Neidio i'r cynnwys

Agnes Twiston Hughes

Oddi ar Wicipedia
Agnes Twiston Hughes
Ganwyd28 Medi 1895 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw20 Hydref 1981 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr Edit this on Wikidata

Roedd Agnes Twiston Hughes (28 Medi 189520 Hydref 1981)[1] yn gyfreithwraig o Gymru ac yn faer Conwy. Astudiodd ym Mhrifysgol Llundain a hi oedd y fenyw gyntaf yng Nghymru i gymhwyso fel cyfreithwraig. Gweithiodd yng nghwmni ei thad ar ôl iddi raddio, gan gymryd awenau'r busnes wedi iddo farw. Yn ddiweddarach daeth yn gynghorydd lleol cyn dod yn Faer Conwy ym 1954.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hughes ym 1895, yn un o ddwy ferch John William Hughes. Roedd ei thaid ar ochr ei thad yn saer coed ond cafodd ei thad waith fel clerc mewn swyddfa cyfreithiwr yn Lloegr yn 19 oed. Daeth ei thad yn gyfreithiwr cymwys yn 41 oed a symudodd i Gonwy i sefydlu ei bractis, dan yr enw 'JW Hughes'.[2]

Roedd ei thad yn gobeithio rhoi addysg i'w ferched ac anfonodd y ddwy ohonynt i Ysgol Merched Cymru yn Ashford, Surrey. Er gwybodaeth: St David's School oedd enw'r ysgol o 1967 hyd at ei chau yn 2009. Cyn hynny, roedd hi'n cael ei nabod fel y Welsh Girls' School, ac yn wreiddiol fel y Welsh Charity School.

Yn ddiweddarach, aethant i Ysgol Merched Sir Bangor (Ysgol Friars, Bangor). Aeth Hughes ymlaen i fynychu Prifysgol Llundain lle enillodd radd Baglor yn y Gwyddorau (Economeg) ail ddosbarth ym 1918.[3][4] Enillodd anrhydeddau dosbarth cyntaf hefyd gan Gymdeithas y Gyfraith ac roedd yn gyntaf yn ei dosbarth i fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd yn ei dosbarth ym 1923. Wrth wneud hynny, hi oedd y Gymraes gyntaf i gymhwyso fel cyfreithwraig.[5] Dyfarnwyd Gwobr Sheffield a Gwobr John Mackrell iddi gan Gyngor Cymdeithas y Gyfraith,[6] a derbyniodd £35 a £13 fel gwobrau.[7]

Ar ôl graddio, dychwelodd Hughes i Gonwy a chymerodd swydd yng nghwmni cyfreithwyr ei thad fel clerc cymwys. Cododd i fod yn uwch bartner yn y cwmni cyn olynu ei thad fel pennaeth pan fu farw ym 1949.[8] Ymddeolodd ym 1961.[9] Daeth Hughes yn gynghorydd lleol ar ôl sefyll fel ymgeisydd annibynnol ac,[10] ym 1954, daeth yn Faer benywaidd cyntaf Conwy a gwasanaethodd tan y flwyddyn ganlynol.[11][8] Fel maer, "torrodd â thraddodiad" trwy symud y gwasanaeth dinesig blynyddol o'i leoliad traddodiadol yn yr eglwys i'r Capel Methodistaidd yr oedd yn ei fynychu.[12]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd Hughes yn golffiwr brwd ac yn chwarae i Glwb Golff Conwy. Daeth yn gapten y clwb ym 1948. Bu farw Hughes ar 20 Hydref 1981.[13]

Ym Mai 2018, cafodd Hughes ei henwi ar restr fer o 100 o fenywod ar gyfer cerflun newydd yng Nghaerdydd.[14] Cafodd Hughes ei hepgor o'r rhestr fer derfynol o bump cyn i Betty Campbell gael ei dewis yn derfynol.[15]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  2. Cruickshank, Elizabeth (30 Tachwedd 2016). "Agnes Twiston Hughes". first100years.org.uk. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  3. Cruickshank, Elizabeth (30 Tachwedd 2016). "Agnes Twiston Hughes". first100years.org.uk. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  4. "Bachelor of Science (Economics): Honours and Higher Degrees: Internal Students". University of London. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  5. Rackley, Erika; Auchmuty, Rosemary (2018). Women's Legal Landmarks: Celebrating the history of women and law in the UK and Ireland. Bloomsbury Publishing. t. 14. ISBN 9781782259794.
  6. "Leader of the Pack". Daily Post. 13 Gorffennaf 2004. t. 20. Cyrchwyd 5 Awst 2019 – drwy Gale.
  7. "The Law Society". The Times. 31 Mawrth 1923. t. 10. Cyrchwyd 5 Awst 2019 – drwy The Times Digital Archive.
  8. 8.0 8.1 "First female solicitor's office, Conwy". History Points. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  9. "Agnes Hughes". JW Hughes & Co. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-05. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  10. "Henhigh". Liverpool Evening Express. 2 Tachwedd 1945. Cyrchwyd 5 Awst 2019 – drwy British Newspaper Archive.
  11. Cruickshank, Elizabeth (30 Tachwedd 2016). "Agnes Twiston Hughes". first100years.org.uk. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  12. "Leader of the Pack". Daily Post. 13 Gorffennaf 2004. t. 20. Cyrchwyd 5 Awst 2019 – drwy Gale.
  13. Cruickshank, Elizabeth (30 Tachwedd 2016). "Agnes Twiston Hughes". first100years.org.uk. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  14. Mosalski, Ruth (8 Mai 2018). "The legendary women who could be made into Cardiff's first female statue". Wales Online. Media Wales. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
  15. Dewey, Philip (18 Ionawr 2019). "This is who will be honoured with Wales' first statue of a woman". Wales Online. Media Wales. Cyrchwyd 5 Awst 2019.