Neidio i'r cynnwys

13 Merthyr Arad

Oddi ar Wicipedia
13 Merthyr Arad
llun o'r gwrthryfelwyr gan Miklós Barabás
Enghraifft o:grŵp o bobl, gwrthryfelwr/wyr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLajos Aulich, János Damjanich, Arisztid Dessewffy, Ernő Kiss, Károly Knezić, György Lahner, Károly Leiningen-Westerburg, Vilmos Lázár, József Nagysándor, Ernő Poeltenberg, József Schweidel, Ignác Török, Károly Vécsey Edit this on Wikidata
Enw brodorolAradi vértanúk Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0266s0n edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Tri Merthyr ar Ddeg o Arad (Hwngareg: aradi vértanúk) yn cyfeirio at dri ar ddeg o gadfridogion Hwngari a ddienyddiwyd gan Ymerodraeth Awstria ar 6 Hydref 1849 yn ninas Arad ar ôl Chwyldro Hwngari (1848–1849). Roedd y ddinas ar y pryd yn rhan o Deyrnas Hwngari (bellach yn Rwmania). Gorchmynnwyd y dienyddiad gan y cadfridog Awstriaidd Julius Jacob von Haynau.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Mewn araith hanesyddol ar 3 Mawrth 1848, yn fuan ar ôl i newyddion am y chwyldro ym Mharis gyrraedd, mynnodd Lajos Kossuth lywodraeth seneddol i Hwngari a llywodraeth gyfansoddiadol ar gyfer gweddill Awstria. Dechreuodd y Chwyldro ar 15 Mawrth 1848, ac ar ôl rhwystrau milwrol yn y gaeaf ac ymgyrch lwyddiannus yn y gwanwyn, datganodd Kossuth annibyniaeth ar 19 Ebrill 1849. Erbyn Mai 1849, roedd yr Hwngariaid yn rheoli'r holl wlad heblaw Buda, a enillwyd ar ôl gwarchae gwaedlyd o dair wythnos. Ond pylodd y gobaith am lwyddiant, fodd bynnag, oherwydd ymyrraeth Rwsia.

Ar ôl i bob apêl i wladwriaethau Ewropeaidd eraill fethu, ildiodd Kossuth ei swydd ar 11 Awst 1849, a hynny i Artúr Görgei, a oedd yn ei farn ef yr unig gadfridog a allai achub y genedl. Ar 13 Awst 1849, arwyddodd Görgei ei fod yn ildio, yn Világos (Șiria, Rwmania bellach) i'r Rwsiaid, a throsglwyddodd y fyddin i'r Awstriaid. Ar gais y Rwsiaid, arbedwyd Görgei. Ond dialodd yr Awstriaid ar swyddogion eraill byddin Hwngari.

Dienyddio drwy saethu

[golygu | golygu cod]

Dienyddiwyd yr un-deg-tri cadfridog o Hwngari trwy eu crogi yn Arad ar 6 Hydref 1849, ac eithrio Arisztid Dessewffy a dau arall, oherwydd eu cyfeillgarwch â Thywysog Lwcsembwrg. Ystyriwyd crogi yn ffordd cywilyddus o gosbi, felly cawsant eu saethu gan griw o 12 milwr. Ar yr un diwrnod, dienyddiwyd Iarll Lajos Batthyány (1806-1849), prif weinidog cyntaf Hwngari, mewn garsiwn milwrol yn Pest, Awstria.

Llun olew ar gynfas gan János Thorma a beintiwyd rhwng 1893 - 1896

Ffodd Kossuth i'r Ymerodraeth Otomanaidd; haerodd mai Görgei yn unig oedd yn gyfrifol am fethiant y gwrthryfel, gan ei alw'n "Jwdas Hwngari". Mae eraill, wrth edrych ar y sefyllfa amhosibl a roddwyd i Görgei, wedi bod yn llai beirniadol. Maen nhw wedi dweud, o ystyried yr amgylchiadau, nad oedd ganddo unrhyw ddewis heblaw ildio.

Mae un o'r sgwariau cyhoeddus yn cynnwys cofeb i'r merthyron, cofeb a godwyd er cof am y cadfridogion. Mae'n cynnwys ffigwr anferth o Hwngari, gyda phedwar grŵp alegorïaidd, a medaliynau o'r cadfridogion a ddienyddiwyd.

Mae Hwngariaid wedi dod i ystyried y tri cadfridog ar ddeg (y gwrthryfelwyr) yn ferthyron dros ryddid ac annibyniaeth eu pobl. Nid oedd mwyafrif y cadfridogion o darddiad ethnig Hwngaraidd,[1] ond buont yn ymladd dros achos Hwngari annibynnol a rhyddfrydol. Roedd y Barwn Gyula Ottrubay Hruby, a gafodd ei ddienyddio yn Arad hefyd, yn Tsiec ac yn siarad Almaeneg, tra bod Damjanich o darddiad Serbaidd. Mae pen-blwydd eu dienyddiad yn cael ei gofio ar 6 Hydref fel diwrnod o alaru dros Hwngari.[2]

Y cadfridogion

[golygu | golygu cod]
Károly Knezić, József Nagysándor, János Damjanich, Lajos Aulich, György Lahner, Ernő Poeltenberg, Károly Leiningen-Westerburg, Ignác Török, Károly Vécsey, Ernő Kiss, József Schweidel, Arisztid Dessewffy, Vilmos Lázár,
Tri Merthyr Ar Ddeg Arad, llun gan Miklós Barabás
  1. Lajos Aulich (1793-1849)
  2. János Damjanich (1804-1849)
  3. Arisztid Dessewffy (1802-1849)
  4. Ernő Kiss (1799–1849)
  5. Károly Knezić (1808–1849)
  6. György Lahner (1795-1849)
  7. Vilmos Lázár (1815-1849)
  8. Károly Leiningen-Westerburg (1819-1849)
  9. József Nagysándor (1804-1849)
  10. Ernő Poeltenberg (1814–1849)
  11. József Schweidel (1796-1849)
  12. Ignác Török (1795-1849)
  13. Károly Vécsey (1807-1849)

Traddodiad

[golygu | golygu cod]

Yn ôl y chwedl, tra roedd yr arweinwyr chwyldroadol yn cael eu saethu, roedd milwyr Awstria yn yfed cwrw ac yn cydgysylltu eu mygiau cwrw yn haerllug i ddathlu gorchfygiad Hwngari. Felly addawodd yr Hwngariaid i beidio â chlecian eu gwydrau yfed yn ei gilydd fyth eto, wrth yfed cwrw - am 150 o flynyddoedd.[3][4][5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Új Forrás - 1998. 6.sz. Bona Gábor: A szabadságharc honvédsége". epa.oszk.hu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-07. Cyrchwyd 2024-10-06.
  2. "Hungary Commemorates 1848–1849 Heroes – Hungary Today". 6 October 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-04. Cyrchwyd 2015-06-27.
  3. Zrt, HVG Kiadó (October 6, 2006). "Miért nem koccint a magyar sörrel?". hvg.hu.
  4. Dániel, Rudolf (July 30, 2021). "Sörrel nem koccintunk – de vajon tényleg a '48-as forradalom leverése miatt?". divany.hu.
  5. Zsolt, Hanula (October 6, 2009). "160 éve nem koccint sörrel a magyar". index.hu.