Ad-fudo
| Enghraifft o: | cysyniad gwleidyddol, gair teg, mudiad gwleidyddol |
|---|---|
| Math | Carthu ethnig, return, alltudiaeth |
| Rhan o | white genocide conspiracy theory, opposition to immigration |
| Dynodwyr | |
Mae ad-fudo neu ail-fudo yn derm a ddefnyddir yn benodol gan eithafwyr asgell dde yn Ewrop i gyfeirio at fath o garthu ethnig[1][2] o dramorwyr nad ydynt yn wyn neu'n dod o Ewrop, neu eu cynd-deidiau o wledydd Ewrop. Bydd hyn fel arfer yn cyfeirio at bobl o, neu o dras, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica a gweddill Affrica ac yn enwedig bobl o'r ffydd neu'r diwylliant Islamaidd.[3] Bwriedir eu "danfon yn ôl" (ad-fudol) i'r hyn a elwir yn "wlad wreiddiol", waeth ble cawsant eu geni neu eu magu.[2]
Gwraidd ideolegol
[golygu | golygu cod]
Defnyddir y term yn benodol gan y mudiad Identitaraidd.[3][4] Ceir graddfeydd o fewn radicaliaeth ad-fudo. Bydd rhai eiriolwyr yn galw am eithrio rhai pobl rhag alltudio torfol yn seiliedig ar eu graddfa o gymathu i ddiwylliant Ewropeaidd - nid yw'n glir sut mae mesur y raddfa o gymathu.[5][6][7]
Mae eiriolwyr ailfudo yn hyrwyddo'r term wrth geisio unffurfiaeth ethno-ddiwylliannol.[7] Yn ôl Deutsche Welle, mae ethno-blwraliaeth yn creu cysyniad bod angen eu mannau byw ar wahân eu hunain ar wahanol ethnigrwydd - angen am ailfudo pobl â "gwreiddiau tramor".[8] Mae'r ysgolhaig Mecsicanaidd José Ángel Maldonado wedi disgrifio'r syniad fel "ffurf feddal o lanhau ethnig wedi'i chuddio fel alltudio ac arwahanu".[1]
Fel ffordd o wrthweithio mewnfudo torfol ac Islameiddio Ewrop, mae ailfudo wedi dod yn fwyfwy yn safle gwleidyddol canolog yn y mudiad Identitaraidd a mudiadau a phleidiau gwleidyddol asgell dde eraill.[9][10]
Dangosodd ymchwil gan yr Institute for Strategic Dialogue yn y DU, a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2019, gynnydd sylweddol mewn sgyrsiau am ailfudo ar y platfform cyfryngau cymdeithasol Twitter rhwng 2012 a 2019.[11][12]
Pleidiau ad-fudo
[golygu | golygu cod]Gellir dod o hyd i atgofion cynnar o'r cysyniad asgell dde eithafol modern o ailfudo mewn mudiadau Ffrengig yn y 1960au fel Europe-Action,[13] a ystyrir yn "ffurf embryonig" y Nouvelle Droite.[14][15] Bathodd Jean-Pierre Stirbois, Ysgrifennydd Cyffredinol y Ffrynt Cenedlaethol (FN) ar y pryd, yr ymadrodd "byddwn yn eu hanfon yn ôl" ('on les renverra') mewn cyfweliad.[16] Ef oedd pensaer y llwyddiant etholiadol cyntaf gan y Ffrynt Cenedlaethol ym 1983, gan ennill bron i 17% o'r bleidlais yn ninas Dreux gyda'r addewid o "wrthdroi'r llif mudol".[17] Mynegir y syniad hefyd yn y slogan Almaenig "Deutschland den Deutschen, Ausländer raus" ('Yr Almaen i'r Almaenwyr, tramorwyr allan'),[18] ac yn arwyddair L'Œuvre Française "La France aux Français" ('Ffrainc i'r Ffrancwyr').[19]
Pleidiau Ad-fudo ym Mhrydain
[golygu | golygu cod]Bu'r National Front yn y Deyrnas Unedig yn galw ar ar-fudo yn yr 1970au a'r British National Party gyda "voluntary resettlement" yn yr 1990au i'r 2010au,[20] ond prin iawn bu eu llwyddiant etholiadol. Yn 2025 sefydlwyd Restore Britain gydag ad-fudo yn un o brif lwyfannau etholiadol y blaid. Mae'r blaid yn galw am "mass deportation of all illegal migrants"[21]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Restore Britain Plaid o blaid ad-fudo
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- “Total remigration”: Anti-migrant narratives targeting the UK Papur gan Institute for Strategic Dialogue, 2025
- Remigration: The Rise of a Fringe Idea into the Political Mainstream papur gan Centre for the Study of Organized Hate, 2026
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Maldonado, José Ángel (2 Ionawr 2020). "Manifestx: toward a rhetoric loaded with future". Communication and Critical/Cultural Studies 17 (1): 104–110. doi:10.1080/14791420.2020.1723799. ISSN 1479-1420. https://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/14791420.2020.1723799. Adalwyd 5 Tachwedd 2025. "Perceiving change as an existential threat, followers of Great Replacement theory propose “remigration,” a soft type of ethnic cleansing under the guise of deportation and segregation."
- 1 2 Skadegård, Mira C. (31 Hydref 2025). "Forsker: Remigration er ikke politik. Det er racisme i forklædning". Altinget (yn Daneg). Cyrchwyd 5 Tachwedd 2025.
- 1 2 Richards, Imogen (2 Ionawr 2022). "A Philosophical and Historical Analysis of “Generation Identity”: Fascism, Online Media, and the European New Right". Terrorism and Political Violence 34 (1): 28–47. doi:10.1080/09546553.2019.1662403. ISSN 0954-6553. https://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/09546553.2019.1662403. Adalwyd 5 Tachwedd 2025. "Demonstrating GI's exclusionary politics, its members advocate for what they term a policy of forced "remigration," in which migrants (from primarily Middle Eastern, North African, and Muslim-majority nations), would be forced to return to their countries of origin."
- ↑ Nissen, Anita (2020), Norocel, Ov Cristian; Hellström, Anders; Jørgensen, Martin Bak, eds., "The Trans-European Mobilization of "Generation Identity"" (yn en), Nostalgia and Hope: Intersections between Politics of Culture, Welfare, and Migration in Europe, IMISCOE Research Series (Springer International Publishing): pp. 85–100, doi:10.1007/978-3-030-41694-2_6, ISBN 978-3-030-41694-2, "The call for so-called "remigration" of third-country immigrants is a term GI France has adopted from BI, referring to the (forced) returning of third-country immigrants to their home countries."
- ↑ Ebner, Julia (2019-04-04). "Who are Europe's far-right identitarians?". Politico. Cyrchwyd 2019-06-22.
- ↑ ""Réémigration", négationnisme, "race congoïde"... Les mauvaises ondes d'Henry de Lesquen, le patron de Radio Courtoisie". France Info (yn Ffrangeg). 7 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 22 Mehefin 2019.
- 1 2 "Begriffe der neuen Rechten - Neue Wörter, alter Hass". Die Tageszeitung (yn Almaeneg). 1 Gorffennaf 2019.
[...] jedoch auch offizielle AfD-Accounts, welche fordern, dass syrische Flüchtlinge abgeschoben werden sollen, oder befinden, dass für „Türken", die sich „nicht integrieren wollen", eine Remigration das beste wäre. [...] liegt eine der größten Gefahren für offene und demokratische Gesellschaften in der Naivität gegenüber den politischen Bemühungen, extremistische Rhetorik zu normalisieren.
- ↑ "How dangerous is the Identitarian Movement?". Deutsche Welle. 13 Gorffennaf 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-15. Cyrchwyd 2026-07-25.
- ↑ "La "remigration", un concept qui essaime au-delà des identitaires". Libération (yn Ffrangeg). 12 Ebrill 2019.
- ↑ Leeb, Claudia (n.d.). "The Right Extremist Identitarian Movement in Europe: A Critical Theory Analysis". Azimuth: Philosophical Coordinates in Modern and Contemporary Age: 16, 2, 2020 (2): 71–88. doi:10.1400/281871. https://www.torrossa.com/en/resources/an/4823333.
- ↑ "Taboos fall away as far-right EU candidates breach red line". Associated Press. 16 Mai 2019.
"remigration," the chilling notion of returning immigrants to their native lands in what amounts to a soft-style ethnic cleansing.
- ↑ Tirone, Jonathan; Nicoletti, Leonardo (28 Medi 2024). "'Remigration': How a White Nationalist Threat Spread From Austria to the US". Bloomberg News. Cyrchwyd 6 Hydref 2024.
- ↑ François, Stéphane (2013-05-23). "Dominique Venner et le renouvellement du racisme". Fragments sur les Temps Présents (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2019-08-16.
De ce fait, la revue Europe Action était l’une des premières à critiquer l’immigration (l’« invasion ») algérienne [...] et à inciter au rapatriement massif des étrangers, par hantise du métissage.
- ↑ McCulloch, Tom (2006-08-01). "The Nouvelle Droite in the 1980s and 1990s: Ideology and Entryism, the Relationship with the Front National" (yn en). French Politics 4 (2): 160. doi:10.1057/palgrave.fp.8200099. ISSN 1476-3427.
- ↑ Taguieff, Pierre-André (1993). "Origines et métamorphoses de la Nouvelle Droite". Vingtième Siècle. Revue d'histoire (40): 4–6. doi:10.2307/3770354. ISSN 0294-1759. JSTOR 3770354.
- ↑ "Musée de l'immigration: "L'extrême-droite a franchi un palier"". FIGARO. 2015-03-17. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ Lebourg, Nicolas; Beauregard, Joseph (2011-07-15). "Les numéros deux du FN (2/4): Jean-Pierre Stirbois, l'apparatchik". Monde Online (yn Ffrangeg). ISSN 1950-6244. Cyrchwyd 2019-08-17.
- ↑ Aftenberger, I. (2017). Die ‘Identitäre’ Beseitigung der andere. In J. Goetz, J. M. Sedlacek, & A. Winkler (Eds.), Untergangster des Abendlandes (pp. 203–227). Hamburg: Marta Press.
- ↑ "Marine Le Pen porte plainte contre Montebourg et Pulvar". LExpress.fr (yn Ffrangeg). 2012-02-29. Cyrchwyd 2019-08-12.
- ↑ "Monday briefing: How radical views became normalised – from TV ads to deportation policy". The Guardian. 2025.
- ↑ "Mass Deportations: Legitimacy, Legality, and Logistics". Gwefan Restore Britain. 9 Hydref 2025.