Ceir 14 elfen gemegol yn y grwp yma a elwir yn actinad (lluosog: actinadau) ac mae iddynt rifau atomig rhwng 90 a 103; o thoriwm i lawrenciwm. Mae'r enw'n tarddu o'r elfen honno a elwir yn actiniwm, yn Grŵp 3 y tabl cyfnodol. Defnyddir hefyd yr enw actinid.
Dim ond thoriwm ac wraniwm a geir yn naturiol ar y ddaear; mae gweddill y grwp yn cael eu gwneud gan ddyn - hynny yw - yn elfennau synthetig. Mae pob un yn ymbelydrol.