Łowicz
Math | urban municipality |
---|---|
Poblogaeth | 26,928 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Lubliniec, Shepetivka, Reda |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Łowicz |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 23.41 km² |
Cyfesurynnau | 52.1°N 19.93°E |
Cod post | 99-400 |
Tref yng nghanolbarth Gwlad Pwyl yw Łowicz [ˈwɔvʲitʂ] ("Wofitsch") gyda 28,811 o drigolion (2016).[1] Mae wedi ei leoli yn Nhalaith Lódź, 'województwo lódzkie' (ers 1999); cyn hyn, arferai fod yn yn Nhalaith Skierniewice (1975-1998). Ynghyd a'r orsaf Bednary gerllaw, mae'r orsaf yn Łowicz yn un o brif orsafedd cyffordd reilffordd ganolog Gwlad Pwyl, lle bydd y rheilffordd o Warsaw (Warszawa) yn rhannu i ddau gyfeiriad - tuag at Poznań, a Łódź. Hefyd, mae'r prif orsaf yn Łowicz gyda chysylltiadau i reilffordd eilradd i Skierniewice.
Łowicz oedd preswylfa'r archesgobion yn y Gymanwlad Pwyleg-Lithwaneg. Gwasanaethant fel rhaglywiaid pan ddaeth y dref yn "brif ddinas" dros dro o Wlad Pwyl yn ystod y rhyngdeyrnasiad. O ganlyniad, er gwaethaf maint sylweddol fychan y ddinas mae gan Łowicz ei hesgob a basilica ei hun. Mae adfeilion hen gas tell yr esgob i'w gweld ar gyrion y dref. Credir fod Napoleon Bonaparte wedi aros mewn un o'r tai ar brif sgwâr y ddinas. Hefyd, roedd y ddinas yn ganolbwynt mwyaf ymosodiad yr Almaen yng ngoresgyniad Gwlad Pwyl, sef Brwydr yr Afon Bzura yn ymgyrch agoriadol yr Ail Ryfel Byd.
Mae gan Łowicz amgueddfa ethnograffig bwysig (Muzeum w Łowiczu) sydd yn arddangos celf Pwyleg ac arteffactau hanesyddol o'r rhanbarth. Hefyd yn Łowicz y ceir 'skansen' sef amgueddfa o adeiladau a ffordd o fyw traddodiadol, gyda'i tai pren nodweddiadol a thraddodiadol. Mae'n arddangosfa awyr agored helaeth yn arddangos strwythurau hanesyddol yn dangos bywyd traddodiadol pentrefol Pwyleg a chasgliad o arteffactau ar safle tros 17 hectar (42 erw), ar yrrion y ddinas.[2] Mae gan Łowicz dam pêl-droed a elwir yn Pelikan, sy'n nychu yn yr is-adrannau o gynghreiriau pêl-droed y wlad.
Ger y dref mae Pont Maurzyce, sef y ffordd-bont gyntaf yn y byd a gafwyd ei weldio, a adeiladwyd yn 1928 ar draws yr afon Słudwia. Fe'i cynlluniwyd yn 1927 gan Stefan Bryła gannwyd yn Nghrakóv 17 Awst 1886, bu farw'n Warsaw 3 Rhagfyr 1943, peirianydd adeiladu a weldiwr arloesol o Brifysgol Technoleg Lwów .[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae hanes Lowicz yn dyddio'n ôl i'r 12g, pan oedd gord (sef math o anheddiad amddiffynnol), a warchodai'r rhyd tros yr afon Bzura gorsiog yn bodoli yn lleoliad y castell. Sonnir am Lowicz yn gyntaf, fe'i sillafwyd Loviche, mewn bwl pabyddol y Pab Innocentius II, ar 7 Grffennaf 1136. Yn y ddogfen hon, cadarnhaodd y pab yr hawl gan Archesgobion Gniezno i berchnogi tir lleol. Yn 1214 neu 1215 ar Wolborz, yn 1214 neu 1215 bu i ddugion Piast o bedwar talaith Pwyleg: Leszek Gwyn y Cyntaf o Kraków, Konrad y Cyntaf o Masovia, Wladyslaw Odonin o Kalisz a Casimir y Cyntaf o Opole gyhoeddi'r hyn a elwir yn Fraint Imiwnedd, lle bu iddynt gadarnhau'r ffaith mai eiddo Archesgobion Gniezno oedd Lowicz. Ar y pryd, gelwid Lowicz yn villa (pentref), er fod plasdy'r archesgobion eisoes yn bodoli yma.
Nid yw'n wyddus pryd y derbynnwyd Lowicz siarter tref. Mae'r dogen gyntaf sy'n ei galw'n 'oppidium' (tref) yn dyddio'n ôl i 1298, a gyhoeddwyd gan Dug Boleslaw y Cyntaf o Płock. Cyn hynny, yn 1263, fe ysbeiliwyd Lowicz a'i llosgi mewn ymosodiad gan Lithwaniaid. Yn ôl y croniclydd Jan o Czarnkow, tua'r flwyddyn 1355 adeiladodd yr Archesgob Jaroslaw o Bogoria a Skotnik gastell Gothig o frics ar leoliad y cyn-gord. Daeth y castell yn un o breswylfeydd yr Archesgobion Gniezno a Gwlad Pwyl. Ar ben hynny, yn 1358, fe roddodd Hawliau Magdeburg i'r Dref Newydd (Nowe Miasto) a oedd newydd ei sefydlu. Bu i Civitas o Lowicz newydd ei leoli i'r dwyrain o'r hen gord, ar hyd y Bzura ac o gwmpas yr eglwys bren, a safai mewn lleoliad cyfoes yr Eglwys Gadeiriol Basilica.
Yn niwedd yr Oesoedd Canol roedd Lowicz yn sedd i gastellydd. Wedi'i leoli ar y ffin rhwng Teyrnas Gwlad Pwyl a Dugiaeth Masovia, parhaodd dan rheolaeth gadarn Archesgobion Gniezno. Yng nghanol y 14g Lowicz, ynghyd â 111 o bentrefi cyfagos, oedd r eiddo eglwysig mwyaf yng ngwlad Pwyl. Ar 17 Mai 1359, cadarnhaodd Siemowit III, Dug Masovia y berchnogaeth gan Arhesgobion Gniezno. Serch hynny, bu i ddugiaid Masovia ar sawl achlysur, geisio gosod Lowicz o dan eu hawdurdod, a arweiniodd at wrthdaro gyda brenhinoedd Pwyleg, a cefnogai'r Archesgobion. Ar 8 Ebrill 1382, bu i Lowicz fod dan warchae Siemowit IV, Dug Masovia, a bu gwrthdaro o'r fath ddychwelyd o bryd i'w gilydd hyd nes yr atodwyd Mazovia i wlad Pwyl.
Ffynnodd Lowicz yn y 15g. Yn 1404, bu i'r Archesgob Mikolaj Kurowski ariannu adeiladu'r eglwys frics gyntaf yn y dref, a phlwyf Babyddol newydd. Yn y 1430au, fe gymerwyd lle'r hen eglwys bren yn yn Hen Dref Lowicz gan gyfadeilad o frics ar ffurf Gothig. Ar 25 Ebrill 1433, bu i'r Archesgob Wojciech Jastrzebiec envi'r eglwys yn eglwys golegol, ac yn fuan wedyn, bu i gangen o Academi Kraków gael ei sefydlu yma.
Ar 24 Hydref 1419, cadarnhaodd yr Archesgob Mikolaj Traba starter drefol i Lowicz ac unodd reoliadau cyfreithiol y tair ardal o Lowicz: Podgrodzie (Maestref), Syllu Miasto (Hen Dref) a Nowe Miasto (Tref Newydd). Yn 1443, adeiladwyd neuadd y dref yn sgwâr y farchnad yn yr Hen Dref. Oherwydd ei lleoliadau cyfleus, freinitau brenhinol lluosog a ffeiriau aml, bu i Lowicz ffynnu. Arhosodd y dref o dan awdurdod yr Archesgobion o Gniezno, ac fel preswyliad i Archesgobion o Wlad Pwyl, roedd Lowicz, o bryd i'w gilydd yn gwasanaethu fel ail brifddinas y Deyrnas, yn ystod y cyfnodau a elwir yn ryngdeyrnasiad. Daeth y cyfnod o ffyniant i ben ar ôl trychineb y goresgyniad Swedaidd o Wlad Pwyl (1655 - 1660). Bron wedi ei dinistrio'n yn gyfan gwbl, bu i Lowicz byth adennill ei phwysigrwydd, ac fe ddaeth yn dref leol, fychan. Serch hynny, parhaodd i fod yn ganolfan ddiwylliannol, fel yn 1668 agorwyd un o'r Colegau Piaryddol cyntaf yng ngwlad Pwyl-Lithwania yno.
Yn dilyn yr Ail Raniad o Wlad Pwyl (1793) cafodd Lowicz ei atodi gan Ddeyrnas Prwsia. Yn 1807 daeth yn rhan o Ddugiaeth Warsaw, ac o 1815 hyd 1915 roedd yn perthyn i Gyngres Gwlad Pwyl a oedd yn cael ei reoli gan Rwsia (yn ddiweddarach Tir Vistula). Yn 1820, daeth tir yr Archesgobion o Gniezno yn eiddo Archddug Constantine Pavlovich o Rwsia a'i wraig Joanna Grudzinska, a rhoddwyd iddi'r teitl Dduges Lowicz. Ar 9 Gorffennaf 1822, sefydliodd Tsar Alexander y Cyntaf, o Rwsia yn ffurfiol, Dugiaeth Lowicz.
Yn 1831, yn dilyn ewyllys olaf Joanna Grudzinska, Duges Lowicz daeth Lowicz yn eiddo o lywodraethwyr Pwyleg.Ar y pryd ystyriodd Tsariaid Rwsia eu hunain yn Frenhinoedd Gwlad Pwyl, a bu'r ddugaeth yn perthyn iddynt tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn y cais Cadfridog Ivan Paskevich, a oedd yn lywodraethwr Gwlad Pwyl, caniataodd Tsar Nicholas y Cyntaf o Rwsia adeiladu'r rheilffordd gyntaf yng Ngwlad Pwyl Rwsiaidd.Cafodd y rheilffordd Warsaw–Fienna ei gwblhau yn 1848, gan roi cysylltiad rheilffordd i Lowicz â Warsaw, Kraków, Fienna a Breslau. Yn 1861, adeiladwyd Gorsaf reilffordd Lowicz Glowny. Oherwydd y gwaith o adeiladu ychwanegol ar y linell i Koluszki (Tachwedd 1866), daeth Lowicz i'r amlwg fel ganolbwynt rheilffyrdd, a chyfrannodd at ei ddatblygiad.
Yn dilyn Deddf y 5 Tachwedd, fe atodwyd Dugiaeth Lowicz i mewn i Ddeyrnas Gwlad Pwyl (1916-18), a oedd yn wladwriaeth pyped yr Ymerodraeth Almaeneg. Yn yr Ail Weriniaeth Pwyleg, roedd Lowicz a Sir Lowicz perthyn i Dalaith Warsaw, ond ar 1 Ebrill 1938, fe'i symudwyd i fod yn rhan o Dalaith Lodz, (gweler newidiadau Tiriogaethol o Daleithiau Gwlad Pwyl ar 1 Ebrill 1938). Yn ystod Goresgyniad o wlad Pryl, bu i Frwydr Bzura cymryd lle o fewn ardal o'r dref. Cipwyd Lowicz ei hun ei ddal gan y Wehrmacht ar 8 Medi 1939, cyn cael ei ddal eto gan y Fyddin Pwylaidd tri diwrnod yn ddiweddarach. Rhwng 14 a 16 Medi, bu i'r dref newid dwylo dair gwaith. Yn y diwedd, bu i'r lluoedd Pwyleg ildio a gadael Lowicz yn y nos ar 16/17 Medi 1939. Roedd Lowicz i aros mewn meddiannaeth Almaenig hyd at 17 Ionawr 1945.
Ghetto Łowicz
[golygu | golygu cod]Yn 1940, yn ystod Meddiannaeth Gwlad Pwyl y Natsïaid, sefylodd yr awdurdodau Almaenig ghetto Iddewig yn Łowicz,[4] er mwyn cyfyngu ei phoblogaeth Iddewig ar gyfer y diben o erledigaeth a chamfanteisio.[5] Fe diddymwyd y ghetto ym mis Mawrth 1941, pan gafwyd ei holl drigolion o 8,000–8,200 gael eu cludo mewn tryciau gwartheg i Ghetto Warsaw,[6] y ghetto mwyaf ymysg holl diriogaethau Natsïaidd Ewrop gyda thros 400,000 o Iddewon wedi eu gwthio i mewn i ardal o 1.3 milltir sgwar (3.4 km2). Oddi yno, cafodd y rhan fwyaf o ddioddefwyr eu hanfon i Wersyll Difodi Treblinka.[7][8][9][10]
Mannau o ddiddordeb
[golygu | golygu cod]- Eglwys Gadeiriol Baróc Basilica, a adeiladwyd yn ystod hanner cyntaf yr 17g gan y pensaer Eidalaidd Tomas Poncino. Dinistrwyd yn rhannol yn 1939, ac ail-adeiladwyd yn 1949.
- Eglwys Baróc Piaraidd (1672-80), gyda ffasâd Rococo.
- Cyn-eglwys yr Efengylwr (1838-39).
- Eglwys Neo-Gothic Mariavite (1910).
- Neuadd y dref neo-glasurol (1825-28), a gynlluniwyd gan Bonifacy Witkowski.
- Cenhadfa Baróc, a adeiladwyd yn gynnar yn y 18g gan Tylman van Gameren.
- Eglwys yr Ysbryd Glân, a adeiladwyd yn gynnar yn y 15g yn yr arddull Gothig, a ailadeiladwyd/hailfodelwyd sawl gwaith.
- Adfeilion castell Gothig Archesgobion Gwlad Pwyl, a adeiladwyd tua 1355 gan yr Archesgob Jaroslaw o Bogoria a Skotnik.Ysbeiliwyd a dinistrwyd gan oresgynwyr o Sweden yn 1655.
Pobl Nodedig
[golygu | golygu cod]- Mirosław Szonert (1926–1995), actor ffilm a theledu
Cysylltiadau Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Cyfaill-drefi/dinasoedd
[golygu | golygu cod]Mae Łowicz wedi ei hefeillio â:
- Cheektowaga, Erie County, NY, UDA
- Colditz, Saxony, yr Almaen
- Lubliniec, Silesian Voivodeship, Glad Pwyl.
- Montoire-sur-le-Loir, Loir-et-Cher, Centre-Val de Loire, Ffrainc.
- Reda, Pomeranian Voivodeship, Glad Pwyl.
- Šalčininkai, Lithwania.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Agros Nova am wybodaeth ar y brand a'r ffatri.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Population. Size and Structure and Vital Statistics in Poland by Territorial Division in 2016, as of December 31 (PDF). Warszawa: Główny Urząd Statystyczny. 2017. t. 114.
- ↑ "Museum in Lowicz - The History and the Collections". Muzeum Łowicz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-05. Cyrchwyd 2008-04-30.
- ↑ Sapp, Mark E. (22 Chwefror 2008). "Welding Timeline 1900-1950". WeldingHistory.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-03. Cyrchwyd 29 Ebrill 2008.
- ↑ The statistical data compiled on the basis of "Glossary of 2,077 Jewish towns in Poland" Archifwyd 2016-02-08 yn y Peiriant Wayback by Virtual Shtetl, Museum of the History of the Polish Jews; "Getta Żydowskie," by Gedeon; "Ghetto List" by Michael Peters at www.deathcamps.org/occupation/ghettolist.htm; adalwyd 12 Gorffennaf 2011.
- ↑ "The War Against The Jews." Archifwyd 2012-03-20 yn y Peiriant Wayback The Holocaust Chronicle, 2009; adalwyd 21 Mehefin 2011.
- ↑ "Getto w Łowiczu," at Miejsca martyrologii, Wirtualny Sztetl. Archifwyd 2014-12-17 yn y Peiriant Wayback Instytut Adama Mickiewicza
- ↑ Warsaw Ghetto, United States Holocaust Memorial Museum (USHMM), Washington, D.C.
- ↑ Richard C. Lukas, Out of the Inferno: Poles Remember the Holocaust (University Press of Kentucky, 1989), tud. 13; hefyd Richard C. Lukas, The Forgotten Holocaust: The Poles Under German Occupation, 1939-1944 (University Press of Kentucky, 1986), Google Print, tud.13.
- ↑ Gunnar S. Paulsson, "The Rescue of Jews by Non-Jews in Nazi-Occupied Poland", Journal of Holocaust Education 7:1&2 (1998), tud.19-44
- ↑ Edward Victor, "Ghettos and Other Jewish Communities." Judaica Philatelic; adalwyd 20 Mehefin 2011.