Afonso V, brenin Portiwgal
| Afonso V, brenin Portiwgal | |
|---|---|
| Ffugenw | O Africano |
| Ganwyd | 15 Ionawr 1432 Sintra |
| Bu farw | 28 Awst 1481 o y pla Sintra |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Portiwgal |
| Galwedigaeth | brenin |
| Swydd | teyrn Portiwgal, Uchel Feistr Urdd y Tŵr a'r Cleddyf, pretender to the throne of Castile |
| Tad | Edward I o Bortiwgal |
| Mam | Eleanor o Aragon |
| Priod | Isabella of Coimbra, Joanna la Beltraneja |
| Plant | John, Prince of Portugal, Joan, Princess of Portugal, João II, brenin Portiwgal, Álvaro Soares da Cunha |
| Llinach | Tŷ Aviz |
| llofnod | |
Brenin Portiwgal o 13 Medi 1438 hyd 11 Tachwedd 1477 ac o 15 Tachwedd 1477 hyd ei farwolaeth oedd Afonso V (15 Ionawr 1432 – 28 Awst 1481).[1]
Esgynnodd Afonso i orsedd Portiwgal pan oedd ond yn chwech oed. Yn gynnar yn ei deyrnasiad bu brwydr dros y rhaglywiaeth rhwng ei fam, Leonor de Aragón, a'i ewythr, Pedro, Dug Coimbra. Penodwyd Pedro yn unig raglaw ym 1439, ond parhaodd carfan Braganza yn y llys i herio ei awdurdod. Dan ddylanwad ei ewythr arall, Afonso I, Dug Braganza, diswyddodd y Brenin ei ewythr Pedro ym 1448 a'i drechu ym Mrwydr Alfarrobeira ym 1449.
Rhwng 1458 a 1471 roedd Afonso yn ymwneud ag ymgyrchoedd milwrol yn Affrica, yn bennaf ym Moroco. Enillodd hyn iddo'r llysenw O Africano ("yr Affricanwr").[2]
Yn dilyn marwolaeth y brenin Enrique IV o Deyrnas Castilla yn 1474, hawliodd Afonso orsedd Castilla ar ran ei nith, Joanna la Beltraneja. Ym Mai 1475, arweiniodd fyddin i Palencia, priododd â Joanna, a chyhoeddodd ei hun yn frenin. Cychwynnodd hyn Ryfel Olyniaeth Castilla. Ar ôl Brwydr Toro (1476) ac ymdrechion aflwyddiannus i sicrhau cefnogaeth gan Ffrainc, ildiodd Afonso orsedd Portiwgal er mwyn cychwyn ar bererindod i Jerwsalem. Cafodd ei berswadio i ddychwelyd i Bortiwgal ac ail-gymryd y goron yn Nhachwedd 1477, ychydig ddyddiau ar ôl i'w etifedd, João II, gael ei gyhoeddi'n frenin.
Yn ystod blynyddoedd diweddarach teyrnasiad Afonso, gweinyddwyd y deyrnas i raddau helaeth gan João cyn iddo ddod yn frenin yn ei rinwedd ei hun ym 1481.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ A. R. Disney, A History of Portugal and the Portuguese Empire, cyf. 1 (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2009)
- ↑ Russell, Peter (2000). Prince Henry 'the Navigator': a Life (yn Saesneg).|pages=218-221}}
Afonso V, brenin Portiwgal Ganwyd: 15 Ionawr 1432 Bu farw: 28 Awst 1481
| ||
| Rhagflaenydd: Duarte |
Brenin Portiwgal 13 Medi 1438 – 11 Tachwedd 1477 |
Olynydd: João II |
| Rhagflaenydd: João II |
Brenin Portiwgal 15 Tachwedd 1477 – 28 Awst 1481 |
Olynydd: João II |