Afon Chwiler
Gwedd
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.21363°N 3.37896°W ![]() |
![]() | |
Llednant Afon Clwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Afon Chwiler (Saesneg: River Wheeler).[1] Mae'r tarddu ar ochr ddwyreiniol Bryniau Clwyd, mae'n "afon afrwydd" wedi'i lleoli mewn dyffryn dwfn sy'n llifo tua'r gorllewin trwy'r bryniau i Ddyffryn Clwyd. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd i'r gorllewin o bentref Aberchwiler. Mae ffordd yr A541 sy'n rhedeg o'r Wyddgrug i Drefnant yn dilyn yr afon ar ei hyd cyfan. Yn ogystal ag Aberchwiler, mae'r afon yn llifo trwy neu wrth ymyl pentrefi Nannerch, Afon-wen a Bodfari.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ J. R. Davies; D. Wilson; I.T. Williamson (2004). Geology of the country around Flint : memoir for 1:50000 Geological Sheet 108 (England and Wales) (yn Saesneg). British Geological Survey. t. 1. ISBN 9780852724873.