Afagddu (panto)
| Enghraifft o: | pantomeim Cymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1975 |
| Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
| Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
| Cyfarwyddwr/wyr | Grey Evans |
| Dynodwyr | |
Pantomeim Cymraeg i blant gan Gwmni Theatr Cymru ym 1975 oedd Afagddu. Roedd y cwmni eisoes wedi llwyfannu Mawredd Mawr (1971), Gweld Sêr (1972), Dan y Don (1973) a Pwyll Gwyllt (1974) cyn hynny, ac felly roedd cynulleidfaoedd o blant Cymru yn barod am eu panto blynyddol, dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Trefnwyd 64 perfformiad o bumed pantomeim y cwmni.[1] Cafodd y cynhyrchiad adolygiad negyddol iawn yn Y Cymro gan ei alw'n "y cynhyrchiad mwyaf erchyll a welais ei lwyfannu erioed yn enw Cwmni Theatr Cymru".[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]
- Afagddu
- Morda
- Llew Capie
- Maelgwn Gwynedd
- Eurfyw
- Elffin Dywysog
- Ceridwen
- Taliesin
- Pentrefwyr
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]"Stori dywyll iawn" yw'r modd y disgrifid y panto, yn rhaglen y cynhyrchiad.[2] Mae'r cymeriadau yn seiliedig ar gymeriadau o'r Chwedlau Cymraeg.
Ceir awgrym o hurtrwydd y cynhyrchiad yn y "nodiadau blaendir" yn y Rhaglen: "Croniclwyd hanes Afagddu gan y Myfyriwr Erch a'i Ology (ynganer o-lo-ji). Gŵyr pawb call mai'r gair gwreiddiol am "gi" oedd "ji" (ynganer ji), ac mae ci unglust ydoedd, a honno ar flaen ei gynffon. Yr un ji roddodd gychwyn i'r Ceffyl Bach, a garlamodd bob cam i'r Merica".[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]
I gyd fynd â'r cynhyrchiad, lluniwyd "Grwp Blêr" neu "Y Gerddorfa" oedd yn cynnwys:[2]
- John Gwyn - Gitâr drydan / acwstig
- Gwyndaf Roberts - Bâs / Telyn
- Paul Westwell - Drymiau
- Cenfyn Evans - Piano Wurlitzer, Synthesizer Farfisa a Trwmped.
Nodwyd mewn adolygiad yn Y Dinesydd bod y "grŵp roc bach ond hynod ddawnus" wedi rhoi "sail gref i'r cynhyrchiad, rhywbeth y gallai'r plant ymateb iddo ar unwaith".[1]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y panto am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru dros gyfnod y gaeaf 1975/6. Cyfarwyddwr : Grey Evans; Cynllunydd : Martin Morley; Cyfarwyddwr Cerdd : Cenfyn Evans; Set : Glyn Richards ac Alan Jones a Jon Clarke. Rheolwr y llwyfan oedd Siôn Humphreys. Cast:
- Afagddu - Iestyn Garlick
- Morda - J. O. Jones
- Llew Capie - Valmai Jones
- Maelgwn Gwynedd - Gwynfryn Roberts
- Eurfyw - Llinos Jenkins
- Elffin Dywysog - René Griffiths
- Ceridwen - Iola Gregory
- Taliesin - Hugh Edwin
- Pentrefwyr - Gaynor Davies a Rolant Jones
Nodwyd mewn sawl adolygiad mai "seren y sioe" oedd Valmai Jones fel Llew Capie, "cymeriad bendigedig o ddrwg a doniol, wedi ei chwarae'n afiaethus [...] a oleuodd dipyn ar adegau tywyllaf y sioe hon".[1]
Oriel y cynhyrchiad cyntaf
[golygu | golygu cod]-
Cast y pantomeim Afagddu gan Gwmni Theatr Cymru 1975
-
Iola Gregory, J. O. Jones, Iestyn Garlick a Hugh Edwin - Cast y pantomeim Afagddu gan Gwmni Theatr Cymru 1975