Afon Taf Bargoed
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Un o isafonydd Afon Taf yw Afon Taf Bargoed, hefyd Afon Taf Bargod.
Mae'n tarddu ar yr ucheldir i'r de-ddwyrain o dref Merthyr Tudful, lle mae nifer o nentydd yn cyfarfod. Llifa tua'r de ar hyd Cwm Bargod, heibio Beddllwynog, Parc Taf Bargoed, Taf Merthyr a Trelewis. Mae'n ymuno ag Afon Taf rhwng Treharris a Mynwent y Crynwyr.