Neidio i'r cynnwys

A Taste of Honey

Oddi ar Wicipedia
A Taste of Honey
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurShelagh Delaney Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af27 Mai 1958 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Drama lwyfan gyntaf y dramodydd a'r sgriptiwr Shelagh Delaney yw A Taste of Honey a gyfansoddodd pan yn 19 oed. Cafodd ei addasu'n ffilm o'r un teitl ym 1961 a enillodd bedair BAFTA yng Ngwobrau Ffilm yr Academi.

Wedi'i lleoli yn Salford yng Ngogledd Orllewin Lloegr, mae'n dilyn hanes 'Jo', merch ysgol o'r dosbarth gweithiol, a'i mam, 'Helen', sy'n cael ei chyflwyno fel putain, budr a rhywiol. Mae Helen yn gadael Jo ar ei phen ei hun yn eu fflat newydd ar ôl i Helen ddechrau perthynas â'r 'Peter' cyfoethog sy'n iau na hi. Ar yr un pryd mae Jo, sy'n wyn, yn dechrau perthynas ramantus â 'Jimmy', morwr du sy'n y Llynges Frenhinol. Er mai dim ond 15 oed yw hi, mae hi'n dweud wrtho ei bod bron yn 18 oed ac felly bron yn ddigon hen i briodi heb ganiatâd ei rhieni. Cynigia Jimmy ei phriodi, cyn dychwelyd i'r llong ar y Môr, gan adael Jo yn feichiog ac ar ei phen ei hun. Mae hi'n dod o hyd i lety gyda chydnabod hoyw, Geoffrey, sy'n cymryd rôl tad dirprwyol. Mae Helen yn dychwelyd ar ôl gadael ei chariad ac mae dyfodol cartref newydd Jo yn y fantol.

Fel nofel y bwriadwyd A Taste of Honey yn wreiddiol, ond trodd Delaney hi'n ddrama oherwydd ei bod hi'n gobeithio adfywio theatr Prydain ac ymdrin â materion cymdeithasol nad oedd hi'n credu eu bod yn cael eu cyflwyno. Cynhyrchwyd y ddrama gan Weithdy Theatr Joan Littlewood a chafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn Theatr Frenhinol Stratford East, theatr ymylol sosialaidd yn Llundain, ar 27 Mai 1958.

Mae'r ddrama'n arsylwi ac yn cwestiynu, dosbarth, hil, oedran cydsynio rhywiol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol ac anghyfreithlondeb ym Mhrydain yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Daeth yn adnabyddus fel drama "cegin sinc", rhan o genre a oedd yn chwyldroi theatr Prydain ar y pryd.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Helen - mam sengl galed, dosbarth gweithiol sy'n alcoholig
  • Josephine - ei merch yn ei harddegau, caiff ei hadnabodher fel 'Jo', wedi'i magu gan Helen
  • Peter - cariad ifanc a chyfoethog Helen o Lundain
  • The Boy - caiff ei adnabod hefyd fel 'Jimmy', morwr du, eilun serch Jo a thad ei darpar blentyn
  • Geoffrey: myfyriwr celf yn ei ugeiniau cynnar a ddaw'n gyfaill a chyd-letywr i Jo

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Wrth ysgrifennu am y cynhyrchiad gwreiddiol, barnodd Milton Shulman yn The Evening Standard fod y ddrama’n anaeddfed ac yn anargyhoeddiadol, gydag eraill yn gwneud sylwadau sarhaus am oedran yr awdur; nododd The Daily Mail nad oedd ganddi flas ar fêl, ond yn hytrach flas ar "lyfrau ymarfer a marmalêd."[1]

Fodd bynnag, nododd Kenneth Tynan fod "Miss Delaney yn dod â phobl go iawn i’w llwyfan, yn cellwair ac yn gwylltio ac yn ymrafael ac, yn y pen draw, yn goroesi diolch i’r brwdfrydedd dros fywyd y mae hi’n ei roi iddynt"; tra disgrifiodd Lindsay Anderson y ddrama, yn y cylchgrawn Encore, fel "gwaith o wreiddioldeb llwyr a chyffrous," gan gynnig "dihangfa wirioneddol rhag gwacter dosbarth canol a diwylliant cyffredin y West End."[2]

Fel cefndir i A Taste of Honey, myfyriodd Delaney ar fywyd yn Salford mewn rhaglen ddogfen – a gyfarwyddwyd gan Ken Russell ar gyfer rhaglen Monitor y BBC – a ddarlledwyd ar 26 Medi 1960.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Cymeriad Cynhyrchiad gwreiddiol 1958 Broadway 1960 Theatr Genedlaethol Frenhinol 2014
Helen Avis Bunnage Angela Lansbury [3] Lesley Sharp
Josephine Frances Cuka Joan Plowright Kate O'Flynn
Peter Nigel Davenport Nigel Davenport Eric Kofi Abrefa
Y Llanc (Jimmy) Clifton Jones Billy Dee Williams Dean Lennox Kelly
Geoffrey Murray Melvin Andrew Ray Harry Hepple

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Review of A Taste of Honey by Lindsay Anderson, 1958". The British Library (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2026.
  2. Kellaway, Kate (25 Awst 2019). "Tastes of Honey by Selina Todd review – illuminating life of Shelagh Delaney". The Guardian. Cyrchwyd 12 Awst 2026.
  3. "A Taste of Honey – Broadway Play – Original | IBDB". www.ibdb.com. Cyrchwyd 2026-08-12.