Adrannau anweinidogol y Llywodraeth
Gwedd
Math | Adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ![]() |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Mae adran anweinidogol y Llywodraeth (Saesneg: Non-ministerial government department) yn fath o adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am faterion nad oes angen goruchwyliaeth wleidyddol uniongyrchol arnynt. Fel arfer cânt eu harwain gan uwch weision sifil. Mae gan rai swyddogaeth reoleiddio neu arolygu, ac felly mae angen eu hamddiffyn rhag ymyrraeth wleidyddol. Caiff rhai eu harwain gan swydd-ddeiliad parhaol, megis Ysgrifennydd Parhaol neu Ail Ysgrifennydd Parhaol.
Ym mis Chwefror 2025 roedd yr Adrannau Anweinidogol canlynol ar waith:[1]
- Adran Actiwari'r Llywodraeth
- Adran Gyfreithiol y Llywodraeth
- Yr Archifau Cenedlaethol
- Asiantaeth Safonau Bwyd
- Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
- Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
- Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat)
- Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig
- Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi
- Comisiwn Coedwigaeth
- Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
- Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
- Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
- Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd
- Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual)
- Swyddfa Safonau mewn Addysg (Ofsted)
- Swyddfa Twyll Difrifol
- Swyddfa’r Marchnadoedd Nwy a Thrydan (Ofgem)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Departments, agencies and public bodies", gov.uk; adalwyd 27 Chwefror 2025