Afon Tal

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Tal
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.980538°N 4.405913°W Edit this on Wikidata
Hyd 3.5 milltir Edit this on Wikidata

Afon yn ardal Eifionydd, Gwynedd, yw Afon Tal. Mae'n llifo yng nghymuned Llanaelhaearn i gyrraedd y môr ar draeth Trefor. Ei hyd yw tua 3.5 milltir.

Cwrs[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tarddle Afon Tal yn gorwedd ger y blwch rhwng Moel Penllechog a'r Gyrn Ddu (hefyd Gurn Ddu), tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanaelhaearn.[1]

Afon Tal ger ei haber
Afon Tal ger Stryd yr Eifl, Trefor

Mae'n llifo i gyfeiriad y gorllewin i gyrion Llanaelhaearn lle mae'n troi i gyfeiriad y gogledd. Ger fferm yr Hendre Fawr mae'n mynd dan bont ar y briffordd A499 ac wedyn yn troi i gyfeiriad y gogledd-orllewin i lifo i lawr y cwm i bentref Trefor.[1] Ar ei ffordd drwy Drefor ceir rhes o dai chwarelwyr ar ei glan, sef Stryd yr Eifl, a ddaeth yn gyfarwydd i wylwyr S4C fel lleoliad dychmygol y gyfres ddrama sebon Minafon.

Ar ôl mynd trwy'r pentref ei hun mae'r afon yn cyrraedd y traeth carregog ger pier Trefor ac yn llifo i Fae Caernarfon wrth droed llethrau'r Eifl.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Map OS Landranger 1:50,000 Taflen 123.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: