Ôl-adain goch

Oddi ar Wicipedia
Catocala nupta
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Catocala
Rhywogaeth: C. nupta
Enw deuenwol
Catocala nupta
(Linnaeus, 1767)
Cyfystyron

Phalaena nupta Linnaeus, 1767

Gwyfyn mawr iawn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw ôl-adain goch, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy ôl-adenydd coch (-ion); yr enw Saesneg yw Red Underwing, a'r enw gwyddonol yw Catocala nupta.[1] Mae i'w ganfod drwy Ewrop.

Wedi'i fframio
Darlun o lyfr John Curtis: British Entomology Volume 5

Caiff ei ddenu gan olau a siwgwr ac mae ei guddliw yn anghyffredin iawn. Pan mae'r gwyfyn hwn yn cael seibiant, ni ellir gweld ei ôl adenydd. Fel llawer o wyfynod, ei fwytawr pennaf ydy adar.

Mae lled ei adenydd, ar eu heithaf, yn 80 mm, sy'n eitha mawr.

Bwyd[golygu | golygu cod]

Prif fwyd yr oedolyn ydy dail helygen a phoplysen.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r ôl-adain goch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.