A Book of South Wales
Mae A Book of South Wales,[1] yn deithlyfr i ymwelwyr i ddeheudir Cymru a gyhoeddwyd gan gwmni cyhoeddi Methuen & Co, Llundain ym 1905. Awdur y gyfrol oedd y clerigwr a'r hynafiaethydd Sabine Baring-Gould (1834 – 1924).[2]. Mae'r llyfr yn gydymaith i'w llyfr tebyg am y gogledd A Book of North Wales a gyhoeddwyd ym 1903.
Cyflwyniad
[golygu | golygu cod]Yn ei rhagarweiniad i'r llyfr mae Baring-Gould yn egluro bod y llyfr, megis yr un am y gogledd, yn llyfr i roi rhyw syniad i'r ymwelydd o hanes y wlad y mae'n teithio ynddi. I Gymro nid oes ynddi, wrth gwrs, unrhyw beth nad yw'n ei wybod eisoes. Ond mae'r Sais cyffredin yn arbennig o anwybodus o hanes Cymru ac o arwyddocâd ei hynafiaethau.
Yn ogystal â phenodau yn disgrifio ac yn trafod gwahanol agweddau o hanes de Cymru, mae'r llyfr, hefyd, yn cynnwys 57 o ffotograffau a darluniau o'r rhanbarth
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Mae'r llyfr wedi ei rannu i benodau am drefi neu ardaloedd penodol megis Gwent, Merthyr Tudful, Bro Gŵyr ac ati. Mae'r penodau am lefydd yn cynnwys disgrifiadau twristaidd am yr ardaloedd dan sylw ond hefyd yn eu defnyddio fel bachyn ar gyfer cyflwyno rhagor am hanes cyffredinol Cymru / de Cymru. Mae pennod am Went, er enghraifft, yn trafod pam fo'r genhinen yn symbol o Gymru. Mae'r bennod am Gasnewydd yn trafod Dafydd ap Gwilym a'r traddodiad barddol Cymreig. Mae'r bennod am Ferthyr, yn amlwg, yn trafod twf y diwydiant glo yng Nghymru ond, yn annisgwyl hwyrach, hefyd yn cyflwyno 'r darllenydd i'r Mabinogi.
Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[3]
Penodau
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:
- Gwent
- Newport
- Abergavenny
- Morganwg
- Cardiff
- Merthyr Tydfil
- Gower
- The Towy Valley
- Little England Beyond Wales
- Menevia.
- Ceredigion
- Aberystwyth
- Brecon
- Radnorshire
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Baring-Gould, Sabine (1905). A Book of South Wales. Llundain: Methuen & co.
- ↑ "Gould, Sabine Baring- (1834–1924), Church of England clergyman, author, and folksong collector | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-12-10.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-11.