Carnedd Afon Dulyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Afon Dulyn (carnedd))
Carnedd Afon Dulyn
Mathsafle archaeolegol, carnedd gron Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.189015°N 3.896975°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH733674 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN357 Edit this on Wikidata

Carnedd gylchog o'r Oes Efydd ydy carnedd Afon Dulyn, ar lan Afon Dulyn yng nghymuned Caerhun, Sir Conwy; cyfeiriad grid SH733674.

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.

Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".

Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: CN357.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.