After Eden

Oddi ar Wicipedia
After Eden
Enghraifft o'r canlynolchoreographic work Edit this on Wikidata
Genrebale Edit this on Wikidata


Mae After Eden (Wedi Eden) yn bale fer i ddau ddawnsiwr â chyfansoddwyd gan John Butler a Lee Holby ar gyfer Harkness Ballet, Efrog Newydd ym 1966[1].

Cefndir[golygu | golygu cod]

Dim ond dau gymeriad sydd yn y bale, un dyn (Adda) ac un fenyw (Efa). Mae'r ddau yn cael eu crybwyll yn stori'r creu yn llyfr Genesis o'r Beibl. Roedd Duw wedi creu Adda o lwch y ddaear a'i osod yng Ngardd Eden. Dywedir wrth Adda y gall mwynhau ffrwythau holl goed yr ardd, ac eithrio ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Mae Duw wedyn yn creu Efa allan o un o asennau Adda i fod yn gymar iddo. Mae sarff yn twyllo Efa i fwyta ffrwythau o'r goeden waharddedig, ac mae'n rhoi rhywfaint o'r ffrwythau i Adda. Mae'r gweithredoedd hyn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol iddynt, ond mae'n rhoi iddynt y gallu i gywain cysyniadau negyddol a dinistriol fel cywilydd a drwg hefyd. I gosbi'r ddau am anwybyddu ei orchymyn i beidio bwyta ffrwyth y pren da a drwg mae Duw yn eu troi nhw allan o baradwys Gardd Eden.[2].

Y stori[golygu | golygu cod]

Mae'r bale wedi ei gosod ychydig ar ôl i Adda ac Efa cael eu troi allan o Eden. Mae'r ddawns yn adlewyrchu rhywfaint o'r ing, edifeirwch, herfeiddiad a'r ildio i'w sefyllfa gan y ddau gariad wrth iddynt baratoi i wynebu ffawd nad oeddynt yn disgwyl[3].

Ar ddechrau'r ddawns mae'r ddau wedi huno yn eu trueni ac yn hollol ddibynnol ar ei gilydd. Ond wedi ychydig maent yn sylweddoli bod eu rhyddid dychrynllyd newydd yn codi'r posibilrwydd iddynt gael ymwahanu. Ond nid ydynt yn ystyried y posibilrwydd am yn hir. Maent wedi mynd trwy ormod gyda'i gilydd i dorri fyny. Er gwaethaf y straen mae cael eu troi allan o'r ardd wedi rhoi ar eu perthynas maent fel magnetau yn denu ac yn gwrthyrru wrth iddynt droi i wahanol gyfeiriadau. Yn y diwedd mae'r ddau yn cael eu huno'n llwyr o'r newydd ac yn penderfynu wynebu eu dyfodol ansicr gyda'i gilydd.

Perfformio[golygu | golygu cod]

Mae After Eden yn bale fer, mae'n cymryd tua 18 munud i berfformio ei gyfres o bum pas de deux (deuawd lle mae dyn a dynes yn gyd ddawnsio)[4]. Comisiynwyd Lee Holby i gyfansoddi'r gerddoriaeth gan Gwmni Bale Harkness a chafodd ei berfformio gyntaf ym 1966 gyda choreograffiaeth wreiddiol gan John Butler. Ers ei pherfformiad cyntaf mae After Eden wedi cael ei pherfformio gan Gwmni Theatr Dawns Alvin Ailey, Bale Awstralia, Bale La Scala, Netherlands Dans Theater, Bale Brenhinol Fflandrys, Les Grands Ballets Canadiens, a llawer o gwmnïau eraill.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cwmni Theatr Dawns Alvin Ailey – After Eden adalwyd 07/04/2018
  2. Beibl Net Genesis 2 adalwyd 07/04/2018
  3. Blanchine George a Mason Francis 101 Stories of the Great Ballets; Dolphin Books Efrog Newydd, 1975 ISBN 0385033982
  4. BalletHub Q and A - What is a Pas de Deux? Archifwyd 2020-04-08 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 07/04/2018
  5. After Eden - Schott Music adalwyd 07/04/2018