Neidio i'r cynnwys

Adroddiad David Hughes Parry

Oddi ar Wicipedia

Ffrwyth ymchwil gan bwyllgor swyddogol a sefydlwyd yn 1963 gan lywodraeth y Deyrnas Unedig oedd Adroddiad David Hughes Parry neu weithiau Arolwg David Hughes Parry. Y pwrpas oedd "egluro statws cyfreithiol yr Iaith Gymraeg, ac i ystyried a ddylid gwneud newidiadau i'r gyfraith". Fe ysgogwyd y pwyllgor, yr ymchwil, yr adroddiad a'i argymhellion gan weithgaredd Cymdeithas yr Iaith.

Gwnaed y cyhoeddiad am sefydlu'r pwyllgor, a'i bwrpas, gan Syr Keith Joseph, y Gweinidog Dros Faterion Cymreig (swydd a fodolai cyn creu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964), ar 30 Gorffennaf 1963 a danfonwyd copi o'r Adroddiad gorffenedig at James Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar 15 Mehefin 1965.[1]

Enw swyddogol adroddiad Pwyllgor Aaron oedd "Adroddiad Cyngor Ymgynghorol Cymru ar yr Iaith Gymraeg Heddiw",[2] ac fe ymddangosodd yr adroddiad yn niwedd 1963, ac fe'i anwybyddwyd gan y pwyllgor newydd, Pwyllgor David Hughes Parry. Roedd yn galw statws swyddogol i'r Gymraeg.[3] Yn ôl Geraint Jones yn ei gyfrol Brwydr yr Iaith (Gwasg y Lolfa, 2025), "Y gwir amdani yw fod yr adroddiad hwn yn un o'r pethau gorau a gyhoeddwyd erioed ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg."

Y cefndir

[golygu | golygu cod]

Drwy aeaf a gwanwyn 1963 gwelwyd gweithgareddau fel dirwyo sawl un o'r aelodau am geisio gwysion Cymraeg, protest Pont Trefechan ac ymgyrchoedd Cell Bangor yng ngwanwyn 1963 a'r holl gyhoeddusrwydd cenedlaethol dros statws i'r iaith. Ar 29 Mawrth 1963 danfonwyd un o aelodau amlycaf y Gymdeithas i flwyddyn o garchar am ddefnyddio ffrwydron i wneud difrod i safle adeiladu argae Tryweryn. Yn ogystal â hyn. roedd pwyllgor arall wedi'i sefydlu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sef Pwyllgor Aaron, dan gadeiryddiaeth yr Athro Richard I. Aaron, Adran Athroniaeth Coleg y Brifysgol Aberystwyth.

Aelodau Pwyllgor David Hughes Parry

[golygu | golygu cod]

Brodor o Blwyf Llanaelhaearn oedd y Cadeirydd, David Hughes Parry. Bu'n Athro'r Gyfraith yn y London School of Economics tan iddo ymddeol yn 1959.[4]wefan London School of Economics Roedd yn briod gyda merch O. M. Edwards, sef Haf ac yn byw yn Neuadd Wen, Llanuwchllyn. Yr Athro Glanmor Williams (1920–2005), oedd yr ail aelod o'r pwyllgor, hanesydd o Ddowlais, Morgannwg, ac athro ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe rhwng 1957 ac 1982. Y trydydd aelod oedd D. W. Jones-Williams, cyfreithiwr yng nghwmni Griffiths, Adams & Williams, Dolgellau a Chlerc Cyngor Sir Feirionnydd.

Ar 6 Medi 1963 cynhaliwyd cyfarfod cynta'r Pwyllgor, cwta wythnos ar ôl y cyhoeddiad gan Syr Keith Joseph. Gohiriodd y Gymdeithas lawer o'i gweithgareddau gan fod eu hysgrifennydd John Davies yn obeithiol y byddai'r Pwyllgor "yn esgor ar ddeddfwriaeth gadarn" ond aeth Cell Bangor ymlaen â'r gwaith o ymgyrchu.

Yr adroddiad a'r ddeddf

[golygu | golygu cod]

Ar 15 Mehefin 1965 danfonwyd copi o'r Adroddiad gorffenedig at James Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.[1]

Ar 15 Rhagfyr 1965 cafwyd datganiad gan yr James Griffiths fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig "yn barod i dderbyn yr egwyddor sylfaenol a gynigiwyd".

Ar 27 Gorffennaf 1967 daeth y Ddeddf newydd i rym: Deddf yr Iaith Gymraeg 1967, blwyddyn a hanner ar ôl i'r Pwyllgor ei gyhoeddi. Roedd llawer o'r Adroddiad wedi'i newid. Yn ôl Hughes Parry: sicrhaodd pasio'r Ddeddf dri pheth:

  1. y caniateir defnyddio'r Gymraeg mewn llys barn ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.
  2. hwyluso'r ffordd i weinyddiaeth y Llywodreath baratoi ffurflenni a dogfennau Cymraeg, a
  3. galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r Gymraeg.[5]

Cafwyd deddfau pellach, a roddodd statws gyfartal iddi: Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Dywed Dylan Phillips yn ei gyfrol Drwy Ddulliau Chwyldro...? (Gwasg Gomer, 1988): "Nid oedd hyd yn oed Syr David Hughes-Parry (sic) yn gwbwl fodlon a chynnwys y Ddeddf Iaith, a beirniadodd y Llywodraeth Lafur yn hallt am beidio â datgan yn bendant 'bod i'r Gymraeg ddilysrwydd gyfartal yng Nghymru."[6]

Adwaith

[golygu | golygu cod]

Cafwyd datganiad gan Gymdeithas yr Iaith yn syth, yn nodi ei fod yn gam i'r cyfeiriad iawn; dyna fyrdwn y wasg Gymraeg hefyd. Roedd papur Y Cymro er enghraifft yn nodi y byddai'r adroddiad yn sbaryn i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg.[7]

Yn ôl Richard Gwynedd Parry, yn Y Bywgraffiadur (Llyfrgell Genedlaethol Cymru), bydd ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn yn "yn sicrhau iddo ei le am byth yn llyfrau hanes Cymru. Hughes Parry oedd prif bensaer yr adroddiad a gyhoeddwyd ym 1965."[8]

Yn ôl Owain Owain ar ran y Gymdeithas am y Ddeddf newydd: "Mae'n dal i wneud y Cymro Cymraeg yn israddol... gan fod yn rhaid i Gymro Cymraeg wneud cais arbennig am ffurflenni Cymraeg... Hoffwn weld ddefnyddio'r Gymraeg fel y brif iaith swyddogol yn y Fro Gymraeg. Yn Sir Fôn, er enghraifft, dylai pawb gael ffurflenni Cymraeg yn gyntaf, a bod pob Sais sydd yno'n gwneud cais am ffurflen Saesneg."[9]

Cafwyd gwrthwynebiad gwrth-Gymreig i'r Adroddiad hefyd, gyda'r Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Rhondda, Iorwerth Thomas, gan ofyn pam nad oedd person di-Gymraeg yn aelod o'r Pwyllgor.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Hughes-Parry Committee (Report): Volume 714: debated on Thursday 24 June 1965". Llywodraeth y DU. 24 Mehefin 1965. Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.
  2. Geraint Jones, Brwydr yr Iaith, 1962-67 (Gwasg y Lolfa, 2025), tt.116-125
  3. "Welsh Language (Report) Volume 685: debated on Tuesday 26 November 1963". Hansard. 26 Tachwedd 1963. Cyrchwyd 27 Mai 2025.
  4. https://www.lse.ac.uk/law/centenary/people/david-parry G.
  5. Geraint Jones, Brwydr yr Iaith, 1962-67 (Gwasg y Lolfa, 2025), tud. 121
  6. Phyllips, Dylan (1998). Trwy Ddulliau Chwyldro...?. Llandysul: Gwasg Gomer. t. 294. ISBN 1 85902 594 3.
  7. Y Cymro, 28 Hydref 1965
  8. Parry, R. G., (2012). PARRY, Syr DAVID HUGHES (1893-1973), cyfreithiwr, cyfreithegwr, gweinyddwr prifysgol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Mai 2025, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c8-PARR-HUG-1893
  9. Geraint Jones, Brwydr yr Iaith, 1962-67 (Gwasg y Lolfa, 2025), t.124