Adam yn yr Ardd
| Adam yn yr Ardd | |
|---|---|
| Ffugenw | Adam yn yr Ardd |
| Ganwyd | Adam Jones |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | garddwr, cyflwynydd teledu, ysgrifennwr |
| Gwefan | https://www.adamynyrardd.cymru/ |
Mae Adam Jones yn arddwr a chyflwynydd teledu o Gymru sy'n fwyaf adnabyddus yn y cyfryngau dan yr enw Adam yn yr Ardd.[1][2] Ers 2025 mae'n un o gyflwynwyr Garddio a Mwy ar sianel S4C.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd ei fagu yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin.[3] Dechreuodd arddio yn dair oed gyda'i dad-cu, oedd yn fentor ac yn brif ysbrydoliaeth iddo yn ei yrfa garddio yn nes ymlaen.[4]
Aeth i Ysgol Gynradd Glanaman[5] cyn gwneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi graddio, aeth i weithio gyda Mentrau Iaith Cymru ac yna i'r Coleg Cymraeg, ond roedd ei fryd ar weithio ym myd garddio ac yntau'n arddwr brwd yn ei amser hamdden.[6]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar y cyfryngau cymdeithasol
[golygu | golygu cod]Yn 2018 dechreuodd gyfrif ar Instagram dan yr enw 'Adam yn yr Ardd' (@adamynyrardd). Denodd gynulleidfa eang[7] trwy rannu chyngor garddio a chofnodi datblygiad ei ardd yn Nghorslas, Cwm Gwendraeth, gan roi pwyslais ar dyfu llysiau, bioamrywiaeth a hunan-gynhaliaeth.[5][6] Ym Mehefin 2020 dechreuodd sianel ddwyieithog o'r un enw ar YouTube[8]. Un o'i amcanion oedd hybu'r Gymraeg ac annog pobl i ddysgu'r iaith trwy gyfrwng garddio, ac i'r diben hwn creodd gyfres "Dysgu Cymraeg yn yr Ardd", a ddatblygodd yn bartneriaeth gyda menter 'Dysgu Cymraeg' S4C.[9][2]
Yn 2021 cyhoeddodd Dere i Dyfu, llyfr garddio i blant ar y cyd gydag Ali Lodge a Tanwen Haf.[10][4]
Radio a theledu
[golygu | golygu cod]Yn sgil ei amlygrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, daeth Adam yn westai rheolaidd ar BBC Radio Cymru a rhaglenni teledu Prynhawn Da a Heno S4C, ac yn destun sawl cyfweliad y wasg Gymraeg. Cafodd sylw yn Lloegr hefyd drwy ei ymddangosiad ar raglen BBC Gardener's World yn 2025, pan dywysodd y cyflwynwyr o amgylch ei ardd lysiau.[11][12]
Yn 2025 daeth Adam yn aelod o dîm cyflwyno Garddio a Mwy, rhaglen arddio S4C.[13]
Y Sioe Frenhinol
[golygu | golygu cod]Yn 2023 penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Garddwriaeth Sioe Frenhinol Cymru.[14] Yn y rôl wirfoddol hon datblygodd Bentref Garddwriaeth ar ei newydd wedd ar gyfer Sioe 2024, gan fynegi ei amcan i weld y Sioe yn tyfu'n "[g]oron dathliad Cymru o ran garddwriaeth bob blwyddyn".[15] Dychwelodd ar gyfer Sioeau 2025–2026.[7]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Adam yn byw yn Sir Gaerfyrddin gyda'i wraig Sara a'u merch.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, Dewi (21 Gorffennaf 2026). "10 striking murals created to welcome this year's National Eisteddfod". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- 1 2 Larsen, Lowri (23 Chwefror 2023). "Annog pobol sy'n symud i fyw neu i sefydlu busnes yng Nghymru i "gofio a chydnabod" pwysigrwydd y Gymraeg". Golwg360. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Ateb y Galw: Adam Jones neu 'Adam Yn Yr Ardd'". BBC Cymru Fyw. 6 Mehefin 2022. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- 1 2 (www.gwerin.com), Gwerin. "Llyfr gan Adam yn yr Ardd i annog plant a rhieni i fynd i arddio | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2026-07-26.
- 1 2 "Pwy ydy Adam? – Adam Yn Yr Ardd". Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- 1 2 3 Dafydd, Cadi (18 Mehefin 2023). "Y garddwr sy'n siarad Almaeneg, Sbaeneg a mwy". Golwg360. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- 1 2 Dyfri, Annell (23 Gorffennaf 2026). "Adam yn yr Ardd yn ffarwelio â'r lle wnaeth 'newid fy mywyd'". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Grafftio Rhosyn / the Easiest Way to Graft a Rose". YouTube. 8 Mehefin 2020. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Learn Welsh / Dysgu Cymraeg". YouTube (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Dere i Dyfu". ffolio.cymru. Cyrchwyd 2026-07-26.
- ↑ "Adam Jones". Not Just A Garden (yn Saesneg). 19 Chwefror 2026. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ Stubbs, Molly (23 Gorffennaf 2026). "'Dream come true' as Welsh TV gardener teams up with Gardeners' World star". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ Mansfield, Mark (2025-04-15). "Florist swaps 'mayhem and murder' for meditation in the garden". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-26.
- ↑ "'Troi cariad yn yrfa': Penodi Adam yn yr Ardd yn Gyfarwyddwr Garddwriaeth Sioe Frenhinol Cymru". newyddion.s4c.cymru. 16 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Adam yn yr Ardd: 'Popeth yn newydd' ym Mhentref Garddwriaeth y Sioe". Newyddion S4C. 23 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.