168 CC

Oddi ar Wicipedia

3g CC - 2g CC - 1g CC
210au CC 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC - 160au CC - 150au CC 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC
173 CC 172 CC 171 CC 170 CC 169 CC - 168 CC - 167 CC 166 CC 165 CC 164 CC 163 CC


Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

  • Byddin Rufeinig dan Lucius Anicius Gallus yn gorchfygu Gentius, brenin Illyria, yn Scodra, ac yn ei gymeryd yn garcharor.
  • Y cadfridog Rhufeinig Lucius Aemilius Paulus yn cael ei ethol yn gonswl ac yn cyrraedd Groeg i arwain y rhyfel yn erbyn Perseus, brenin Macedon.
  • 22 Mehefin - Brwydr Pydna (yn ne Macedonia); Lucius Aemilius Paulus yn gorchfygu byddin Perseus ac yn ei gymeryd ef yn garcharor. Rhennir Macedon yn bedair gwladwriaeth fechan gan y Rhufeiniaid, a chymerir cannoedd o garcharorion Groegaidd i Rufain, yn cynnwys yr hanesydd Polybius.
  • Llynges Antiochus IV, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, yn ennill brwydr ger arfordir Cyprus. Mae'r ynys yn ildio iddo.
  • Antiochus IV yn ymosod ar yr Aifft ac yn gwersylla ger Alexandria. Mae llysgennad Rhufeinig, Gaius Popillius Laenas, yn mynnu ei fod yn tynnu ei fyddin o'r Aifft a Cyprus ar unwaith neu wynebu rhyfel. Pan mae Antiochus yn gofyn am amser i feddwl, mae Popillius yn gwneud cylch yn y tywod o amgylch y brenin â'i ffon, ac yn mynnu ei fod yn ateb cyn camu allan o'r cylch. Mae Antiochus yn cytuno i ufuddhau i'r gorchymyn.
  • Antiochus IV yn ymosod ar Jeriwsalem ac yn lladd llawer o'r trigolion ac anrheithio'r deml.

Genedigaethau[golygu | golygu cod]

Marwolaethau[golygu | golygu cod]