Aimee Watson
| Aimee Watson | |
|---|---|
| Ganwyd | 4 Awst 2000 Cymru |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Bristol City W.F.C. |
| Safle | chwaraewr canol cae |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewraig bêl-droed yw Aimee Watson (ganwyd 4 Awst 2000 yng Casnewydd). Mae hi’n chwarae fel gôl-geidwad i dîm merched Cheltenham Town ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel dan-16, dan-17 a dan-19.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Aimee Watson ei gyrfa gyda thîm merched Bristol City, gan wneud ei hymddangosiad cyntaf yn gêm Cwpan yr FA yn erbyn Everton yn 2018. Bu’n rhan o’r garfan a enillodd Gwpan Datblygu FA yn 2017, ac arhosodd gyda’r tîm cyntaf am ddwy flynedd[1]. Yn dilyn cyfnodau gydag Oxford United F.C. a Swindon, ymunodd Watson â chlwb merched Cheltenham Town yn 2021 fel y prif gôl-geidwad. Mae hi’n adnabyddus am ei sgiliau stopio ergydion, dewrder mewn sefyllfaoedd un-i-un, a’i llais treiddgar ar y cae.
Yn ystod tymor 2022–23, bu’n allweddol yn ei gwaith yn helpu Cheltenham i gystadlu am deitl Adran Un De-orllewin Cynghrair Genedlaethol y Merched[2].
Addysg ac iechyd
[golygu | golygu cod]Graddiodd Aimee o Brifysgol Gloucestershire gyda gradd israddedig, ac yn 2025 roedd yn gweithio fel hyfforddwraig ffitrwydd ac yn bwriadu astudio ar gyfer gradd meistr mewn cryfder corfforol[3].
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Mae Aimee Watson yn esiiampl wych i ferched ifanc sy’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn chwaraeon proffesiynol. Dywedir bod ei hymroddiad i hyfforddiant, ei gwaith tîm, a’i dewrder ar y cae yn cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach o rôl merched Cymreig mewn chwaraeon modern.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Laura McAllister (ganwyd 1964)
- Jess Fishlock (ganwyd 1987)
- Helen Ward (pêl-droedwraig) (ganwyd 1986)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ gloucestershirelive.co.uk; Teitl: Former Bristol City goalkeeper joins Cheltenham Town Ladies; Awdur: Jon Palmer; adalwyd 16 Awst 2025
- ↑ womenssoccerscene.co.uk; Teitl: An interview with Aimee Watson; Awdur: Women's Soccer Scene; adalwyd 16 Awst 2025
- ↑ sofascore.com; Teitl: Aimee Watson Stats and Ratings; Awdur: Sofascore; adalwyd 16 Awst 2025