Afon Biryusa
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Oblast Irkutsk |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 101 metr |
| Cyfesurynnau | 54.668801°N 98.16701°E, 57.721517°N 95.421031°E |
| Tarddiad | Mynyddoedd Sayan, Malaya Biryusa, Bol'shaya Biryusa |
| Aber | Afon Taseyeva |
| Llednentydd | Afon Tagul, Poyma, Tumanshet, Toporok |
| Dalgylch | 55,800 cilometr sgwâr |
| Hyd | 830 cilometr |
| Arllwysiad | 349.7 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Afon yn Oblast Irkutsk, Rwsia, yw Afon Biryusa (Rwseg: Бирюса). Yn ei rhan isaf fe'i gelwir yn Ona hefyd. Ei hyd yw 1,012 km, gyda basn 55,800 km².
Cwrs
[golygu | golygu cod]Mae tarddleoedd yr afon yn gorwedd yn ne-orllewin Oblast Irkutsk yn Siberia, 2,500 meter i fyny ar lethrau gogleddol Mynyddoedd Sayan. Oddi yno mae'r afon yn llifo ar gwrs gogleddol i Lwyfandir Canol Siberia. Mae'r Rheilffordd Traws-Siberia yn ei chroesi yn Biryusinsk, ger Tayshet lle mae Rheilffordd Baikal Amur yn cychwyn. Wedyn mae Afon Biryusa yn troi i'r gogledd-orllewin i ymuno yn y pen draw ag Afon Chuna i ffurfio Afon Taseyeva, sy'n un o lednentydd Afon Angara.
Llên gwerin
[golygu | golygu cod]Yn llên gwerin Rwsia ceir sawl cerdd am yr afon hon, er enghraifft "Biryusinka".[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Biryusinka" (Rwseg)
