999 (rhif argyfwng)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffôn argyfwng ar draeth Trefor, Gwynedd.

999 yw rhif ffôn argyfwng swyddogol mewn nifer o wledydd sy'n galluogi'r galwr i gysylltu â gwasanaethau brys am gymorth gan yr heddlu, ambiwlans neu'r frigâd dân. Mae gwledydd sydd yn ddefnyddio 999 yn cynnwys Bahrain, Bangladesh, Botswana, Ghana, Hong Kong, Cenia, Macau, Maleisia, Mauritius, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad Pwyl, Sawdi Arabia, Singapôr, Gwlad Swasi, Trinidad a Tobago, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Y Deyrnas Unedig, ac Simbabwe. Yn Y Deyrnas Unedig, mae galwadau argyfwng hefyd yn cael eu derbyn ar y rhif argyfwng Undeb Ewropeaidd, sef 112. Mae pob galwad yn cael eu hateb gan gweithredwyr 999 a mae’r galwadau bob amser yn rhad ac am ddim.