaeth Canada, Gwobr 'Walk of Fame' Canada ![]() |
Gwefan | https://alanis.com/ ![]() |
Cantores, cerddores, cynhyrchydd recordiau ac actores o Ganada yw Alanis Nadine Morissette (ganwyd 1 Mehefin 1974). Mae wedi ennill 12 Gwobr Juno a 7 Gwobr Grammy. Dechreuodd Morissette ei gyrfa yng Nghanada, gan recordio dwy albwm pop tra yn ei harddegau, Alanis a Now Is the Time, o dan label MCA Records. Newidiodd ei harddull a thynnwyd y ddwy albwm gyntaf o'r farchnad cyn i'w halbwm gyntaf ar ei gwedd roc newydd gael ei ryddhau yn rhyngwladol, sef Jagged Little Pill. Ystyrir mai hwn yw ei halbwm cyntaf, a hon yw'r albwm gyntaf gan gerddor benywaidd i gyrraedd brig y siartiau yn yr Unol Daleithiau, a'r albwm gyntaf cyntaf i werthu orau'n fyd-eang, gan werthu gwerth 30 miliwn hyd 2005.[1] Rhyddhawyd yr albwm olynol, Supposed Former Infatuation Junkie, ym 1998, a bu hefyd yn llwyddiant. Dechreuodd Morissette gynhyrchu ei halbymau canlynol yn ogystal, gan gynnwys Under Rug Swept, So-Called Chaos a Flavors of Entanglement. Ym mis Chwefror 2005, daeth Morissette yn ddinesydd yr Unol Daleithiau, ond gan gadw ei dinasyddiaeth Canadaidd.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Alanis Morissette: You ask the questions", The Independent, 21 Ebrill 2005.
- ↑ Alanis Morissette becomes U.S. citizen. MSNBC. Associated Press (17 Chwefror 2005).