Akimi Yoshida

Oddi ar Wicipedia
Akimi Yoshida
Ganwyd12 Awst 1956 Edit this on Wikidata
Tokyo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol Celf Musashino, Tokyo Edit this on Wikidata
Galwedigaethmangaka, ysgrifennwr, darlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCalifornia Story, Kisshō Tennyo, Sakura no Sono, Banana Fish, Cusan Cariadon, Yasha, Eve no Nemuri, Our Little Sister, Kawa yori mo nagaku yuruyaka ni Edit this on Wikidata
Yn yr enw Japaneaidd hwn, Yoshida yw'r enw teuluol.

Awdures ac artist o Japan yw Akimi Yoshida (吉田 秋生 Yoshida Akimi; ganwyd 12 Awst 1956) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel arlunydd a darlunydd manga.

Fe'i ganed yn Tokyo ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Celf Musashino a Tokyo.[1][2][3] Gwnaeth ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf ym 1977 yng nghylchgrawn *neu gomic) Bessatsu Shōjo gyda gwaith o'r enw Chotto Fushigi na Geshukunin ('Cymydog Ychydig yn Rhyfedd').[4][5]

Mae Yoshida yn fwyaf adnabyddus am y gyfres drosedd shōjo バナナフィッシュ ('Y Sgodyn Banana') a addaswyd yn anime a gynhyrchwyd gan MAPPA yn 2018.[6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Mae hi wedi derbyn Gwobr Shogakukan Manga deirgwaith: am Kisshō Tennyo yn 1983, Yasha yn 2001 yng nghategori Shōjo ac am Ddyddiadur Umimachi yn 2015 yn y categori Cyffredinol.[7][8]

Yn 2007, gwobrwywyd hi gyda Gwobr am Waith Ardderchog mewn manga yn yr 11eg Gwyl Gelf Japan, a hynny am Ddyddiadur Umimachi, a addaswyd yn ddiweddarach yn ffilm nodwedd o'r enw Our Little Sister. Yn 2013, derbyniodd y 6ed Gwobr Manga Taishō, eto am Ddyddiadur Umimachi.[9]


Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Chotto Fushigi na Geshukunin (ちょっと不思議な下宿人), 1977
  • California Monogatari (カリフォルニア物語), 1978–1981
  • Kawa yori mo nagaku yuruyaka ni (河よりも長くゆるやかに), 1983
  • Kisshō Tennyo (吉祥天女), 1983–1984
  • Sakura no Sono (櫻の園), 1985–1986
  • Banana Fish (バナナフィッシュ), 1985–1994
  • Lovers' Kiss (ラヴァーズ・キス), 1995–1996
  • Yasha (YASHA-夜叉-), 1996–2002
  • Eve no Nemuri (イヴの眠り), 2003–2005
  • Umimachi Diary (海街 diary), 2006–2018
  • Utagawa Hyakkei (詩歌川百景), 2019–presennol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14490722h. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14490722h. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Akimi Yoshida". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Akimi Yoshida". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. "コミックナタリー - 吉田秋生のプロフィール". Comic Natalie (yn Japanese). Cyrchwyd 3 Mawrth 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. "The Official Website for Banana Fish". VIZ Media. Cyrchwyd 10 Mawrth 2019.
  6. Ressler, Karen (22 Chwefror 2018). "Banana Fish Anime Reveals Cast, More Staff, 1st Promo Video, Modern-Day Setting". Anime News Network.
  7. 小学館漫画賞: 歴代受賞者 (yn Japanese). Shogakukan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2007. Cyrchwyd 19 Awst 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. Loo, Egan. "Haikyu!!, My Love Story!!, Sunny Win Shogakukan Manga Awards". Anime News Network. Cyrchwyd 10 Mawrth 2019.
  9. Loo, Egan. "Akimi Yoshida's Umimachi Diary Wins 6th Manga Taisho Award". Anime News Network. Cyrchwyd 10 Mawrth 2019.