Afon Treweunydd

Oddi ar Wicipedia
Afon Treweunydd
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAfon Gwyrfai Edit this on Wikidata
LleoliadEryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.067501°N 4.119612°W Edit this on Wikidata
TarddiadEsgeiriau Gwynion Edit this on Wikidata
Map

Afon fynyddig yn Eryri, Gwynedd, yw Afon Treweunydd. Mae'n tarddu yng Nghwm Clogwyn ychydig i'r gorllewin o'r Wyddfa ac yn llifo i Afon Gwyrfai. Hyd: tua 3 milltir.[1]

Mae sawl ffrwd yn llifo i'r afon yng Nghwm Clogwyn. Tardda'r ffrydiau uchaf ym mhen uchaf y cwm dan gysgod copa'r Wyddfa. Llifa ffrydiau i mewn i Lyn Coch ac yna ymlaen i lawr y cwm i gyfeiriad y gogledd ac wedyn i'r gorllewin. Mae ffrwd arall yn llifo i Lyn Nadroedd ac yna dros y creigiau i'r gogledd i ymuno â phrif ffrwd yr afon yn is i lawr. Mae'r ffrwd sy'n llifo o Lyn Ffynnon y Gwas yn llifo i mewn i lyn llai islaw iddo, oedd hefyd yn gronfa ddŵr, ac yna'n llifo i Afon Treweunydd.[1]

Mae Afon Treweunydd yn ymuno ag Afon Gwyrfai ychydig cyn iddi lifo i mewn i Lyn Cwellyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Map OS 1:50,000 Landranger 115 Caernarfon a Bangor.