Alan Ayckbourn
Alan Ayckbourn | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ebrill 1939 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, sgriptiwr, cyfarwyddwr theatr, libretydd |
Swydd | cymrawd |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, CBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Marchog Faglor, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts |
Gwefan | http://www.alanayckbourn.net |
Mae Syr Alan Ayckbourn CBE FRSA (ganwyd 12 Ebrill 1939) yn ddramodydd a chyfarwyddwr Prydeinig toreithiog. Bu'n ysgrifennu a chynhyrchu dramâu ers y 1950au, ac erbyn 2024, roedd y nifer o gynyrchiadau o ddramâu hir a gyflawnodd wedi cyrraedd cyfanswm o 90. Llwyfannwyd y gwaith yn Llundain a Scarborough, lle bu'n gyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph rhwng 1972 a 2009. Ers hynny, mae dros 40 o'i ddramâu wedi’u cynhyrchu yn y West End, yn y National Theatre neu gan y Royal Shakespeare Company. Ei sioe boblogaidd gyntaf oedd Relatively Speaking a lwyfannwyd yn Theatr y Duke of York ym 1967.
Mae llwyddiannau eraill yn cynnwys Absurd Person Singular (1975), trioleg The Norman Conquests (1973), Bedroom Farce (1975), Just Between Ourselves (1976), A Chorus of Disapproval (1984), Woman in Mind (1985), A Small Family Business (1987), Man of the Moment (1988), House & Garden (1999) a Private Fears in Public Places (2004). Mae ei ddramâu wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys saith Gwobr Evening Standard Llundain. Maent wedi eu cyfieithu i dros 35 o ieithoedd [gan gynnwys y Gymraeg] ac yn cael eu perfformio ar lwyfan a theledu ledled y byd. Mae deg o'i ddramâu wedi'u llwyfannu ar Broadway, gan ennill un Gwobr Tony a dau enwebiad.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Plentyndod
[golygu | golygu cod]Ganed Ayckbourn yn Hampstead, Llundain.[1] Roedd ei fam, Irene Worley ("Lolly") (1906 - 1998), yn awdur straeon byrion a gyhoeddodd dan yr enw "Mary James".[2] Roedd ei dad, Horace Ayckbourn (1904–1965), yn feiolinydd cerddorfaol a prif feiolinydd y London Symphony Orchestra.[3] Ni phriododd ei rieni, a gwahanodd y ddau yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ysgarodd ei fam ei gŵr cyntaf i ail briodi ym 1948.[1]
Ysgrifennodd Ayckbourn ei ddrama gyntaf yn Wisborough Lodge (ysgol baratoi ym mhentref Wisborough Green) pan oedd tua 10 oed.[4] Tra'n preswylio yn yr ysgol, ysgrifennodd ei fam ato i ddweud am ei bwriad o briodi'r rheolwr banc, Cecil Pye. Roedd ei deulu newydd yn cynnwys ei fam, ei lystad a Christopher, mab ei lysdad trwy briodas gynharach. [5]
Mynychodd Ayckbourn golegau Haileybury ac Imperial Service, ym mhentref Hertford Heath, a thra yno, bu ar daith yn Ewrop ac America gyda chwmni Shakespeare yr ysgol.[6]
Bywyd oedolyn
[golygu | golygu cod]Wedi gadael yr ysgol yn 17 oed, bu'n gweithio dros dro mewn gwahanol swyddi, cyn derbyn swydd yn Theatr Llyfrgell Scarborough, lle cafodd ei gyflwyno i'r cyfarwyddwr artistig, Stephen Joseph.[7] Dywedir i Joseff ddod yn fentor ac yn ffigwr tadol i Ayckbourn hyd ei farwolaeth annhymig ym 1967,[8] ac mae Ayckbourn wedi'i ganmol yn gyson.[9]
Wedi gwasanaethu yn Y Fyddin am gyfnod, ymgartrefodd yn Scarborough, gan brynu Longwestgate House cyn gartref ei fentor, Stephen Joseph.[10]
Ym 1957, priododd Ayckbourn â Christine Roland, aelod arall o gwmni Theatr y Llyfrgell.[11] [12] Ysgrifennwyd ei ddwy ddrama gyntaf ar y cyd â hi, dan y ffugenw "Roland Allen".[13] Ganwyd iddynt ddau fab, Steven a Philip.[14] Yn anffodus, chwalwyd y briodas ym 1971. Tua'r un amser, roedd yn rhannu cartref gyda Heather Stoney,[15] actores y cyfarfu â hi gyntaf ddeng mlynedd ynghynt.[16] Fel ei fam, ni cheisiodd ysgariad ar unwaith, a bu'n rhaid aros tan 1997 am ysgariad ffurfiol a phriodas Ayckbourn â Stoney.[17] [18]
Ym mis Chwefror 2006, dioddefodd strôc yn Scarborough, a dywedodd: "Rwy'n gobeithio bod yn ôl ar fy nhraed, neu falla ddyliwn i ddeud fy nghoes chwith, cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser rydw i mewn dwylo rhagorol, felly hefyd Theatr Stephen Joseph.” [19] Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Ayckbourn y byddai'n ymddiswyddo fel cyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph. [20] Mae'n parhau, fodd bynnag, i ysgrifennu a chyfarwyddo ei waith ei hun yn y theatr.
Dylanwad ar ddramâu
[golygu | golygu cod]Ers i ddramâu Ayckbourn gael eu llwyfannu'n rheolaidd yn y West End, mae adolygwyr wedi holi os oes elfen hunangofiannol yn ei waith.[21] Ni chafwyd ateb clir i'r cwestiwn hwn. Dim ond un cofiant sydd, a ysgrifennwyd gan Paul Allen, sy'n ymdrin yn bennaf â'i yrfa yn y theatr. [22] Mae Ayckbourn wedi cyfaddef yn aml ei fod yn gweld agweddau ohono'i hun ym mhob un o'i gymeriadau. Yn Bedroom Farce (1975), er enghraifft, cyfaddefodd fod rhannau ohono yn y pedwar cymeriad gwrywaidd. [23] Awgrymwyd, mai ei fam yw'r dylanwad a ddefnyddir amlaf, ar wahan i'w brofiadau ei hun. Yn enwedig fel Susan yn Woman in Mind [24] (1985).
Mae'n llai eglur i ba raddau mae digwyddiadau ym mywyd Ayckbourn wedi dylanwadu ar ei ysgrifennu,. Mae’n wir fod thema priodasau mewn anhawster yn amlwg iawn drwy gydol ei ddramâu yn y saithdegau cynnar, tua’r adeg yr oedd ei briodas ei hun yn dirwyn i ben. Fodd bynnag, erbyn hynny, roedd hefyd wedi bod yn dyst i fethiant perthynas ei rieni a rhai o'i ffrindiau.[21]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gyrfa gynnar ac actio
[golygu | golygu cod]Dechreuodd gyrfa theatrig Ayckbourn yn syth ar ôl gadael yr ysgol, pan gyflwynwyd ef i Syr Donald Wolfit.[25] Ymunodd Ayckbourn â Wolfit ar daith i Ŵyl Ymylol Caeredin fel rheolwr llwyfan cynorthwyol dros dro (rôl oedd yn cynnwys actio a rheoli llwyfan) am dair wythnos.[26] Ei brofiadau cyntaf ar y llwyfan proffesiynol oedd yn The Strong are Lonely gan Fritz Hochwälder.[27] Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd Ayckbourn mewn chwe drama arall yn Theatr Connaught, Worthing[28] a theatr Thorndike, Leatherhead.[29]
Ym 1957, cyflogwyd Ayckbourn gan y cyfarwyddwr Stephen Joseph yn Theatr y Llyfrgell, Scarborough, rhagflaenydd y Theatr Stephen Joseph newydd.[7] Arweiniodd y gwaith yma at gomisiynau sgriptiau proffesiynol cyntaf Ayckbourn, ym 1958. Ysgrifennodd The Square Cat, dan y ffugenw Roland Allen a berfformiwyd gyntaf ym 1959.[30]
Ym 1962, symudodd Ayckbourn i Stoke-on-Trent i helpu sefydlu Theatr Victoria (y New Vic bellach). [31]
Ysgrifennu
[golygu | golygu cod]Roedd drama gyntaf Ayckbourn, The Square Cat, yn ddigon poblogaidd i sicrhau comisiynau pellach. Llwyddiant arall oedd Mr. Whatnot ym 1963. Hon oedd y ddrama gyntaf i Ayckbourn fod yn ddigon hapus â hi i ganiatáu perfformiadau ohoni hyd heddiw. Ym 1965, cynhyrchwyd Meet my Father, gafodd ei hail enwi yn Relatively Speaking. Bu’r ddrama’n llwyddiant ysgubol, yn Scarborough ac yn y West End. Sicrhaodd ei ddrama ganlynol, How the Other Half Loves, ei lwyddiant dihangol fel dramodydd. [32] [33]
Daeth llwyddiant masnachol Ayckbourn i'w anterth gyda dramâu fel Absurd Person Singular (1975), trioleg The Norman Conquests (1973), Bedroom Farce (1975) a Just Between Ourselves (1976). Roedd y dramâu hyn yn canolbwyntio'n helaeth ar briodasau'r dosbarth canol ym Mhrydain.[34]
Gyda portffolio o dros 70 o ddramâu, a mwy na deugain ohonynt wedi'u llwyfannu yn y National Theatre neu yn y West End, mae Alan Ayckbourn yn un o ddramodwyr mwyaf llwyddiannus Lloegr, sy'n dal ar dir y byw. Er gwaethaf ei lwyddiant, ei anrhydeddau a'i wobrau (sy'n cynnwys gwobr Laurence Olivier), mae Alan Ayckbourn yn parhau i fod yn ffigwr gymharol ddi-wybod, sy'n ymroddedig i theatr ranbarthol. [35]
Derbyniodd Ayckbourn y CBE ym 1987 [36] a cafodd ei urddo'n farchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1997. [37]
Yn 2019, cyhoeddodd Ayckbourn ei nofel gyntaf, The Divide.
Cyfarwyddo
[golygu | golygu cod]Er mai fel dramodydd yr adnabyddir Ayckbourn yn bennaf, dywedir mai 10% o'i amser sy'n cael ei roi i ysgrifennu gyda'r gweddil yn cyfarwyddo. [38]
Dioddefodd Ayckbourn strôc ym mis Chwefror 2006 a dychwelodd i'r gwaith ym mis Medi; daeth première ei 70fed drama If I Were You yn Theatr Stephen Joseph y mis canlynol. [39]
Cyhoeddodd ym mis Mehefin 2007 y byddai'n ymddeol fel cyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph ar ôl tymor 2008. [20] Cymerodd ei olynydd, Chris Monks, yr awenau ar ddechrau tymor 2009–2010 [40] ond arhosodd Ayckbourn i gyfarwyddo premières ac adfywiadau o'i waith yn y theatr, gan ddechrau gyda How the Other Half Loves ym mis Mehefin 2009. [41]
Anrhydeddau a gwobrau
[golygu | golygu cod]- 1973: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am Absurd Person Singular
- 1974: Gwobr Evening Standard, y Ddrama Orau, am The Norman Conquests
- 1977: Gwobr Evening Standard, y Ddrama Orau, am Just Between Ourselves
- 1981: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol Hull
- 1985: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am A Chorus of Disapproval
- 1985: Gwobr Laurence Olivier, Comedi Orau, am A Chorus of Disapproval
- 1986: Rhyddid Bwrdeistref Scarborough . [42]
- 1987: Gwobr Evening Standard, y Ddrama Orau, am A Small Family Business
- 1987: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol Keele
- 1987: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol Leeds
- 1987: Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE)
- 1989: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am Henceforward...
- 1990: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am Man of the Moment
- 1998: Doethur er Anrhydedd y Brifysgol (D.Univ.) o'r Brifysgol Agored
- 2009: Gwobr Arbennig Laurence Olivier
- 2009: Gwobr flynyddol Cylch y Beirniaid am Wasanaeth Nodedig i'r Celfyddydau
- 2011: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol York St. John
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Addasiadau Cymraeg
[golygu | golygu cod]Addaswyd neu gyfieithwyd nifer o ddramâu Ayckbourn i'r Gymraeg dros y degawdau gan gynnwys:
- Troi a Throsi (1985) - cyfieithiad John Gwilym Jones o Round and Round the Garden.
- Byw'n Gytûn (?) - cyfieithiad John Gwilym Jones o Living Together [43]
- Bydd wrth ein bwrdd (?) - cyfieithiad John Gwilym Jones o Table Manners.
- Un o'r Teulu (1990) - cyfieithiad John Ogwen o Relatively Speaking.
Dramâu hir
[golygu | golygu cod]Rhif y ddrama | Teitl | Cyfres |
---|---|---|
1 | The Square Cat | |
2 | Love After All | |
3 | Dad's Tales | |
4 | Standing Room Only | |
5 | Christmas V Mastermind | |
6 | Mr Whatnot | |
7 | Relatively Speaking | |
8 | The Sparrow | |
9 | How the Other Half Loves | |
10 | Family Circles | |
11 | Time And Time Again | |
12 | Absurd Person Singular | |
13 | The Norman Conquests | Table Manners |
14 | Living Together | |
15 | Round and Round the Garden | |
16 | Absent Friends | |
17 | Confusions | |
18 | Jeeves | |
19 | Bedroom Farce | |
20 | Just Between Ourselves | |
21 | Ten Times Table | |
22 | Joking Apart | |
23 | Sisterly Feelings | |
24 | Taking Steps | |
25 | Suburban Strains | |
26 | Season's Greetings | |
27 | Way Upstream | |
28 | Making Tracks | |
29 | Intimate Exchanges | Affairs in a Tent |
Events on a Hotel Terrace | ||
A Garden Fete | ||
A Pageant | ||
A Cricket Match | ||
A Game of Golf | ||
A One Man Protest | ||
Love in the Mist | ||
30 | It Could Be Any One Of Us | |
31 |
A Chorus of Disapproval | |
32 | Woman in Mind | |
33 | A Small Family Business | |
34 | Henceforward... | |
35 | Man of the Moment | |
36 | Mr A's Amazing Maze Plays | |
37 |
The Revengers' Comedies | |
38 | Invisible Friends | |
39 | Body Language | |
40 | This Is Where We Came In | |
41 | Callisto 5 | |
42 | Wildest Dreams | |
43 | My Very Own Story | |
44 | Time of My Life | |
45 | Dreams From A Summer House | |
46 | Communicating Doors | |
47 | Haunting Julia | |
48 | The Musical Jigsaw Play | |
49 | A Word From Our Sponsor | |
(18) | By Jeeves | |
50 | The Champion Of Paribanou | |
51 | Things We Do For Love | |
52 | Comic Potential | |
53 | The Boy Who Fell into a Book | |
54 | House and Garden | House |
55 | Garden | |
(41) | Callisto#7 | |
56 | Virtual Reality | |
57 | Whenever | |
58 | Damsels in Distress | GamePlan |
59 | FlatSpin | |
60 | RolePlay | |
61 | Snake in the Grass | |
62 | The Jollies | |
63 | Sugar Daddies | |
64 | Orvin – Champion of Champions | |
65 | My Sister Sadie | |
66 | Drowning on Dry Land | |
67 | Private Fears in Public Places | |
68 | Miss Yesterday | |
69 | Improbable Fiction | |
70 | If I Were You | |
71 | Things That Go Bump | Life and Beth |
72 | Awaking Beauty | |
73 | My Wonderful Day | |
74 | Life of Riley | |
75 | Neighbourhood Watch | |
76 | Surprises | |
77 | Arrivals & Departures | |
78 | Roundelay | |
79 | Hero's Welcome | |
80 | Consuming Passions | |
81 | A Brief History of Women | |
82 | Better Off Dead | |
83 | Birthdays Past, Birthdays Present | |
84 | Anno Domino | |
85 | The Girl Next Door | |
86 | All Lies | |
87 | Family Album | |
88 | Welcome to the Family | |
89 | Constant Companions |
Dramâu un act
[golygu | golygu cod]Mae Alan Ayckbourn wedi ysgrifennu wyth drama un act. Ysgrifennwyd pump ohonynt (Mother Figure, Drinking Companion, Between Mouthfuls, Gosforth's Fete a Widows Might ) ar gyfer Confusions, a berfformiwyd gyntaf yn 1974 .
Y tair drama un act arall yw:
- Countdown, a berfformiwyd gyntaf yn 1962, y mwyaf adnabyddus fel rhan o Mixed Doubles, set o ddramâu un act byr a monologau a gyfrannwyd gan naw awdur gwahanol.
- Ernie's Incredible Illucinations, a ysgrifennwyd yn 1969 ar gyfer casgliad o ddramâu byrion ac a fwriadwyd i'w perfformio gan ysgolion. [44]
- A Cut in the Rates, a berfformiwyd yn Theatr Stephen Joseph yn 1984, a'i ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen gan y BBC.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Ayckbourn, Alan (2002). The Crafty Art of Playmaking. UK: Faber and Faber. ISBN 0-571-21509-2.
- Ayckbourn, Alan (2003). The Crafty Art of Playmaking. USA: Palgrave Macmillan. ISBN 1-4039-6229-4.
- Ayckbourn, Alan (2019) The Divide. UK: PS Publishing. ISBN 978-1-786364-47-0.
Addasiadau ffilm o ddramâu Ayckbourn
[golygu | golygu cod]Dramâu a addaswyd yn ffilmiau yn cynnwys:
- A Chorus of Disapproval (ffilm 1988), a gyfarwyddwyd gan Michael Winner ;
- Intimate Exchanges addaswyd ynSmoking/No Smoking (ffilm 1993), a gyfarwyddwyd gan Alain Resnais ;
- The Revengers' Comedies (a elwir hefyd yn Sweet Revenge ), a gyfarwyddwyd gan Malcolm Mowbray ;
- Private Fears in Public Places addaswyd yn Cœurs (ffilm 2006) a gyfarwyddwyd gan Alain Resnais .
- Life of Riley (ffilm 2014) wedi'i chyfarwyddo gan Alain Resnais.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 P. Allen, 2001, p. 9
- ↑ P. Allen, 2001, p. 10
- ↑ P. Allen, 2001, p. 6
- ↑ P. Allen, 2001, p. 20
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 17–19
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 30–33
- ↑ 7.0 7.1 P. Allen, 2001, pp. 43–46
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 118–119
- ↑ Ayckbourn, Alan (2003). The Crafty Art of Playmaking, Faber, ISBN 0-571-21509-2
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 145–146
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 297–299
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 65–67
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 67–72
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 69, 85
- ↑ P. Allen, 2001, p. 132
- ↑ P. Allen, 2001, p. 88
- ↑ 20 Facts about Alan Ayckbourn Archifwyd 2009-01-19 yn y Peiriant Wayback
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 297–298
- ↑ "Ayckbourn has stroke". Scarborougheveningnews.co.uk. 28 Chwefror 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 May 2013. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
- ↑ 20.0 20.1 "BBC News, 4 June 2007". BBC News. 4 Mehefin 2007. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
- ↑ 21.0 21.1 P. Allen, 2001, p. 123
- ↑ P. Allen, 2001,
- ↑ P. Allen, 2001, p. 155
- ↑ P. Allen, 2001, p. 3
- ↑ P. Allen, 2001, p. 32
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 36–38
- ↑ "Acting career on official Ayckbourn site". Biography.alanayckbourn.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2011. Cyrchwyd 29 August 2011.
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 38–40
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 41–43
- ↑ P. Allen, 2001, p. 65
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 87–88
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 122–123
- ↑ How the Other Half Loves history on official Ayckbourn site
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 146–148
- ↑ Gibson, Melissa (2002). "Alan Ayckbourn: Grinning at the Edge". Theatre Journal.
- ↑ P. Allen, 2001, p. 220
- ↑ P. Allen, 2001, p. 295
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 84–85
- ↑ Nuala Calvi (1 August 2006). "Ayckbourn back to work after stroke". The Stage. Cyrchwyd 29 August 2011.
- ↑ Russell Hector (4 Mehefin 2008). "The Guardian, 4 Mehefin 2008". The Guardian. Llundain. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
- ↑ "Scarborough Evening News, 26 Mai 2009". Scarborougheveningnews.co.uk. 22 Mai 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mai 2009. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
- ↑ https://www.thescarboroughnews.co.uk/news/people/boxer-ingle-and-four-others-honoured-by-the-town-1-4262978[dolen farw]
- ↑ "CalmView: Trosolwg". calmview.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 2024-10-09.
- ↑ "Ernie's Incredible Illucinations: Background". Alan Ayckbourn's Official Website. Cyrchwyd 29 October 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]