Aberdaron (Cynan)
Argraffiad 1923 y Western Mail o'r gerdd | |
| Enghraifft o: | barddoniaeth Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 17 Ionawr 1923 |
| Awdur | Cynan |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Hogia'r Wyddfa |
| Dynodwyr | |
Un o delynegion mwyaf poblogaidd y bardd Cynan yw Aberdaron a anfarwolwyd ar gân gan Hogia'r Wyddfa ym 1970. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn y Western Mail ar 17 Ionawr 1923, cyn cael ei chynnwys yn yr argraffiad cyntaf o Cerddi Cynan ym 1959.[1] Er mai creu delfryd "cartwnaidd" o'i ymddeoliad rhamantus drwy brynu bwthyn ger y môr ym mhentref Aberdaron yn Llŷn oedd y dehongliad cyffredinol o'r delyneg, cafodd ei chyfansoddi mewn cyfnod o "ddigofaint" yn ôl y bardd.[1] Cafodd fersiwn gerddorol fyrlymus Arwel Jones ei feirniadu a'i frolio, pan y bu i'r grŵp ei pherfformio am y tro cyntaf fel rhan o'r cyflwyniad Cofio Cynan gan Gwmni Theatr Cymru.[2] Ers hynny, mae nifer o gyfansoddwyr a grwpiau wedi gosod y delyneg ar gân gan gynnwys Meirion Williams, Osian Ellis a'r grŵp gwerin Bwncath.[3]
Geiriau
[golygu | golygu cod]Pan fwyf yn hen a pharchus,
Ag arian yn fy nghod,
A phob beirniadaeth drosodd
A phawb yn canu 'nghlod,
Mi brynaf fwthyn unig
Heb ddim o flaen ei ddôr
Ond creigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.
Pan fwyf yn hen a pharchus,
A'm gwaed yn llifo'n oer,
A'm calon heb gyflymu
Wrth wylied codi'r lloer ;
Bydd gobaith im bryd hynny
Mewn bwthyn sydd a'i ddôr
At greigiau Aberdaron,
A thonnau gwyllt y môr.
Pan fwyf yn hen a pharchus
Tu hwnt i fawl a sen,
A'n cân yn ôl y patrwm
A'i hangerdd oll ar ben ;
Bydd gobaith im bryd hynny
Mewn bwthyn sydd a'i ddôr
At greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.
Oblegid mi gaf yno
Yng nghri'r ystormus wynt
Adlais o'r hen wrthryfel
A wybu f'enaid gynt.
A chanaf â'r hen angerdd
Wrth syllu tua'r ddôr
Ar greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn adargraffiad Gwasg Gomer o Cerddi Cynan ym 1987 [cyhoeddiad gwreiddiol 1959] rhestrwyd Aberdaron o dan y cynnwys "Cathlau [caneuon] a Thelynegion".[4]
Noda Gerwyn Williams yn ei gyfrol Cynan: Drama Bywyd Albert Evans Jones [Lolfa 2020] mai "rhoi mynegiant i'w ieuengrwydd a'r tyndra rhwng yr ifanc a'r hen" a wna'r Cynan 28 oed, pan gyhoeddwyd y delyneg am y tro cyntaf yn y Western Mail ar 17 Ionawr 1923.[1] Roedd Cynan wedi cael ei "gorddi" gan sylwadau Meuryn, golygydd Yr Herald Cymraeg ar y pryd, a ystyriai yn "ddeinosor adweithiol" er ond yn 15 mlynedd yn hŷn na Cynan.[1] Meuryn oedd cyd-brifardd Cynan yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921, pan enillodd y Gadair gyda'r awdl Min y Môr a Cynan y Goron gyda'i bryddest Mab y Bwthyn. Ond eglura Williams yn ei gyfrol nad oedd fawr o "frawdoliaeth farddol rhwng y ddau".[1] Adroddodd Cynan yr hanes mewn cyfweliad ar ei raglen deledu Cynan: Llanc o Lŷn [BBC Cymru 1970]:
"Roedd golygydd rhyw bapur Cymraeg, gŵr hen a pharchus iawn, wedi bod yn ymosod, yn annheg iawn i'm meddwl i, ar gerddi y beirdd ifainc. Roedd fy hen gyfaill Prosser Rhys a minnau'n ifanc iawn 'ramser hynny... Ac yn fy nigofaint a minnau'n darllen y peth yn y papur newydd ar fy ngwyliau yn Aberdaron yr es ati hi i sgrifennu y delyneg... Fe'i canwyd gannoedd o weithiau heb i neb sylweddoli mai mewn digofaint y cyfansoddwyd hi!".[1]
Aiff Gerwyn Williams yn ei flaen i awgrymu mai defnyddio'r gair "parchus" fel "ansoddair negyddol i ddilorni eraill" wna'r Cynan 75 oed erbyn 1970, "heb unrhyw awgrym o hunanadnabyddiaeth yn y disgrifiad".[1] Mae Aberdaron felly yn perthyn i gerddi ei gyfnod o "wrthryfel" [hanner cyntaf y 1920au] "...yn erbyn rhagrith, a chulni, a cheidwadaeth", nododd.[1]
Hogia'r Wyddfa
[golygu | golygu cod]Ym 1970, ar wahoddiad Cwmni Theatr Cymru oedd yn paratoi'r cyflwyniad llenyddol Cofio Cynan, cyfansoddodd Arwel Jones - un o aelodau Hogia'r Wyddfa, alaw fyrlymus ar eiriau'r delyneg, i'w chanu gan y grŵp fel rhan o'r cynhyrchiad. Llwyfannwyd y cyflwyniad yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970. Dathliad o farddoniaeth a gwaith Cynan oedd prif fwriad y cynhyrchiad, gyda chyflwyniadau gan actorion a diddanwyr enwog y cyfnod[2]
Yn ôl Gerwyn Williams, gwnaeth Cynan "restr o gerddi y carai i'r hogiau eu gosod i gerddoriaeth", ac er nad oedd Aberdaron ar y rhestr honno, mae'n nodi mai "hit mwyaf Cofio Cynan oedd 'Aberdaron'".[1] Er i Arwel Jones ddadlau fod y gerddoriaeth fyrlymus yn adlewyrchiad o "donnau gwyllt y môr", anghytunai Gwyn Erfyl fod yr alaw yn gweddu i'r geiriau, er mai "nid mwynder y canol oed yn edrych ymlaen at gysur henaint sydd yma".[2]
Addasiadau eraill
[golygu | golygu cod]- 'Aberdaron' - addasiad mwy hamddenol y grŵp gwerin Bwncath yn 2020.
- 'Aberdaron' - cân glasurol gan Meirion Williams a'i chofrestru gan Sain ym 1992.[3]
- 'Aberdaron' gan Dalwyn James Henshall (1987)
- 'Aberdaron' gan Eifion Griffiths [Gwyneth E. Sol Owen] (Curiad 1995)
- 'Aberdaron' gan Osian Ellis (1984)
- 'Aberdaron' gan Haydn Morris (2009)
- 'Aberdaron' [fel rhan o medli] gan Seimon Menai Hughes (Sain 2011)