Abacavir/lamivudine

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Abacavir/lamivudine
Data cyffredinol
Beichiogrwydd Categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Dynodwyr
PubChem CID 5273759&Nbsp;edit this on wikidata
InChI 1S/c14h18n6o.c8h11n3o3s/c15-14-18-12(17-9-2-3-9)11-13(19-14)20(7-16-11)10-4-1-8(5-10)6-21;9-5-1-2-11(8(13)10-5)6-4-15-7(3-12)14-6/h1,4,7-10,21h,2-3,5-6h2,(h3,15,17,18,19);1-2,6-7,12h,3-4h2,(h2,9,10,13)/t8-,10+;6-,7+/m10/s1 edit this on wikidata
ChemSpider 4438137&Nbsp;edit this on wikidata
NDF-RT N0000022371 edit this on wikidata

Mae Abacavir/lamivudine, a werthir oddi tan yr enw Kivexa, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin HIV/AIDS. Dos cyfunol sefydlog ydyw, yn cynnwys abacavir a lamivudine. Yn gyffredinol, argymhellir ei ddefnyddio gydag 'antiretrovirals' eraill. Caiff ei ddefnyddio'n fwy aml na pheidio mewn triniaethau ar gyfer plant. Gellir ei gymryd drwy'r geg ar ffurf tabled.[1]

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sgil effeithiau cyffredin y cyffur yn cynnwys trafferthion wrth gysgu, cur pen, iselder ysbryd, blinder, chwydu, brech a thwymyn. Gall sgil effeithiau difrifol gynnwys lefelau lactad uchel yn y gwaed, adweithiau alergaidd, a chwyddiant yn yr afu. Ni chaiff ei argymell ar gyfer pobl a genyn penodol o'r enw HLA-B * 5701. Nid yw defnyddioldeb y cyffur yn ystod beichiogrwydd wedi ei astudio'n drylwyr, ond ymddengys yn ddiogel ar hyn o bryd.[2] Mae Lamivudine ac abacavir yn atalyddion trawsgrifiad gwrthdro niwcleosid (NRTI).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymeradwywyd Abacavir / lamivudine fel triniaeth feddygol yn yr Unol Daleithiau yn 2004. Mae'r cyffur ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Cost gyfanwerthol fisol y cyffur yn y byd datblygedig yn 2004 oedd 14.19 i 16.74 o ddoleri. O 2015 ymlaen, mae'r gost fisol hwnnw wedi cynyddu i fwy na 200 o ddoleri.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Abacavir and Lamivudine Tablets". Teva Pharmaceuticals USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 February 2017. Cyrchwyd 28 November 2016.
  2. "Abacavir / lamivudine (Epzicom) Use During Pregnancy". www.drugs.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 December 2016. Cyrchwyd 4 December 2016.
  3. Hamilton, Richart (2015). Tarascon Pocket Pharmacopoeia 2015 Deluxe Lab-Coat Edition. Jones & Bartlett Learning. p. 59. ISBN 9781284057560.