Afon Fly

Oddi ar Wicipedia
Cwrs Afon Fly

Afon ar ynys Gini Newydd yw afon Fly. Mae'r rhan fwyaf ohoni o fewn Papua Gini Newydd, heblaw am ran fechan lle mae'r afon yn ffurfio'r ffîn rhwng Papua Gini Newydd a thalaith Papua o Indonesia. Hi yw afon ail-hwyaf yr ynys ar ôl afon Sepik, tua 1,050 km o hyd.

Mae'n tarddu ym Mynyddoedd Star, yn ucheldiroedd Papua Gini Newydd, ac yn llifo tua'r de-ddwyrain i gyrraedd Gwlff Papua, lle mae'n ffurfio delta.