Affrica (duwies)

Oddi ar Wicipedia
Affrica
Enghraifft o'r canlynolduwdod Rhufeinig, personoliad, epithet Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darn pres o gyfnod Hadrian gyda delwedd o'r dduwies Affrica

Affrica (Lladin: Africa) oedd symbol yr Affrica Rufeinig a duwies a addolid yn yr ardal honno.

Mae'r awdur Pliny'r Hynaf, yn ei lyfr Hanes Naturiol yn dweud na fyddai neb yn Affrica (h.y. gogledd Affrica) yn mentro ar unrhyw beth o gwbl heb alw am nawdd Affrica yn gyntaf.

Fel rheol fe'i porteadir gyda chroen eliffant am ei phen ac yn dal corn ffrwythlondeb yn eu dwylo o flaen modius o wenith. Mae'r gwrthyrchau totemaidd a gysylltir â hi yn cynnwys sgorpionau, bŵau a chawell saethau.

Ceir ei phortread ar rai darnau pres, ar feini cerfiedig ainsi ac ar rai o luniau mosaic yr Affrica Rufeinig (er enghraifft yn amgueddfa El Jem).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Paul Corbier, Marc Griesheimer, L’Afrique romaine 146 av. J.-C.- 439 ap. J.-C. (Ellipses, Paris, 2005)