Alan Clayton
| Alan Clayton | |
|---|---|
| Ganwyd | Alan Clayton 1941 Rhosllannerchrugog, Wrecsam |
| Bu farw | 4 Tachwedd 2020 |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm a theledu |
Cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm a theledu o Rosllannerchrugog, Wrecsam, Cymru[1] oedd Alan Clayton (1941 – 4 Tachwedd 2020).[2] Bu'n gyfrifol am nifer o ffilmiau a chyfresi cynnar S4C, BBC, HTV a Bwrdd Ffilmiau Cymraeg cyn hynny, gan gynnwys We Are Seven (1989), Newid Gêr (1980), Old Scores (1991), Ballroom (1988) a'r gyfres gyntaf o Minafon (1983).[2] Enillodd ddwy Wobr BAFTA Cymru am y dramâu gorau sef Old Scores ym 1993 a We Are Seven ym 1991.[2] Enillodd sawl wobr Ryngwladol am ei ffilm Better Days (1990).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Derbyniodd ei addysg cynnar yn Ysgol Rhiwabon.[3] Cychwynodd ei yrfa gyda'r Gwasanaeth Sifil, cyn troi at y theatr pan gafodd gyfle i weithio yn y Library Theatre, Manceinion.[3] Gweithiodd am rai blynyddoedd mewn gwahanol theatrau ar yr ochor rheoli llwyfan, cyn ymuno â'r BBC a wedyn Granada, a HTV ym 1977.[3] Bu'n Oruchwyliwr Drama i HTV yn y 1980au a'r 1990au.[4]
Treuliodd gyfnod yn cyfarwyddo cynyrchiadau theatr i Gwmni Theatr Cymru gan gynnwys drama Meic Povey Cofiant y Cymro Olaf a drama Gwenlyn Parry, Sal.
Ym 1983, sefydlodd ei gwmni teledu ei hun i gynhyrchu'r gyfres Minafon ar gyfer S4C, cyn i Ffilmiau Eryri ei chynhyrchu o'r ail-gyfres ymlaen.
Ym 1993, bu ynghanol helynt yn y llysoedd dros y ffilm The Marshal gydag Alfred Molina, ffilm roedd Clayton wedi'i chyfarwyddo. Derbyniwyd cwyn bod HTV wedi torri cytundeb gyda chwmni ffilm Portobello Productions dros hawliau'r ffilm.[5]
Bu farw ar y 4 Tachwedd 2020 yn 79 oed.[4] Roedd yn briod ers 1973 ac mae ganddynt 2 o blant.[2]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Cofiant y Cymro Olaf (1979) Cwmni Theatr Cymru
- Mwstwr yn y Clwstwr (1979) Cwmni Theatr Cymru
- Sal (1980) Cwmni Theatr Cymru
Ffilm a Theledu
[golygu | golygu cod]- Newid Gêr (1980)
- Mae'r Gelyn Oddi Mewn (1981)
- Aelwyd Gartrefol (1983)
- Meistres y Chwarae (1984)
- Taff Acre
- Minafon (1983)
- Camau Toellog (1984)
- Pobol y Cwm
- Better Days (1987) - Gwobr RTS Cymru [Royal Television Society] am y cyfraniad gorau i deledu ym 1988 a dwy wobr yn yr 29ain Ŵyl Gwobrau Teledu ym Monte-Carlo.[1]
- Ballroom (1988)
- We Are Seven (1989)
- A Christmas Story (1990)
- Old Scores (1991)
- Jazz Detective (1992) ITV
- The Marshal (1993)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Good Time for Better Days". Glamorgan Gazette. 18 Mai 1989.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Alan Clayton - Biography". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-27.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Rhaglen Cofiant y Cymro Olaf. Cwmni Theatr Cymru. 1979.
- ↑ 4.0 4.1 "Nodyn gan Derwyn Williams ar Facebook".
- ↑ "Top TV drama lands HTV in Court". Bristol Evening Post. 22 Ebrill 1993.