Édouard Valéry
| Édouard Valéry | |
|---|---|
| Ffugenw | Juste Fernand Lecœur |
| Ganwyd | 29 Chwefror 1924 La Coquille |
| Bu farw | 15 Medi 2010 Sarlat-la-Canéda |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Galwedigaeth | gwrthsafwr Ffrengig |
| Priod | Solange Sanfourche |
| Gwobr/au | Médaille de la Résistance, Chevalier de la Légion d'Honneur |
Roedd Édouard Valéry yn aelod o'r Gwrthsafiad Ffrengig. Fe'i anwyd ar 29 Chwefror 1924 yn La Coquille (Dordogne) a bu farw ar 15 Medi 2010 yn Sarlat-la-Canéda. Roedd ei frawd Henri hefyd yn aelod o'r Gwrthsafiad. Mae stryd yn Brive-la-Gaillarde wedi'i henwi ar ôl y brodyr i goffhau eu hymdrechion dros Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1] Derbyniodd Valéry urdd y Légion d'honneur am ei waith gyda'r Gwrthsafiad yn 2001.[2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Roedd tad Édouard Valéry, François, yn gyn-filwr y Rhyfel Byd Cyntaf a gadwai fferm yn La Coquille. Édouard Valéry oedd yr ieuengaf o'r teulu ar ôl ei frawd Henri. Symudodd ei rieni i Châlus (Haute-Vienne) i agor siop groser a redwyd gan ei fam o 1929 tan 1931. Gadawsant y busnes a dychwelyd i'r wlad ym 1931, gan gymryd meddiant o fferm yn Saint-Priest-les-Fougères o 1931 i 1933. Wedyn roeddent yn denantiaid yn Saint-Pierre-de-Frugie cyn dod yn feddianwyr fferm yn Firbeix. Aeth y teulu Valéry i fyw i dref Brive-la-Gaillarde yn Corrèze o 1941 ymlaen.[3]
Aelod o'r Gwrthsafiad Ffrengig
[golygu | golygu cod]Pan feddianwyd Ffrainc gan yr Almaen ym 1940 roedd Valéry yn 16 oed. Cymerodd ran mewn gweithgareddau dirgel gyda grŵp o gomwinyddion ifanc. Cafodd ef a'i frawd Henri eu harestion ym 1942 am ddosbarthu'r papur newydd tanddaearol Combat a bu mewn carchar am flwyddyn.[1][3] Wedi iddo gael ei ryddhau, ffurfiodd grŵp o wrthsafwyr arfog a chymryd rhan mewn gweithredau difrodi a thanseilio yn erbyn yr Almaenwyr.[3] Erbyn diwedd y rhyfel roedd yn brif arweinydd milwrol y Résistance yn ardal y Dordogne.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd yn Périgueux ym 1945 â Solange Sanfourche, a oedd hefyd yn rhan o'r Gwrthsafiad fel ysgrifennydd teipydd a swyddog cyswllt (nom de guerre: Marie-Claude). Cafodd yrfa ym myddin Ffrainc, gan ymladd yn Rhyfel Algeria.[3] Bu farw yn 2010.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 "Brive rend hommage à ses résistants - Brivemag". brivemag.brive.fr. Cyrchwyd 2026-07-27.
- 1 2 "Edouard Valery n'est plus". SudOuest.fr (yn Ffrangeg). 2010-10-08. Cyrchwyd 2026-07-27.
- 1 2 3 4 "VALÉRY Edouard – Maitron" (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2026-07-27.