ATRiuM
![]() Yr ATRiuM yn 2022 | |
Math | adeilad prifysgol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4792°N 3.1696°W ![]() |
![]() | |
Mae adeilad yr ATRiuM (enw llawn swyddogol: ATRiuM: Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol Caerdydd) yn rhan o gampws Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, ynghyd ag Atlantic House ar Stryd Tyndall. Fe'i lleolir yn ardal Adamsdown yng nghanol y ddinas. Agorodd am y tro cyntaf fel adeilad ar gyfer Prifysgol Morgannwg (rhagflaenydd Prifysgol De Cymru) ar 29 Tachwedd 2007. Ychwanegwyd estyniad newydd (ATRiuM 2A) yn 2014 ac un pellach (ATRiuM 2B) yn 2016.
Cam 1
[golygu | golygu cod]
Wedi'i hagor ar 29 Tachwedd 2007,[1] mae'n gartref i un o bum cyfadran y brifysgol, CCI (Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd). Mae'r adeilad wedi'i leoli ar 86–88 Stryd Adam, ger gorsaf reilffordd Heol y Frenhines.
Mae'r adeilad yn cynnwys hen floc o swyddfeydd ar gyfer BT wedi'i adnewyddu, Enterprise House, ac estyniad wedi'i gysylltu gan atriwm gwydr. Mae'n gartref i lawer o'r cyfleusterau a arferai gael eu lleoli ar y campws yn Nhrefforest. Mae'r rhain yn cynnwys stiwdio deledu, theatr dwy haen, awditoriwm, stiwdios sain, canolfan adnoddau dysgu ac oriel.
Yr actores Siân Phillips a'r cyflwynydd teledu Rhodri Owen oedd yn arwain lansiad swyddogol ATRiuM, a chafwyd perfformiadau gan y delynores Catrin Finch a'r cantorion Elin Manahan Thomas a Daisy Blue, gyda'i thad Mal Pope yn cyfeilio ar y piano.[2]
Roedd adeilad dros dro Undeb y Myfyrwyr wedi’i leoli yng nghefn yr adeilad a agorodd ym mis Medi 2009, nes iddo symud i ATRiuM 2A a agorodd ym mis Medi 2014.
Cam 2 (ATRiuM 2A a 2B)
[golygu | golygu cod]Ehangwyd yr ATRiuM yn gyntaf ar ochr orllewinol y strwythur gwreiddiol (Cam 1), ar dir heb ei ddefnyddio i'r dwyrain a safle hen fodurdy i'r gorllewin. Mae'r adeilad deulawr newydd (ATRiuM 2A) yn cynnwys rhan o Ysgol Busnes De Cymru, yn ogystal â bar Undeb y Myfyrwyr a 'Ffatri Syniadau'. Agorodd ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi 2014.[3] Ychwanegwyd ATRiuM 2B i'r dwyrain wedi hynny; dyma adeilad pum llawr gyda chyfleusterau addysg newydd.
Cyfleusterau
[golygu | golygu cod]Ymhlith prif gyfleusterau yr ATRiuM mae stiwdio ddylunio, stiwdio deledu, gofod theatr 180 sedd, sinema, prif ddarlithfa 180 sedd, caffi a siopau cyngor.[4]
Ym mis Gorffennaf 2010, defnyddiwyd yr adeilad ar gyfer ffilmio pumed pennod y gyfres deledu The Sarah Jane Adventures, sef 'The Man Who Never Was'. Hon oedd pennod olaf y gyfres a ffilmiwyd cyn marwolaeth y brif actores Elisabeth Sladen yn 2011.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Tafarn y Vulcan, Caerdydd, a oedd yn sefyn gyferbyn â'r ATRiuM cyn iddi gael ei dymchwel
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cardiff's Most Exciting Campus Opens". Prifysgol Morgannwg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 9 Medi 2008.
- ↑ "£35m Atrium launched with glittering cast". WalesOnline. 30 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 1 Mehefin 2014.
- ↑ "University submits plans for major expansion of city centre Atrium campus". WalesOnline. 28 Ebrill 2013. Cyrchwyd 27 Mai 2014.
- ↑ "ATRiuM Facilities". Prifysgol Morgannwg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Awst 2009. Cyrchwyd 7 Hydref 2009.
- ↑ "The Man Who Never Was | A Brief History of Time (Travel)".
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfryngau perthnasol ATRiuM ar Gomin Wicimedia