Neidio i'r cynnwys

Alan Jones (cricedwr)

Oddi ar Wicipedia
Alan Jones
Ganwyd4 Tachwedd 1938 Edit this on Wikidata
Felindre Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcricedwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCricedwr y Flwyddyn, Wisden Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Criced Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cricedwr o Gymru yw Alan Jones MBE (ganwyd 4 Tachwedd 1938), a chwaraeodd i Forgannwg am bron i chwarter canrif. Chwaraeodd hefyd, am un tymor yr un, gyda Gorllewin Awstralia, Natal a Gogledd Transvaal. Mae'n dal y record am sgorio'r nifer fwyaf o rediadau mewn criced dosbarth cyntaf heb chwarae mewn gêm brawf swyddogol.[1]

Roedd Jones yn fatiwr agoriadol llaw chwith cyson, a sgoriodd 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf ym mhob tymor criced Lloegr o 1961 i 1983, pan ymddeolodd. [2] Mewn pump allan o chwe thymor o 1963 i 1968 sgoriodd fwy na 1,800 o rediadau, ac fe sgoriodd ar gyfartaledd yng nghanol y 30au am y rhan fwyaf o dymhorau.[3] Ei gysondeb a’i ddibynadwyedd oedd sylfaen tîm Morgannwg a enillodd y Bencampwriaeth ym 1969, ond roedden nhw’r un mor bwysig yn nhimau llawer llai llwyddiannus y 1970au.

Wedi cael profiad gyda criced lleol ger Abertawe, chwaraeodd Jones gyntaf i Forgannwg yn 1957. Ar ôl dwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol, bu'n aelod rheolaidd o dîm y sir yn 1960 a gwnaeth 1,000 o rediadau am y tro cyntaf yn 1961, gan ennill ei gap ym 1962. Wedi hynny bu’n chwarae'n selog i'r tîm nes iddo ymddeol ar ddiwedd tymor 1983, ac mae ei record o sgorio 1,000 o rediadau mewn 23 tymor wedi ei guro gan ddim ond 10 cricedwr arall. Roedd cyfanswm ei yrfa o 36,049 o rediadau yn ei roi yn 35ain ar y rhestr erioed o redwyr a dyma'r uchaf o unrhyw chwaraewr na chwaraeodd griced prawf.[2](Efallai nid trwy gyd-ddigwyddiad, ei gydweithiwr o Forgannwg Don Shepherd sy’n dal y record am gipio’r nifer fwyaf o wicedi dosbarth cyntaf heb chwarae gêm brawf). Mae ei 56 canrif mewn criced dosbarth cyntaf yn cael ei ragori gan John Langridge yn unig, ymhlith chwaraewyr nad ydynt yn rhan o'r Prawf. Yn ogystal â'r rhediadau dosbarth cyntaf hyn, sgoriodd hefyd fwy na 7,000 o rediadau mewn gemau Rhestr A. Ef yw deiliad record Morgannwg am rediadau gyrfa ac, ar y cyd â Hugh Morris, am ganrifoedd.

Mae Jones yn unigryw gan ei fod wedi ennill cap Prawf a dynnwyd oddi arno yn ddiweddarach.[4] Cafodd ei ddewis, ynghyd â'i gyd-fatiwr agoriadol Brian Luckhurst, i chwarae am y tro cyntaf yn y gêm gyntaf rhwng Lloegr a XI Gweddill y Byd yn 1970 ar ôl canslo taith tîm criced De Affrica. Pump am sero yn unig sgoriodd, wedi ei ddal gan Mike Procter yn y ddau fatiad, ac ni chafodd ei ddewis eto. Yn ddiweddarach, dyfarnwyd nad oedd y gêm, a gafodd statws Prawf yn wreiddiol, yn cyfrif fel gêm Brawf.[2] Ymddangosodd yr holl chwaraewyr eraill a chwaraeodd yn y gyfres hon mewn criced Prawf mewn cyfresi eraill.

Bu Jones yn gapten ar Forgannwg yn 1977 a 1978. Cafodd ei enwi’n Gricedwr y Flwyddyn Wisden yn 1978, ar ôl mynd â’r sir i’w rownd derfynol Rhestr A gyntaf yng Nghwpan Gillette y tymor blaenorol.[2]

Brawd Jones, Eifion Jones, oedd wicedwr Morgannwg am y ran helaeth o’r cyfnod pan oedd Jones yn fatiwr agoriadol, a chwaraeodd ei fab Andrew unwaith mewn gêm Rhestr A i Forgannwg. Enillodd enw fel hyfforddwr o safon fyd-eang, ac mae’n hyfforddi tîm criced dan 11 Cymru gyda chymorth Peter Davies.

Ym mis Mehefin 2020, cafodd Jones ei gydnabod fel cricedwr Prawf Lloegr gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB),[5] gyda'r ECB yn rhoi cap rhif 696[6] iddo, hanner can mlynedd ar ôl y gêm.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Golden gloves". ESPN Cricinfo. 4 Tachwedd 2005. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2017.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Player Profile: Alan Jones". Cricinfo. Cyrchwyd 24 Ionawr 2010.
  3. "First-class Batting and Fielding in Each Season by Alan Jones". CricketArchive. Cyrchwyd 24 Ionawr 2010.
  4. "Taking note of a Welsh cricketer's moment of test glory". International Herald Tribune. 11 Ebrill 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ebrill 2008. Cyrchwyd 11 Ebrill 2008.
  5. "Alan Jones: Glamorgan batsman awarded England honour 50 years on". BBC Sport. Cyrchwyd 17 Mehefin 2020.
  6. "Glamorgan legend Alan Jones awarded England cap". Glamorgan Cricket. Cyrchwyd 17 Mehefin 2020.
  7. "Alan Jones awarded England cap 50 years after debut". Shropshire Star. Cyrchwyd 17 Mehefin 2020.