2M1207b
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | planed allheulol ![]() |
---|---|
Màs | 5 ±2 ![]() |
Dyddiad darganfod | Hydref 2004 ![]() |
Rhan o | TW Hydrae association ![]() |
Cytser | Centaurus ![]() |
Pellter o'r Ddaear | 54 ±3 ![]() |
Paralacs (π) | 19.1 ±0.4 ![]() |
![]() |
Mae 2M1207b yn blaned allheulol sy'n cylchio'r corrach brown 2M1207, rhyw 173 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser y Saethydd. Mae hi ymhlith y planedau cyntaf i gael eu gweld yn uniongyrchol trwy amlygiad is-goch.
Mae'r blaned yn gawr nwy poeth, pum gwaith i wyth gwaith yn fwy na Iau, ac yn cylchio'r seren o bellter sydd ddwywaith yn fwy na'r pellter rhwng Neifion a'r Haul.
Amcangyfrifir tymheredd y blaned i fod tua 976 C, tymheredd uchel sy'n cael ei achosi gan grychiad disgyrchiol. Mae hi'n cymryd 1700 o flynyddoedd i gylchio ei seren, ac er bod ganddi olion dŵr yn ei hawyrgylch, ni ddisgwylir bywyd arni nac ar unrhyw loerennau chwaith.