Aflonyddwr sy'n tarfu ar yr endocrin
Mae aflonyddwyr sy'n tarfu ar endocrin yn gemegau a all ymyrryd â'r systemau endocrin (neu hormonaidd).[1] Gall yr amharu yma achosi tiwmorau canseraidd, namau geni, ac anhwylderau eraill.[2] Mae'r aflonyddwyr hyn i'w canfod mewn llawer o gynhyrchion cartref ac o fewn diwydiant. Ceir enwau eraill ar yr aflonyddwyr hyn gan gynnwys: asiantau hormonaidd gweithredol,[3] cemegau sy'n tarfu ar endocrin,[4] neu gyfansoddion sy'n tarfu ar endocrin,[5] neu o wybod y cyd-destun: aflonyddwyr endocrin.
Gallant "ymyrryd â synthesis hormonau, chwarenlifau'r hormonau, cludo, rhwymo, gweithredu, neu ddileu hormonau naturiol y corff. Yr hormonau sy'n gyfrifol am ddatblygiad, ymddygiad, ffrwythlondeb a chynnal homeostasis (metaboledd celloedd arferol)."[6]
Gall unrhyw system yn y corff a reolir gan hormonau gael ei chwalu gan aflonyddwyr yr hormonau (hy yr aflonyddwyr sy'n tarfu ar endocrin). Yn benodol, gall aflonyddwyr sy'n tarfu ar yr endocrin fod yn gysylltiedig â datblygiad anableddau dysgu, anhwylder diffyg canolbwyntio difrifol, problemau gwybyddol a datblygiad yr ymennydd.[7][8][9][10]
Bu cryn ddadlau ynghylch yr aflonyddwyr endocrin hyn, gyda rhai grwpiau’n galw am weithredu cyflym gan reoleiddwyr i’w tynnu o’r farchnad, a rheoleiddwyr a gwyddonwyr eraill yn galw am astudiaeth bellach.[11] Mae rhai aflonyddwyr endocrin wedi'u hadnabod a'u tynnu o'r farchnad (er enghraifft, cyffur o'r enw diethylstilbestrol), ond mae'n ansicr a yw rhai aflonyddwyr endocrin ar y farchnad mewn gwirionedd yn niweidio bodau dynol a bywyd gwyllt ar y dosau cywir. Tynnwyd papur gwyddonol allweddol, a gyhoeddwyd ym 1996 yn y cyfnodolyn Science, a helpodd i lansio symudiad y rhai oedd yn gwrthwynebu'r syniad o aflonyddwyr endocrin, yn ôl o'r wasg, a chanfuwyd bod ei awdur wedi cyflawni camymddwyn gwyddonol.[12]
Mae astudiaethau ar gelloedd ac anifeiliaid labordy wedi dangos y gall aflonyddwyr endocrin achosi effeithiau biolegol andwyol mewn anifeiliaid, a gall lefel isel hefyd achosi effeithiau tebyg mewn bodau dynol.[13] Gall aflonyddwyr endocrin (a dalfyrir drwy sawl gwlad fel EDC) yn yr amgylchedd hefyd fod yn gysylltiedig â phroblemau atgenhedlu ac anffrwythlondeb mewn bywyd gwyllt a gwaharddiadau a chyfyngiadau ar eu defnydd wedi bod yn gysylltiedig â gostyngiad mewn problemau iechyd ac adferiad rhai poblogaethau bywyd gwyllt.
Hanes
[golygu | golygu cod]Bathwyd y term aflonyddwr endocrin ym 1991 yng Nghanolfan Gynadledda Wingspread yn Wisconsin. Un o'r papurau cynnar ar y ffenomen oedd gan Theo Colborn yn 1993.[14] Yn y papur hwn, dywedodd fod cemegau amgylcheddol yn amharu ar ddatblygiad y system endocrin, a bod effeithiau amlygiad yn ystod datblygiad plentyn yn aml yn barhaol. Er bod rhai wedi dadlau ynghylch yr aflonyddwyr endocrin,[15] mae sesiynau gwaith o 1992 i 1999 wedi creu consensws gwyddonol ynghylch y perygl.[16][17][18][19][20]
Mae cyfansoddion sy'n tarfu ar yr endocrin yn cwmpasu amrywo ddosbarthiadau cemegol, gan gynnwys cyffuriau, plaladdwyr, cyfansoddion a ddefnyddir yn y diwydiant plastigau ac mewn cynhyrchion defnyddwyr (consumer products), sgil-gynhyrchion diwydiannol a llygryddion, a hyd yn oed rhai cemegau botanegol a gynhyrchir yn naturiol. Mae rhai yn dreiddiol ac wedi'u gwasgaru'n eang yn yr amgylchedd a gallant fiogronni. Mae rhai yn llygryddion organig parhaus (POPs), a allant deithio'n bell ar draws ffiniau cenedlaethol ac maent wedi'u canfod ym mhob rhan o'r byd, ac efallai eu bod yncronni ger Pegwn y Gogledd, oherwydd patrymau tywydd ac amodau oer.[21] Mae eraill yn cael eu diraddio'n gyflym yn yr amgylchedd neu'r corff dynol neu gallant fod yn bresennol am gyfnodau byr yn unig.[22] Mae effeithiau iechyd a briodolir i gyfansoddion sy'n tarfu ar endocrin yn cynnwys ystod o broblemau atgenhedlu (llai o ffrwythlondeb, annormaleddau llwybr atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd, a chymarebau rhyw gwryw/benywaidd sgiw, colli ffetws, problemau mislif[23]); newidiadau mewn lefelau hormonau; glasoed cynnar; problemau ymennyddol ac ymddygiad; nam ar swyddogaethau; a chanserau amrywiol. [24]
Un enghraifft o ganlyniadau i anifeiliaid ifanc, gan gynnwys plant ifanc ddod i gyffyrddiad a chyfryngau hormonaidd gweithredol yw'r cyffur diethylstilbestrol (DES), estrogen ansteroidal nad yw'n llygrydd amgylcheddol. Cyn ei wahardd yn gynnar yn y 1970au, presgriptiodd meddygon y cyffur DES i gynifer â phum miliwn o fenywod beichiog i rwystro erthyliad digymell. Darganfuwyd ar ôl i'r plant fynd drwy eu glasoed bod DES wedi effeithio ar ddatblygiad y system atgenhedlu ac wedi achosi canser y wain. Mae perthnasedd saga CCA i'r risg o dod i gysylltiad ag aflonyddwyr endocrin yn amheus, gan fod y dosau dan sylw yn llawer uwch yn yr unigolion hyn nag yn y rhai oherwydd cyswllt amgylcheddol.[25]
Mae bywyd dyfrol sy'n destun aflonyddwch endocrin mewn elifiant trefol wedi rhoi lefelau is o serotonin a mwy o fenyweiddio.[26]
Yn 2013 rhyddhaodd Sefydliad Iechyd y Byd a Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig astudiaeth, sef yr adroddiad mwyaf cynhwysfawr ar EDCs hyd yma, yn galw am fwy o ymchwil i ddeall yn llawn y cysylltiadau rhwng EDCs a'r risg i iechyd bywyd dynol ac anifeiliaid. Tynnodd y tîm sylw at fylchau eang mewn gwybodaeth a galwyd am fwy o ymchwil i gael darlun llawnach o effeithiau iechyd ac amgylcheddol yr amharwyr endocrin. Er mwyn gwella gwybodaeth fyd-eang mae'r tîm wedi argymell:
- Profi: Dim ond 'blaen y mynydd iâ' yw'r EDCau hysbys ac mae angen dulliau profi mwy cynhwysfawr i nodi amharwyr endocrin eraill posibl, eu ffynonellau.
- Ymchwil: mae angen mwy o dystiolaeth wyddonol i nodi effeithiau cymysgeddau o EDCs ar bobl a bywyd gwyllt (yn bennaf o sgil-gynhyrchion diwydiannol) y mae bodau dynol a bywyd gwyllt yn dod yn fwyfwy agored iddynt.
- Adroddiadau: nid yw llawer o ffynonellau EDCs yn hysbys oherwydd adroddiadau a gwybodaeth annigonol am gemegau mewn cynhyrchion, deunyddiau a nwyddau.
- Cydweithio: gall mwy o rannu data rhwng gwyddonwyr a rhwng gwledydd lenwi bylchau mewn data, yn bennaf mewn gwledydd sy’n datblygu ac economïau sy’n datblygu.[27]
System endocrin
[golygu | golygu cod]- Prif: System endocrinaidd
Mae systemau endocrin i'w cael yn y rhan fwyaf o fathau o anifeiliaid ac mae'n cynnwys chwarennau sy'n secretu hormonau, a derbynyddion sy'n canfod yr hormonau ac yn ymateb iddynt.[28]
Mathau
[golygu | golygu cod]Mae pawb yn agored i gemegau ag effeithiau estrogenig yn eu bywyd bob dydd, oherwydd mae cemegau sy'n tarfu ar yr endocrin i'w cael mewn dosau isel mewn miloedd o gynhyrchion. Mae'r cemegau a ganfyddir yn gyffredin mewn pobl yn cynnwys DDT, deuffenylau polyclorinedig (PCBs), bisffenol A (BPA), etherau deuffenyl polybrominedig (PBDEs), ac amrywiaeth o ffthalatau. Mewn gwirionedd, canfuwyd bod bron pob cynnyrch plastig, gan gynnwys y rhai a hysbysebwyd fel rhai "di-BPA", yn trwytholchi cemegau sy'n tarfu ar yr endocrin.[29] Mewn astudiaeth yn 2011, canfuwyd bod rhai cynhyrchion "di-BPA" yn rhyddhau mwy o gemegau gweithredol endocrin na'r cynhyrchion sy'n cynnwys BPA.[30][31] Mathau eraill o aflonyddwyr endocrin yw ffyto-estrogenau (hormonau planhigion).[32]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- ↑ "Endocrine disruptors: from endocrine to metabolic disruption". Annual Review of Physiology 73 (1): 135–162. 2011-03-17. doi:10.1146/annurev-physiol-012110-142200. PMID 21054169.
- ↑ Staff (2013-06-05). "Endocrine Disruptors". NIEHS.
- ↑ Krimsky S (December 2001). "An epistemological inquiry into the endocrine disruptor thesis". Ann. N. Y. Acad. Sci. 948 (1): 130–42. Bibcode 2001NYASA.948..130K. doi:10.1111/j.1749-6632.2001.tb03994.x. PMID 11795392.
- ↑ "Endocrine-disrupting chemicals: an Endocrine Society scientific statement". Endocr. Rev. 30 (4): 293–342. June 2009. doi:10.1210/er.2009-0002. PMC 2726844. PMID 19502515. http://www.endo-society.org/journals/scientificstatements/upload/edc_scientific_statement.pdf. Adalwyd 2009-09-26.
- ↑ "Endocrine Disrupting Compounds". National Institutes of Health · U.S. Department of Health and Human Services. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-24.
- ↑ "Environmental endocrine disruption: An effects assessment and analysis". Environ. Health Perspect.. 106 106 (Suppl 1): 11–56. 1998. doi:10.2307/3433911. JSTOR 3433911. PMC 1533291. PMID 9539004. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1533291.
- ↑ "In utero and childhood polybrominated diphenyl ether (PBDE) exposures and neurodevelopment in the CHAMACOS study". Environmental Health Perspectives 121 (2): 257–62. February 2013. arXiv:6. doi:10.1289/ehp.1205597. PMC 3569691. PMID 23154064. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3569691.
- ↑ "Exposure to phthalates: reproductive outcome and children health. A review of epidemiological studies". International Journal of Occupational Medicine and Environmental Health 24 (2): 115–41. June 2011. doi:10.2478/s13382-011-0022-2. PMID 21594692.
- ↑ "Prenatal exposure to bisphenols and cognitive function in children at 7 years of age in the Swedish SELMA study". Environment International 150: 106433. May 2021. arXiv:6. doi:10.1016/j.envint.2021.106433. PMID 33637302.
- ↑ "Long term transcriptional and behavioral effects in mice developmentally exposed to a mixture of endocrine disruptors associated with delayed human neurodevelopment". Scientific Reports 10 (1): 9367. June 2020. arXiv:6. Bibcode 2020NatSR..10.9367R. doi:10.1038/s41598-020-66379-x. PMC 7283331. PMID 32518293. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7283331.
- ↑ "The ENDpoiNTs Project: Novel Testing Strategies for Endocrine Disruptors Linked to Developmental Neurotoxicity". International Journal of Molecular Sciences 21 (11): 3978. June 2020. arXiv:6. doi:10.3390/ijms21113978. PMC 7312023. PMID 32492937. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7312023.
- ↑ "Findings of scientific misconduct". NIH Guide for Grants and Contracts: NOT-OD-02–003. October 2001. PMC 4259627. PMID 12449946. http://grants.nih.gov/grants/guide/notice-files/NOT-OD-02-003.html.
- ↑ "Executive Summary" (PDF). Global assessment of the state-of-the-science of endocrine disruptors. International Programme on Chemical Safety, World Health Organization. 2002. Cyrchwyd 2007-02-28.
An endocrine disruptor is an exogenous substance or mixture that alters function(s) of the endocrine system and consequently causes adverse health effects in an intact organism, or its progeny, or (sub)populations.
- ↑ "Developmental effects of endocrine-disrupting chemicals in wildlife and humans". Environ. Health Perspect. 101 (5): 378–84. October 1993. doi:10.2307/3431890. JSTOR 3431890. PMC 1519860. PMID 8080506. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1519860.
- ↑ Grady D (2010-09-06). "In Feast of Data on BPA Plastic, No Final Answer". The New York Times.
A fierce debate has resulted, with some dismissing the whole idea of endocrine disruptors.
- ↑ "Statement from the Work Session on Chemically-Induced Alterations in Sexual Development: The Wildlife/Human Connection". Chemically-induced alterations in sexual and functional development-- the wildlife/human connection. Princeton, N.J: Princeton Scientific Pub. Co. 1992. tt. 1–8. ISBN 978-0-911131-35-2. Cyrchwyd 2010-09-26.CS1 maint: display-authors (link)
- ↑ "Statement from the Work Session on Environmentally induced Alterations in Development: A Focus on Wildlife". Environmental Health Perspectives 103 (Suppl 4): 3–5. May 1995. arXiv:6. doi:10.2307/3432404. JSTOR 3432404. PMC 1519268. PMID 17539108. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1519268.
- ↑ "Statement from the work session on chemically induced alterations in functional development and reproduction of fishes". Chemically Induced Alterations in Functional Development and Reproduction of Fishes. Society of Environmental Toxicology & Chemist. 1997. tt. 3–8. ISBN 978-1-880611-19-7.CS1 maint: display-authors (link)
- ↑ "Statement from the work session on environmental endocrine-disrupting chemicals: neural, endocrine, and behavioral effects". Toxicology and Industrial Health 14 (1–2): 1–8. 1998. arXiv:6. doi:10.1177/074823379801400103. PMID 9460166.
- ↑ "Statement from the Work Session on Health Effects of Contemporary-Use Pesticides: the Wildlife / Human Connection". Toxicol Ind Health 15 (1–2): 1–5. 1999. arXiv:6. doi:10.1191/074823399678846547.
- ↑ Visser MJ. "Cold, Clear, and Deadly". Cyrchwyd 2012-04-14.
- ↑ "REPIDISCA-Global assessment of the state-of-the-science of endocrine disruptors". International programme on chemical safety, World Health Organization. 2002. Cyrchwyd 2009-03-14.
- ↑ "Environmental oestrogens: consequences to human health and wildlife" (PDF). IEH assessment. Medical Research Council, Institute for Environment and Health. 1995. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2009-03-14.
- ↑ "EDC Human Effects". e.hormone. Center for Bioenvironmental Research at Tulane and Xavier Universities. Cyrchwyd 2009-03-14.
- ↑ "Environmental endocrine modulators and human health: an assessment of the biological evidence". Crit. Rev. Toxicol. 28 (2): 109–227. March 1998. doi:10.1080/10408449891344191. PMID 9557209.
- ↑ Willis IC (2007). Progress in Environmental Research. New York: Nova Publishers. t. 176. ISBN 978-1-60021-618-3.
- ↑ "State of the science of endocrine disrupting chemicals - 2012". World Health Organization. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 February 2013. Cyrchwyd 2015-04-06.
- ↑ "Anatomy of the Endocrine System". John Hopkins Medicine (yn Saesneg). 2019-11-19. Cyrchwyd 2023-04-11.
- ↑ "Most plastic products release estrogenic chemicals: a potential health problem that can be solved". Environmental Health Perspectives 119 (7): 989–96. July 2011. doi:10.1289/ehp.1003220. PMC 3222987. PMID 21367689. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3222987.
- ↑ "Study: Most plastic products trigger estrogen effect". USA Today. 2011-03-07.
- ↑ "Study: Even "BPA-Free" Plastics Leach Endrocrine-Disrupting Chemicals". Time. 2011-03-08.
- ↑ "Endocrine Disruptors" (PDF). National Institute of Environmental Health Sciences. May 2010. Cyrchwyd 1 January 014.